- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 6 5 2008
Mae prosiect i gefnogi’r rheini sydd fwyaf wrth risg o gyflawni hunanladdiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr a phrosiect i ddarparu cyfleoedd dysgu ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru ymhlith ystod o grwpiau a sefydliadau iechyd meddwl ar draws y wlad ac sy’n elwa o filiynau o bunnau o nawdd, a gyhoeddir heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae prosiectau ar hyd a lled y wlad yn elwa o raglen Iechyd Meddwl y Gronfa Loteri Fawr, sy’n anelu at hyrwyddo adferiad ac annibyniaeth pobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol yng Nghymru a chefnogi’r rheini sydd fwyaf wrth risg o gyflawni hunanladdiad.
Gyda’r £999,000 maent wedi’i dderbyn, bydd Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg yn rhedeg prosiect "Lets Talk" - "Siaradwn Ni", sy’n anelu at ostwng stigma a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd yn ymwneud â materion iechyd meddwl ar draws ardaloedd bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot. Cyflawnir hyn trwy ddarparu fframwaith gwybodus a hyfforddedig o gefnogaeth ac atal cyflawni hunanladdiad, gan annog adnabyddiaeth ac ymateb cynt. Bydd y prosiect yn gweithio gyda chonsortiwm o wasanaethau’r sector gwirfoddol a statudol, gan gynnwys Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc lleol, i greu strwythur o atgyfeirio, cefnogaeth a chydweithio rhyngasiantaethol.
Gyda grant o ymron i un filiwn o bunnau (£995,567), bydd Cymdeithas Addysgol Gweithwyr Coleg Harlech (Gogledd Cymru), yn rhedeg prosiect i gyflwyno cyfleoedd dysgu wedi’u teilwra’n unigol ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Bydd cyrsiau yn cael eu cyflwyno o fewn amgylcheddau cyfarwydd wedi’u cefnogi mewn canolfannau adnoddau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru a Gogledd Powys.
Mewn prosiect a fydd yn gwasanaethu Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, bydd y sefydliad Helping Groups To Grow yn gwario eu dyfarniad o £679,461 ar brosiect i ddatblygu rhaglen dreigl 13 wythnos o waith grŵp cynhwysfawr a therapiwtig, a fydd yn cael ei chyflwyno i unigolion sydd wedi profi niwed sylweddol o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau a hanes seicogymdeithasol.
Ac mae help hefyd i'r digartref yn Ne-ddwyrain Cymru. Bydd grant o £316,514 yn caniatáu i Solas Cymru Ltd ddarparu cefnogaeth seicotherapiwtig i ddynion a gwragedd digartref yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen, sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol. Bydd hyn yn galluogi iddynt adnabod, cydnabod a gallu gweithredu ar y rhesymau seicolegol dwfn sy’n gorwedd y tu ôl i'r anawsterau maent yn eu hwynebu. Bydd y gwasanaeth yn helpu pobl i symud ymlaen yn llwyddiannus yn yr hirdymor a hynny’n ymarferol ac yn seicolegol.
Mae prosiectau sydd o fudd i Gymru gyfan hefyd wedi derbyn hwb ariannol arwyddocaol. Gyda’r £659,508 maent hwy wedi’i dderbyn bydd HAFAL yn cefnogi ac yn cynorthwyo pobl sydd â salwch meddwl difrifol i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag dychwelyd i'r gwaith neu gyflawni eu nodau galwedigaethol. Bydd y prosiect yn cynnig cefnogaeth unigol ddwys i fuddiolwyr gan eu caniatáu i ymgymryd â chyfleoedd cyflogaeth. Ac mewn prosiect a fydd yn cyflwyno gwasanaethau ar draws Cymru, bydd Mind Cymru yn gwario £987,955 i hyrwyddo adferiad pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a chefnogi pobl sydd fwyaf wrth risg o gyflawni hunanladdiad. Bydd hyfforddwyr yn gymwys i gyflwyno gwybodaeth i weithwyr proffesiynol a grwpiau cymunedol ar draws y wlad i'w galluogi i adnabod y buddiolwyr a’u cyfeirio at gefnogaeth a thriniaeth.
Bydd grant o £789,215 hefyd yn galluogi i’r Gymdeithas Anhwylderau Bwyta gydweithio gyda grwpiau bwyta eraill i sefydlu isadeiledd Cymru gyfan o ddefnyddwyr, gwirfoddolwyr ac asiantaethau gwirfoddol a statudol. Bydd y prosiect yn anelu at gynnig gwell cefnogaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan anhwylderau bwyta ac i ostwng nifer yr ailbylau, yr argyfwng a’r hunanladdiadau trwy ddarparu cefnogaeth hirdymor yn y gymuned.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd yr arian dywedodd Barbara Wilding, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Iechyd Meddwl: “Mae un o bob pedwar ohonom yn debyg o brofi problemau iechyd meddwl rywbryd yn ystod ein bywydau felly mae'n bwysig cydnabod y mater. Pobl â phroblemau iechyd meddwl yw rai o’r bobl fwyaf difreintiedig o fewn cymdeithas ac yn aml maent yn wynebu amddifadedd lluosog. Mae nifer wedi’u hynysu a chanddynt hunan-barch isel a dyheadau isel. Mae eu cyflwr wedi’i waethygu gan stigma, diffyg dealltwriaeth a'r gwahaniaethu maent yn eu hwynebu'n ddyddiol."
Ychwanegodd: “Bydd y prosiect hwn yn cael effaith arwyddocaol ar fywydau pobl sy’n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru a bydd ein harian yn gwneud cyfraniad strategol pwysig i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y sir, trwy helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chefnogi prosiect sy'n ceisio goresgyn y rhwystrau maent yn eu hwynebu."
Am wybodaeth bellach ynghylch y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol i Gymru. Fel arall, cewch ffonio swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwn i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags