- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 13 5 2008
Bydd ystod o brosiectau a ariannir ar draws Cymru yn mynd i'r afael â’r broblem gynyddol o ordewdra ymhlith plant yn uniongyrchol, diolch i hwb ariannol o dros £6.3 miliwn a gyhoeddir heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae pedwar prosiect ar ddeg ar hyd a lled y wlad yn elwa o’r £6,378,393 a ddyfarnir o dan fenter Ffordd o Fyw y Gronfa Loteri Fawr, sy’n anelu at ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o hyrwyddo bwyta’n iach, gweithgaredd a chwarae ymhlith plant trwy brosiectau sy’n cynnwys y teulu cyfan.
Gordewdra ymhlith plant yw un o’r tueddiadau iechyd mwyaf pryderus yng Nghymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gyda mwy o blant dros bwysau nac erioed o’r blaen. Nod Ffordd o Fyw yw brwydro yn erbyn gordewdra gan ddefnyddio tri o wahanol fodelau, y bydd y prosiectau llwyddiannus yn eu defnyddio i gyflwyno'r rhaglen. Y rhain yw modelau Ffrindiau Iach, Lleoedd Iach a Thiwtoriaid Cartref Iach.
Nod y Model Ffrindiau Iach yw cynyddu bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol trwy ddefnyddio plant hŷn fel mentoriaid ar gyfer plant iau. Bydd mentoriaid sy’n oedolion, rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid yn eu cefnogi. Clybiau Plant Cymru Kids Club (a ddyfarnwyd £425,797) yn Sir Gâr, De-orllewin Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (a ddyfarnwyd £492,273) yn Ne-ddwyrain Cymru yw’r sefydliadau a fydd yn peilota’r prosiectau o dan y model hwn.
Nod y model Tiwtoriaid Cartref Iach yw cynyddu bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol trwy gyflwyno rhaglenni cyngor a chefnogaeth ar gyfer plant a’u teuluoedd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (a ddyfarnwyd £490,243) yng Ngogledd Cymru a Bryncynon Community Revival Strategy Ltd (a ddyfarnwyd £493,321) yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf, ymhlith ystod o sefydliadau sy’n cyflwyno prosiectau o dan y model hwn.
Nod y model Lleoedd Iach yw cynyddu bwyta'n iach a gweithgaredd corfforol trwy weithgareddau a digwyddiadau cymunedol atyniadol a diddorol. Mae’n gosod pwyslais cynyddol ar faeth, gweithgaredd corfforol a chwarae plant o fewn cymunedau targed. Bydd Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion (a ddyfarnwyd £454,803) yng Ngheredigion a Chyngor Sir Ddinbych (a ddyfarnwyd £338,173) yng Ngogledd Cymru yn cyflwyno prosiectau o dan y model hwn trwy drefnu ystod o wyliau bwyta’n iach ac ymarfer corff yn y gymuned.
Bellach bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi gan arbenigwyr iechyd a maeth, Hall Aitken, trwy amrywiaeth o weithdai gan gynnwys y cyfryngau, cyngor un-i-un, ymweliadau prosiect rheolaidd, setiau dysgu gweithredol traws-prosiect, cefnogaeth ar y we a llinell gymorth. Bydd y prosiectau a ariannir yn casglu gwybodaeth a data am eu gweithgareddau a bydd pob un o’r modelau cyflwyno yn cael eu hasesu ar gyfer eu heffeithiolrwydd, eu cynaladwyedd a’u trosglwyddedd. Trwy gydweithio, bydd Hall Aitken a’r Gronfa Loteri fawr yn adnabod arfer da ac yn lledaenu dysgu ar draws Cymru a'r tu hwnt.
Mae Ffordd o Fyw yn un o ddwy ffrwd o dan raglen Teuluoedd Iach gwerth £20 miliwn y Gronfa Loteri Fawr ac mae’n ategu at yr ail ffrwd ‘Chwarae Plant’, sy’n gwario’r £13 miliwn sy’n weddill ar adeiladu parciau chwarae a gosod offer i gefnogi datblygiad chwarae plant yng Nghymru, ac i greu mentrau chwarae newydd.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y prosiectau, dywedodd Graham Benfield, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Teuluoedd Iach: “Mae’r prosiectau hyn wedi adnabod bylchau yn y ddarpariaeth a byddant yn symud mentrau newydd ymlaen a fydd yn mynd i'r afael â’r broblem gynyddol o ordewdra yng Nghymru.
“Mae gordewdra plant yn bryder mawr sy’n wynebu teuluoedd a’r llywodraeth yng Nghymru ac mae ein hymgynghoriad wedi dangos mai’r ffordd orau o fynd i'r afael â dylanwadau negyddol ar ffordd o fyw plant yw trwy ymdriniaeth sy’n ceisio cysylltu gweithgaredd corfforol a maeth. Mae tystiolaeth gyfredol hefyd yn dangos bod prosiectau sy’n mynd i'r afael â’r materion hyn trwy gynnwys y teulu cyfan yn fwy llwyddiannus a dyna pam fod y Gronfa Loteri Fawr wedi datblygu’r rhaglen Teuluoedd Iach.”
Lawr lwytho rhestr lawn o brosiectau a ariannwyd heddiw (dogfen Word)
- 46KB
Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol i Gymru. Fel arall, cewch ffonio swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.
Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd cyfweld, tynnu lluniau a ffilmio, cysylltwch ag Oswyn Hughes o swyddfa'r wasg Cronfa Loteri Fawr trwy anfon e-bost oswyn.hughes@cronfaloterifawr.org.uk neu ar y rhifau sydd i'w gweld ar waelod y datganiad.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags