- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 18 10 2007
Mae prosiectau i wella bywydau lleiafrifoedd ethnig a’u helpu i integreiddio i gymunedau Cymru ymhlith nifer o brosiectau ledled Cymru i elwa o hwb ariannol o £4 miliwn, a gyhoeddir heddiw o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr.
Mae deunaw o brosiectau cymunedol yng Nghymru yn elwa o'r £3,991,729, sy'n anelu at ddod a phobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol. Mae dros £600,000 o'r arian wedi’i ddyfarnu i bedwar prosiect a fydd yn helpu i integreiddio a chefnogi lleiafrifoedd ethnig yng nghymunedau Casnewydd ac Abertawe yn Ne Cymru.
Bydd Canolfan Gymunedol Tsieinïaidd Casnewydd yn gwario eu dyfarniad o £159,914 er mwyn parhau â’u gwaith da yn y cyfleuster galw i mewn yn y ddinas. Derbyniodd y prosiect hefyd ymron i £60,000 gan y Gronfa Loteri Fawr yn ôl yn 2004, i'w helpu i symud i'w adeilad cyfredol ac ymdopi â'r galw yn y gymuned. Bydd yr arian diweddaraf yn caniatáu i'r ganolfan ddarparu mynediad parhaus at help, cyngor a chefnogaeth i'r 300 neu'n fwy o'u haelodau a'u cyfeirio at y gwasanaethau priodol.
Un person a all warantu pwysigrwydd y gwasanaethau a gynigir gan y ganolfan yw Fookwan Chung, 60 mlwydd oed, a symudodd i Dde Cymru o Hong Kong dros 30 mlynedd yn ôl. Wrth esbonio’r gwahaniaeth mae’r prosiect wedi'i gael ar ei fywyd, dywedodd Fookwan: “Roeddwn i’n gweithio oriau hir fel cogydd mewn bwyty Tsieinïaidd, a oedd yn golygu nad oedd gennyf lawer o amser i ddarllen nac ysgrifennu Saesneg na’i siarad hyd yn oed,” dywedodd.
“Mae’r dosbarthiadau yn y ganolfan wedi gwneud bywyd yn haws o ran llenwi ffurflenni, siopa a chyfathrebu gyda phobl ar y stryd. Byddai wedi bod yn anodd dysgu heb gymorth y ganolfan."
Bydd arian gan Bawb a’i Le hefyd yn helpu i fynd i'r afael â phroblem camddefnyddio cyffuriau ymhlith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghasnewydd. Gyda’u dyfarniad o £241,070, bydd Newlink Wales, sefydliad camddefnyddio sylweddau annibynnol, yn datblygu gwasanaeth gwybodaeth cyffuriau i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn y ddinas, a fydd yn caniatáu ar gyfer gwell gwybodaeth gymunedol o ataliad a thriniaethau.
Mae’r gymuned Tsieinïaidd yn Abertawe hefyd yn elwa o’r dyfarniadau. Bydd Canolfan Gydweithredol Cymuned Tsieinïaidd Abertawe yn defnyddio eu grant o £133,942 ar hyrwyddo ffordd o fyw iachach ymhlith y gymuned a'r 400 neu'n fwy o aelodau sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Bydd plant ac oedolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe hefyd yn derbyn mwy o gefnogaeth i integreiddio i'r gymuned a byddant yn cael eu cyflwyno i ddarpariaeth chwarae mynediad agored lleol, diolch i grant o £72,555. Bydd Dinas a Chyngor Abertawe yn gwario’r arian ar gyflogi gweithiwr Datblygu Chwarae llawn amser i oruchwylio’r prosiect tair blynedd.
Wrth gyfeirio at yr effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn eu cael ar gymunedau ledled Cymru, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae Pawb a’i Le yn gwireddu ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac i ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag anfantais a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith bositif ar fywydau llawer o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae’r rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5001 a £1 miliwn i ystod eang o brosiectau cymunedol. Am wybodaeth bellach am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch wneud cais am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch gyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’.
Am wybodaeth bellach am y prosiectau a sut i gael manylion cyswllt yr unigolion a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.
Gwybodaeth pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol gychwyn ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags