- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 9 4 2008
Mae darn mawr o ymchwil a gomisiynwyd gan y Gronfa Loteri Fawr wedi gwneud argymhellion allweddol i fynd i'r afael â’r rhwystrau y mae pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu yng Nghymru wledig.
Fel rhan o’i hymgyrch Mwy na Rhif i godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl yng Nghymru ac i gefnogi ei rhaglen grant Iechyd Meddwl gwerth £15 miliwn, fe gomisiynodd y Gronfa Loteri Fawr Mind Cymru i ymgymryd ag astudiaeth o brofiadau pobl ifanc o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wledig.
Nod yr astudiaeth, y cyhoeddir y canlyniadau heddiw fel rhan o Wythnos Weithredu Iechyd Meddwl, yw adnabod y rhwystrau y mae'r rhai rhwng 18-40 mlwydd oed yn eu profi yn rhannau mwyaf gwledig Cymru. Roedd yn edrych ar y potensial ar gyfer cysylltu sefydliadau cymunedol nad ydynt yn sefydliadau iechyd meddwl i gefnogi iechyd a lles meddyliol pobl ifanc y maent mewn cysylltiad â hwy. Cynhaliwyd yr ymchwil yng Ngwynedd, Powys a Cheredigion rhwng mis Gorffennaf a Medi 2007. Fe sicrhaodd fewnwelediadau newydd gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o drallod meddwl a chan bobl sy’n gweithio yn y maes hwn, ynghyd â chan sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau iechyd meddwl.
Lle fo bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth dan sylw, dangosodd yr astudiaeth ddiffyg hyrwyddo iechyd meddwl ar bob lefel gan gynnwys ysgolion, cyflogwyr, addysg bellach a meddygfeydd Meddygon Teulu. Fel rhan o’r astudiaeth, adnabu’r ymatebwyr rai o’r rhwystrau tuag at gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Stigma oedd yn achosi’r pryder mwyaf, a thynnwyd sylw at ddiffyg gwybodaeth gywir am drallod meddwl fel ffactor arwyddocaol. Honnir fod y cyfryngau yn meithrin agweddau negyddol sydd yn eu tro yn dylanwadu ar farnau pobl ifanc eraill. Yn arwyddocaol, mae pobl ifanc hefyd yn profi agweddau negyddol gan weithwyr proffesiynol mewn gwahanol asiantaethau.
Ceir amharodrwydd i fynd at y Meddyg Teulu am gefnogaeth, yn arbennig o fewn cymunedau llai. Roedd un ymatebydd yn pryderu ei fod yn adnabod staff y ganolfan feddygol ac yn ofni y byddai’r newyddion yn lledaenu o amgylch ei bentref trwy fân siarad. Nododd rhai ymatebwyr fod teuluoedd yn aml yn gyndyn o dderbyn bod aelod o’r teulu yn dioddef o drallod meddwl sy’n cymhlethu problemau’r dioddefwyr ymhellach. Ymhlith rhai o’r rhwystrau eraill a nodwyd oedd ariannu tymor byr ar gyfer prosiectau iechyd meddwl y sector gwirfoddol, cyfathrebu gwael rhwng yr asiantaethau sy’n chwarae rôl wrth ddarparu cefnogaeth a’r unigedd sy’n aml yn deillio o fyw mewn ardal wledig. Cymhlethir yr unigedd gan gysylltiadau trafnidiaeth lleol gwael. Nodwyd y dylai hyrwyddo iechyd meddwl a’i addysgu ddechrau o fewn ysgolion.
Wrth dynnu sylw at y rhwystrau a wynebir o ddydd i ddydd, dywedodd un person ifanc a gymerodd ran yn yr ymchwil: “Mae trallod meddwl yn rhywbeth y bydd yn rhaid i mi fyw gydag ef am weddill fy mywyd. Rwyf wedi profi stigma trwy anoddefgarwch ac anwybodaeth ac yng Nghymru wledig mae diffyg gwybodaeth am ba wasanaethau sydd ar gael – rhaid i chi fynd i edrych amdanynt. Nid yw’r ardal yn un dda ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl gan mai cyfyngedig yw’r dewisiadau oherwydd adnoddau cyfyngedig a bod cymaint eu hangen.
“Nid yw problemau pobl ifanc yn cael eu hystyried mor ddifrifol â rhai oedolion gyda phwysau teuluol. Nid yw pobl ifanc yn cydnabod bod ganddynt broblem – nid ydynt yn sylweddoli! Nid oes digon o ymwybyddiaeth iechyd meddwl o fewn ysgolion. Nid oeddwn i’n gwybod fy mod yn dioddef ag iselder hyd nes i mi adael yr ysgol. Rhan fwyaf o’r amser rydych chi'n teimlo eich bod chi'n dioddef ar eich pen eich hun."
Mabwysiadwyd ymdriniaeth ymchwil weithredol ac mae'r canfyddiadau yn cynnwys chwech o argymhellion allweddol ar gyfer newid sef: cyflwyno rhaglen ymwybyddiaeth iechyd meddwl genedlaethol i'w chyflwyno i'r cyhoedd; mynd ar ôl y sefydliadau hynny a fynegodd ddymuniad i chwarae fwy o ran mewn gwaith iechyd meddwl a pheilota rhai darnau penodol o waith ar lefel leol; defnyddio modelau gwasanaeth cyfredol sydd eisoes yn cyflwyno gwasanaethau yn y gymuned i adeiladu arnynt megis y Gwasanaeth Ieuenctid; adolygu trefniadau eiriolaeth cyfredol ar gyfer pobl ifanc a gweithredu strategaethau er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc sy’n dioddef trallod meddwl gefnogaeth eiriolwr i'w helpu i ddefnyddio gwasanaeth; mabwysiadu ymdriniaeth datblygu cymunedol er mwyn archwilio cyfleoedd o fewn cymunedau, yn enwedig o fewn cymunedau llai poblog, er mwyn meithrin gallu i ddatblygu ymatebion lleol er mwyn adnabod angen; archwilio ffyrdd creadigol o weithio gyda phobl ifanc.
Wrth fanylu ar y canfyddiadau, dywedodd Ruth Coombs, Rheolwr Dylanwad a Newid dros Mind Cymru: “O'n safbwynt ni un o ganfyddiadau mwyaf addawol yr ymchwil yw bod naw deg pump y cant o sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau iechyd meddwl yr ymgynghorwyd â hwy eisiau chwarae mwy o ran o fewn iechyd a lles meddyliol yng Nghymru wledig. Mae hyn yn cadarnhau ein safbwynt fod iechyd a lles meddyliol yn fusnes i bawb”.
Wrth gyfeirio at yr astudiaeth, dywedodd Barbara Wilding, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Iechyd Meddwl: “Gobeithiwn y bydd yr ymchwil yn hyrwyddo trafodaeth am ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru wledig a’r rôl y gallai’r holl asiantaethau ei ddarparu wrth helpu pobl i fwynhau gwell iechyd a lles meddyliol. Mae un o bob pedwar ohonom yn debyg o brofi problemau iechyd meddwl rywbryd yn ystod ein bywydau felly mae'n bwysig cydnabod y mater a sylweddoli bod yr holl bobl hynny'n fwy na rhif."
Ynghyd ag ychwanegu at y ddysg gyfredol, gobeithir y bydd y sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymchwil yn gweithredu ar yr argymhellion a'r canfyddiadau. Bydd cynhadledd a gynllunnir ar gyfer mis Mehefin 2008 yn Aberystwyth yn archwilio’n fanwl rhai o’r materion a’r canfyddiadau allweddol a godwyd yn yr ymchwil.
Er mwyn cael gwybod mwy am y prosiect Ymchwil Gwledig ac i drefnu cyfweliadau, ffotograffau a chyfleoedd ffilmio, cysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa'r wasg Cronfa Loteri Fawr trwy'r e-bost neu'r rhifau isod.
Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grwpiau wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio’r cyfleuster chwilio penodol i Gymru. Fel arall, gallwch ffonio swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan at www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags