Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Chwa o Awyr Iach i Lyndon ar ôl Cyfnod Cythryblus yn Gaeth i Alcohol

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
25 11 2011

Cafodd ei fwlio'n ddifrifol yn yr ysgol, collodd mwy o swyddi nag y gall eu cofio ar ôl i'w gaethineb i alcohol fynd mor wael y dechreuodd ddioddef o byliau o epilepsi ac yr oedd angen diod arno o'r adeg y deffrodd yn y bore tan iddi gwympo i gysgu neu lewygu gyda'r hwyr ar ôl lleddfu ei gaethineb anniwall.

Heddiw mae Lyndon James, sy'n 45 oed ac yn hanu o Landudno, yn hynod o ddiolchgar ei fod yn dal yn fyw ar ôl carcharu ei hun drwy alcoholiaeth ar hyd y rhan fwyaf o'i fywyd. Dim ond pan fu farw ei gyfaill ers 20 mlynedd o gamddefnyddio alcohol eleni yn 48 oed y dechreuodd agor ei lygaid i'r gwirionedd, penderfynu wynebu ei sefyllfa a goresgyn ei broblem gydag alcohol unwaith ac am byth cyn iddo fe ddioddef yr un dynged.

Mae Lyndon bellach wedi bod yn sobr ers dros bedwar mis ac yn teimlo bod ganddo awydd newydd am fywyd diolch i'r gefnogaeth a gafodd gan brosiect sydd wedi derbyn dyfarniad gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghonwy. Heddiw mae'n annog mwy o bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl i geisio cymorth gan brosiect Conwy Refrain a redir ar y cyd gan Aberconwy Mind a CAIS. Tair blynedd yn ôl dyfarnwyd dros hanner miliwn o bunnoedd (£596,756) i'r prosiect o dan raglen Iechyd Meddwl £15 miliwn y Gronfa Loteri Fawr, a'r nod yw hyrwyddo ailsefydlu ac annibyniaeth pobl sy'n cwympo i mewn i'r bylchau mewn gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau.

Mae Lyndon ymysg cannoedd o bobl sy'n derbyn cefnogaeth yn y prosiect ar gyfer problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae'r prosiect yn darparu gwasanaeth cwnsela therapiwtig am ddim i unigolion bob wythnos naill ai yng Nghanolfan Mind Aberconwy neu yng Nghanolfan DAWN ym Mae Colwyn, gyda'r nod o gynyddu hyder defnyddwyr gwasanaethau yn eu galluoedd i ymwneud â gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r gwaith a bywyd cymdeithasol.

Dechreuodd Lyndon yfed pan oedd yn 17 neu 18 oed:  

“Roedd gennyf broblem gydag yfed a waethygodd yn raddol dros y blynyddoedd,” meddai.

“Dechreuais fynd allan gyda fy mrawd ac roeddwn i'n yfed popeth. Meddyliais yr oedd yn rhan o dyfu i fyny a'r peth i'w wneud, i bob pwrpas.”

Bwlio

Fodd bynnag, cred Lyndon iddo gael ei baratoi ar gyfer bywyd o gamddefnyddio sylweddau ar ôl i'w hyder a'i hunanwerth bron â chael eu dinistrio'n llwyr gan fwlïau yn yr ysgol:

“Roeddwn mewn uned dysgwyr araf yn yr ysgol a ches i fy mwlïo'n ofnadwy oherwydd hynny," mae'n cofio.

"Roedd yn erchyll ac roeddent yn arfer piso arna i a phob math o bethau. Ni allaf hyd yn oed ailadrodd rhai o'r enwau y byddent yn fy ngalw i.  Pan adewais yr ysgol stopiodd y bwlio ond roedd fy hyder wedi'i mynd. Pan es i allan gyda ffrindiau, gwelais fod yfed yn fy ngwneud fi'n hyderus a pho fwyaf y byddwn yn yfed, mwyaf oedd fy hyder. Rhoddwyd y teimladau o fod yn ddi-werth i gefn fy meddwl. Roeddent yno, ond wedi'u cuddio gan yr alcohol."

Deiet o Yfed

Ar ei waethaf byddai Lyndon yn llyncu wyth neu naw peint o gwrw bob dydd, ac yna galw heibio'r siop ddiodydd ar ei ffordd adref i brynu poteli o win i ddod â'i ddiwrnod i ben. Weithiau byddai'n para am wythnosau heb gael bwyd.

“Os na orffennais yfed y gwin y noson honno, byddwn yn eu hyfed y bore wedyn," meddai.

"Roedd yn gylch cythreulig ac nid oeddwn yn arfer bwyta - dim ond yfed. Byddwn yn cael diod yn y bore i'm hatal rhag teimlo'n arw ac yno byddai'r yfed yn para drwy'r dydd. Byddwn weithiau'n treulio wythnosau heb fwyta. Efallai y byddwn yn cael ambell ddarn o dost nawr ac yn y man ond roeddwn yn dirywio'n hynod o gyflym ac roedd fy nghroen yn troi'n lliw uffernol. Ni yfais ddwr o gwbl yn ystod y dydd, dim ond alcohol. Roedd yn ofnadwy."

Wynebu'r Gwirionedd

Erbyn iddo gyrraedd ei 30au hwyr sylweddolodd Lyndon fod ei gaethineb wedi mynd y tu hwnt i reolaeth. Ond pan fu farw ei gyfaill o 20 mlynedd yn sgil camddefnyddio alcohol yn 48 oed, sylweddolodd fod rhaid i bethau newid cyn iddo fynd yn rhy hwyr.

“Bryd hynny credais ei fod yn normal - dyna oedd bywyd ers blynyddoedd," mae'n esbonio.

"Roedd marwolaeth fy ffrind yn bwynt isel dros ben i mi a barodd yn bendant i mi sylweddoli beth oedd o'm blaen. Aeth e i mewn i'r ysbyty ar fy mhen-blwydd, a chwe niwrnod wedyn diffoddwyd y peiriant cynnal bywyd a buodd e farw. Mae'n hynod o anodd dygymod â hynny o hyd, ond mi fyddai'n hynod o falch ohono i os oedd e yma heddiw."

Llencyndod Colledig

Wrth edrych yn ôl ar ei lencyndod , mae Lyndon yn cofio: "Dw i wedi colli mwy o swyddi nag y gallaf eu cyfrif oherwydd camddefnyddio alcohol. Ar y pryd credais mai eu problem nhw oedd hi ond mae'n amlwg mai gyda fi oedd y broblem. Byddwn yn troi i fyny wedi meddwi neu'n hwyr ac yna mi fyddwn yn yfed neu mi fyddwn yn sâl yn y gwaith."

Cafodd ei gaethineb afreolus effaith negyddol ar ei deulu, ac ar y pwynt isaf, dyheodd Lyndon am farw.

"Ar fy ngwaethaf, parodd i fy mam fod yn dost," esbonia Lyndon.

Roeddwn yn dyheu am farw cyn dipyn o'r amser. Nid oeddwn am geisio lladd fy hun ond meddyliais yn aml y byddai'n well os nad oeddwn i yma. Roeddwn yn arfer cael rhithwelediadau a phyliau epileptig."

Gyda'r Teulu Eto

Mae Lyndon bellach yn cymrodeddu â'i deulu:

"Wrth edrych yn ôl dw i'n teimlo'n dwp," mae'n dweud.

"Nid fi yn unig oedd yn dioddef. Fy rhieni, fy mhlant a'm teulu agos hefyd."

“Mae fy nheulu wedi bod yn gefn i mi diolch byth, ac maent yn hapus iawn fy mod heb yfed ers dros bedwar mis. Dw i bob amser yn ymddiheuro ond maen nhw'n mor falch ohono i. Mae fy mam yn llawer gwell, ac mae fy mrawd, ei wraig a'r plant i gyd eisiau fy nabod i nawr ac nid oes ofn ar y plant rhagor. Roedd ofn arnyn nhw o'r blaen gan nad oedden nhw'n gwybod p'un a oeddwn i'n feddw neu'n mynd i gael un o'm pyliau neu beidio. Ces i bwl o'u blaenau nhw sawl blwyddyn yn ôl a chawson nhw fraw. Nid oeddwn am i hynny ddigwydd."

Cymorth Gwych

Er iddo sylweddoli bod ganddo dipyn o ffordd i fynd o hyd, dyma'r amser hiraf y mae Lyndon wedi mynd erioed heb gael diod, a dim ond clod sydd ganddo ar gyfer y gefnogaeth y mae'n ei derbyn gan brosiect Conwy Refrain.

"Dw i'n dod yma bob wythnos, ac rydym yn eistedd i lawr ac yn siarad am fy mhroblemau. Mae wedi bod yn rhyfeddol. Duw a wyr ble byddwn hebddo. A bod yn gwbl onest dw i'n credu y byddwn yn farw. Maen nhw'n fy helpu i chwilio am gyfleoedd gwaith a hyd yn oed peth gwaith gwirfoddol. Ni alla i ddweud digon am y prosiect yma a pha mor dda y mae. Ble y byddwn hebddo dw i ddim yn gwybod. Dylai fod prosiectau fel hwn ym mhob cymuned. Mae'n dda cael pobl nad ydynt yn perthyn i'r teulu y gallwch eistedd i lawr a siarad â nhw heb eu bod nhw'n dy farnu di neu'n edrych i lawr eu trwyn arnat ti."

Mae Lyndon hefyd wedi gweld effaith aros yn sobr ar ei iechyd: “O ran fy iechyd mae wedi bod yn help enfawr,” meddai yn wên i gyd.

“Roeddwn yn dioddef gyda rhithwelediadau a phyliau epileptig ond dw i ddim yn eu profi nhw nawr. Dw i wedi bod yn iawn ers i mi roi'r gorau i yfed. Dw i'n teimlo can waith yn well. Dw i'n edrych yn well ac yn teimlo'n well, ac mae gen i arian yn fy mhoced drwy'r amser nawr hefyd. Mae fel cael fy ngeni eto a dw i'n berson cwbl wahanol nawr. Yr unig beth yr ydw i'n ei ddifaru yw na wnes i fe'n gynharach, ond mae ôl-ddoethineb yn beth gwych."

Bywyd 'Normal'

Mae Lyndon yn teimlo bod ganddo gyfle i roi ail gynnig ar ei fywyd diolch i'r prosiect, ac mae'n edrych ymlaen at y dyfodol gyda chryn dipyn o obaith:

"Mae gennyf fywyd newydd nawr ac mae'n teimlo fel cael fy ngeni eto," meddai.

"Nid ydw i eisiau dychwelyd i'r hen drywydd. Roeddwn eisiau gwybod sut mae bod yn normal yn teimlo a dw i'n gwybod bellach nad ydw i am fynd yn ôl."

Mae ei gyngor ar gyfer y sawl sydd wedi goddef sefyllfaoedd tebyg yn glir:

"Ewch allan i gael cymorth cyn i bethau fynd yn rhy wael. Rhowch gynnig arni. Does dim byd i'w golli ac efallai lot fawr i'w ennill. Os gall rhannu fy mhrofiadau helpu dim ond un person arall mae'n werth chweil."

Gan amlygu pwysigrwydd arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau fel hwn, meddai Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru a Chaadeirydd y Pwyllgor Iechyd Meddwl, Barbara Wilding: "Mae'r prosiect yma'n cael effaith sylweddol ar fywydau pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yng Nghonwy. Mae ein hariannu'n gwneud cyfraniad strategol pwysig at ddatblygu gwasanaethau ar draws Cymru drwy helpu pobl gydag ystod o broblemau a chefnogi prosiectau fel yr un yma sy'n ceisio goresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu."

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu hanner yr arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.  
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da.  O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Iechyd a lles
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
ADBORTH