Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Mam i Fachgen a Foddodd yn Anfon Neges Diogelwch Dŵr

Area:
Cymru
Programme:
Arian i Bawb Cymru
Release date:
5 7 2012

Ar ôl i sawl person gael ei achub a sawl bywyd gael ei golli'n drasig yn afonydd Cymru yr haf yma, mae mam o Ogledd Cymru a gollodd ei hunig fab mewn damwain foddi yn defnyddio grant gan y Gronfa Loteri Fawr i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch mewn afonydd a'r môr - mewn pryd yn union i'r gwyliau ysgol.    

Ar 14 Awst 2006, collodd Debbie Turnbull o Landudno ei mab 15 oed, Chris, mewn damwain foddi ar Afon Conwy, Gogledd Cymru. Roedd Chris wedi bod yn chwarae gyda ffrindiau ac nid oedd yn ymwybodol ei fod yn nofio mewn man peryglus ar Raeadr Lligwy yng Nghapel Curig.

Ers hynny mae Debbie wedi ymrwymo i wneud popeth y gall i atal unrhyw deulu arall rhag gorfod profi hunllef gyffelyb. Yn dilyn y tywydd gwael yn ddiweddar a hyd yn oed yn fwy o fywydau'n cael eu colli ar afonydd Cymru yr haf yma, mae Debbie yn defnyddio grant o bron £5,000 gan raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr i redeg prosiect sydd â'r nod o ddysgu mwy o blant am beryglon chwarae mewn afonydd ac o'u cwmpas.

Ers i Chris farw, mae Debbie wedi sefydlu ei mudiad ei hun yn Llandudno o'r enw River and Sea Sense, ac mae hi'n siarad â miloedd o blant mewn ysgolion ym mhob cwr o'r wlad bob blwyddyn. A chyda'r gwyliau haf ar y gorwel, bydd yr arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo diogelwch ar afonydd a'r môr trwy alluogi mwy o wirfoddolwyr i wneud cyflwyniadau i ysgolion, grwpiau ieuenctid, sgowtiaid a chadetiaid yng Ngogledd Cymru - yn ardal Conwy yn bennaf.

Mae'r prosiect yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau ymwybyddiaeth diogelwch dwr yn ogystal â hyfforddiant achub bywydau ac argyfwng.  Ar hyn o bryd mae Lefel 1 yn cael ei chyflwyno i blant o oedran ysgol cynradd, ac yn ôl Debbie mae'r adborth gan rieni, athrawon a'r bobl ifanc wedi bod yn syfrdanol.

Mae Lefel 1 yn ymwneud â'r grwp o ddeuddeg o ddisgyblion yn mynd ar daith i ganolfan hyfforddiant awyr agored lle maent yn cael cyfarwyddiaeth gan Hyfforddwyr Dwr Swift ar ymwybyddiaeth diogelwch dwr sylfaenol. Yna maen nhw'n cael sesiwn gyda Debbie wrth iddi adrodd ei stori ac yn mynd â nhw ar 'ymarfer chwilio am y peryglon' i Raeadr Aber, sy'n amlygu llawer o sefyllfaoedd 'beth os'. Maen nhw hefyd yn cael cwrdd â'r cwn achub a'u gweld nhw wrth eu gwaith, ac yn gweld sut mae'r gwasanaethau brys yn gweithio.  

Nid oes unrhyw beth arall fel y rhaglen hon unrhyw le arall sy'n dod â hwyl ac addysg a phrofiadau 'bywyd real' ynghyd, meddai Debbie.

“Byddwn yn symud i fyny hyd at lefel 5, y byddwn yn cael achrediad ar ei chyfer gan olygu wedyn y gallwn gynnig y cyrsiau i golegau ac unrhyw grwp oedran pa lefel bynnag y mae ganddynt ddiddordeb ynddi.”

"Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys agweddau addysgol eraill sy'n ymwneud â diogelwch mewn afonydd, gan gynnwys ymweliadau ag ardaloedd peryglus penodol ar afonydd yn ogystal â thaith o gwmpas y Pencadlys Achub ar y Mynydd pryd bynnag y bo'n bosib."

David Jones o International Rescue Training Centre Wales: “Mae gan Debbie ddull cyfathrebu gafaelgar ac yn cyfleu ei neges mewn ffordd bwerus a dylanwadol nad yw'r bobl ifanc hyn yn ei hanghofio.”

Ac wrth gwrs dyma adeg bwysicaf y flwyddyn i fod yn addysgu teuluoedd am ddiogelwch o gwmpas afonydd yn ôl Debbie, sydd hefyd wedi datblygu'r map diogelwch dwr cyntaf erioed yn y DU, offer ar-lein arloesol sy'n amlygu pob man peryglus mewn afonydd ar draws y DU.

“Gyda'r ysgolion ar fin gorffen dros yr haf a chan ystyried y tywydd ofnadwy sydd gennym ar hyn o bryd, mae hyd yn oed yn bwysicach i ni drafod diogelwch o gwmpas afonydd”, mae hi'n esbonio.

“Dyna'r rheswm y bu farw fy mab. Aeth e i Gapel Curig gyda'i gyfeillion fel yr oedd wedi bod yn ei wneud trwy'r flwyddyn. Cawsom gawod drom a greodd raeadr. Cafodd ei sugno i lawr mewn trobwll, cafodd ei droed ei ddal a daeth e byth yn ôl i fyny."

“Mae wedi bod yn daith feddyliol ofnadwy. Mae'n sioc ac mae'n arswyd pur pan glywch y newyddion. Oni bai eich bod wedi byw trwy hyn mae'n amhosib ei ddychmygu. Nid oes dim byd yn waeth na cholli plentyn a dyna pam dw i'n gwneud yr hyn yr ydw i'n ei wneud nawr. Chris oedd fy ffrind gorau a'm henaid hoff cytûn. Ef oedd fy mywyd i."

Colli Chris oedd yr hyn a ysgogodd Debbie i sefydlu River and Sea Sense: “Dechreuais ar y prosiect hwn dair wythnos ar ôl i'm mab farw ac rwyf wedi siarad â 62,000 o blant ers hynny,” meddai.

"O'r sgyrsiau dw i wedi'u cael, mae diffyg gwybodaeth pobl am ddiogelwch ger y dwr yn frawychus. Trwy'r prosiect hwn a thrwy addysgu pobl, fy nod i yw achub cynifer o fywydau â phosib. Mae'r prosiect yn cyfiawnhau'r ffordd yr wyf yn teimlo, ond gwn na fydd erioed yn dod â Chris yn ôl."

"Pan glywaf ar y newyddion am bobl yn cael eu hysgubo i ffwrdd, mae'n dod â'r cyfan yn ôl i mi. Bob tro yr wyf yn clywed am ddamwain arall ar y teledu neu'r radio mae'n teimlo fel ddoe, ac rwyf yn ôl yn y lle yr oeddwn i."

PrFont34Bin0BinSub0Frac0Def1Margin0Margin0Jc1Indent1440Lim0Lim1Mae neges ddiogelwch Debbie ar gyfer pobl yr haf yma yn glir: "Peidiwch â gadael i'ch plant fynd y tu hwnt i'ch golwg a pheidiwch â thanamcangyfrif nerth y dwr," meddai.

“Unrhyw le y mae mynyddoedd ac afon yr haf yma, yr hyn y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohono yw nad yw'n bwysig pa mor gynnes y mae y diwrnod hwnnw - bydd tymheredd y dwr sy'n dod i lawr o'r mynydd mor oer â'ch oergell gartref. A dyna'r ffordd symlaf o'i ddweud e. Mae'n gwbl wahanol i'r hinsawdd y tu allan. Ac mae angen hefyd i bobl sylweddoli bod glannau'r afon yn cael eu herydu, yn enwedig mewn tywydd fel hyn, felly mae angen iddyn nhw fod yn ofalus iawn wrth gerdded ar lan yr afon gan y gallai'r tir fod yn ansefydlog, ac fel allent gwympo i mewn.  Blwyddyn ar ôl i'm mab farw, bu farw bachgen bach arall ychydig i lawr yr afon o le y boddodd Chris. Roedd e allan am dro gyda'i fam ac fe lithrodd i mewn a boddodd. Gwnaethant weld e'n cael ei ysgubo i ffwrdd a doedd dim byd y gallent ei wneud."

Ychwanegodd: "Mae angen hefyd i chi fod yn ymwybodol o gerrynt terfol - mae llythrennol yn tynnu eich bywyd i ffwrdd ohonoch chi. Gallwch gael eich dal mewn creigiau o dan y dwr, a dyna beth ddigwyddodd i Chris."

Gan annog mwy o grwpiau yng Nghymru i ymgeisio am ariannu, meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, “Mae'r prosiect hwn yn enghraifft dda o sut gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn y cymunedau mwyaf anghenus. Dyna pam rydym yn annog mwy o grwpiau a phrosiectau cymunedol i fanteisio'n llawn ar fuddion y rhaglen hon.”

Ychwanegodd:  “Neges syml sydd gennym - os oes gan grwp cymunedol syniad ar gyfer prosiect sy'n cefnogi gweithgaredd cymunedol, yn estyn mynediad a chyfranogiad, yn cynyddu sgiliau a chreadigrwydd neu'n gwella ansawdd bywydau yn eu hardal yn gyffredinol, yn bendant rydym am glywed oddi wrthynt.”

I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen Arian i Bawb a sut y gallwch ymgeisio, ewch i www.arianibawb.org.uk neu ffoniwch 0845 4 10 20 30.

I gael mwy o wybodaeth am River and Sea Sense a sut y gallech chi elwa ohono, ewch i www.riverandseasense.com neu e-bostiwch debbie@riverandseasense.com. Mae Debbie hefyd wedi datblygu'r system adrodd am foddi a damweiniau cenedlaethol, y gallwch ddod o hyd iddi yn www.watersafetymap.co.uk

Darparodd BBC Capture Wales raglen lle greodd Debbie ffilm fer y gwnaeth ei llunio a'i chynhyrchu ei hun, ac mae hi bellach yn dangos hyn yn ei holl gyflwyniadau.  Gweler http://www.bbc.co.uk/wales/arts/yourvideo/media/pages/debbie_turnbull_01.shtml

Y Côd Diogelwch Dwr - Cael Hwyl, Aros yn Ddiogel

1.  Chwiliwch am y peryglon

Byddwch yn arbennig o ofalus pryd bynnag y byddwch yn ymyl y dwr:

• Peidiwch byth â chwarae dwli neu redeg wrth ochr y dwr - gallech chi faglu a chwympo i mewn

• Byddwch yn ofalus ar lan yr afon – fe allai fod yn llithrig a mynd ar chwâl

• Cadwch i ffwrdd o ymylon camlesi - mae'r dwr yn aml yn ddwfn iawn

• Gochelwch lociau a choredau - mae'r dwr yn llifo'n gyflym iawn

2.  Gwrandewch ar gyngor diogelwch

I fod yn ddiogel, dewiswch bwll nofio neu draeth sydd ag achubwyr bywyd:

• Dilynwch gyngor yr achubwr bywyd - gallwch gael gwybod am ble a phryd y mae'n ddiogel i nofio

• Cadwch lygad allan am arwyddion neu fflagiau sy'n dweud p'un a yw'n ddiogel i nofio ai beidio

• Peidiwch byth â nofio os bydd arwydd neu fflag yn dweud wrthych i beidio â'i wneud

3. Peidiwch â mynd ar eich pen eich hun

Os ydych ar eich pen eich hun ni fydd neb yno i'ch helpu os byddwch yn mynd i drafferth yn y dwr

• Peidiwch byth â mynd i nofio, pysgota neu mewn bad ar eich pen eich hun

• Ewch gyda ffrind a all eich helpu os ydych mewn trafferth mewn dwr garw - hyd yn oed os na all eich helpu, fe all fynd i nôl cymorth

• Gwnewch yn siwr bod oedolyn yn gwybod ble rydych chi'n mynd a phryd y byddwch chi'n ôl

4. Dysgu sut i helpu

Os byddwch yn gweld rhywun mewn trafferth yn y dwr, dyma sut y gallwch chi helpu:

• Pwyllwch - meddyliwch bob tro cyn gwneud unrhyw beth

• Ceisiwch gael cymorth – gweiddwch ‘’help, help’’ mor uchel ag y gallwch

• Estynnwch allan gyda ffon, polyn, tywel neu ddillad i dynnu'r person i ymyl y dwr - gorweddwch i lawr wrth i chi geisio tynnu rhywun i mewn i osgoi cael eich tynnu i mewn eich hun

• Os na allwch gyrraedd y person a does neb yn dod pan fyddwch yn gweiddi am help, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am gymorth

PEIDIWCH BYTH Â NEIDIO I MEWN I'R DWR EICH HUN!

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/biglotterywales
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales  
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100k y diwrnod mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Pobl Ifanc
ADBORTH