Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Therapi cerdd ar gyfer cleifion hosbis

Area:
Cymru
Programme:
Arian i Bawb Cymru
Release date:
22 12 2011

Mae grwp sy'n darparu cyngherddau ar gyfer oedolion a phlant mewn hosbisau a chartrefi gofal ymysg y rhai sy'n elwa o'r rownd ddiweddaraf o arian Loteri.

At ei gilydd bydd 39 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £152,792 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf Arian i Bawb, rhaglen grantiau bach y Gronfa Loteri Fawr (cliciwch yma i weld rhestr lawn o ddyfarniadau 
- 45KB
).

Bydd Music in Hospitals yn defnyddio'r £4,964 a ddyfarnwyd iddynt i ddarparu 34 o gyngherddau ar gyfer oedolion a phlant sy'n derbyn gofal, cefnogaeth a thriniaeth mewn ysbytai, hosbisau, cartrefi gofal ac ysgolion anghenion arbennig yng ngogledd, canolbarth a de Cymru. Nod y prosiect yw annog pobl i gymryd rhan yn y digwyddiadau er mwyn helpu i leddfu straen. Mae Music in Hospitals, a sefydlwyd ym 1978, yn cynnal bron 5,000 o gyngherddau byw bob blwyddyn yn y DU.

Meddai Melanie Peters, Rheolwr Datblygu Music in Hospitals yng Nghymru: "Mae ymchwil yn dangos y gall cerddoriaeth fyw gynorthwyo'r broses wella, lleihau poen, pryder ac iselder ac yn helpu i greu llawenydd ar gyfer y bobl hynny y mae arnynt ei hangen fwyaf.

“Mae cyngherddau'n dod â gwelliant parhaus i ansawdd bywydau oedolion a phlant yr effeithir arnynt gan bob math o salwch, cyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, problemau iechyd meddwl ac anableddau corfforol a dysgu ac yn creu profiad a rennir y gall y gymuned ehangach o staff gofal iechyd, gwirfoddolwyr. Nid gwelliannau rhyfeddol y mae'r cerddorion yn eu darparu ond seibiannau hudolus o dwymdra a llawenydd wrth iddynt helpu i ddod â'r person allan o'r claf."

Yng Nghaerffili, mae Cymdeithas Trigolion a Chymunedol Phillipstown yn derbyn £3,640 i gynnal penwythnos carnifal cymunedol ym mis Mehefin i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, a bydd The Zone yn gwario £1,457 i agor canolfan ieuenctid mewn neuadd eglwys yn Oakdale.

Bydd Cymdeithas Rhandiroedd Forest Farm Leisure yn defnyddio £5,000 i osod toiled compostio ar eu safle, a bydd Ymddiriedolaeth Bracken ym Mhowys hefyd yn derbyn £5,000 i ddarparu sesiynau cwnsela a therapiwtig ychwanegol ar gyfer pobl sydd â chanser.

Meddai Reg Cawthorne, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Bracken: "Mae'r newyddion ein bod wedi  derbyn yr ariannu yn anrheg Nadolig ryfeddol. Bydd hyn yn galluogi Ymddiriedolaeth Bracken i gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan ganser, eu gofalwyr, teuluoedd a phobl mewn profedigaeth gartref na allant deithio i Ymddiriedolaeth Bracken oherwydd eu hiechyd gwael. Bydd yr ariannu'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'n cleifion ac rydym yn ei groesawu'n fawr."

Ym Mro Morgannwg, mae The Castaways yn derbyn £3,558 i lansio clwb cinio newydd ar gyfer pobl hyn, ac yn Nhorfaen, bydd Cyfeillion y Grwp Gwyrdd ym Mlaenafon yn defnyddio £4,962 i drefnu dau ddigwyddiad a fydd yn dod â'r gymuned ynghyd. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu uned deithiol i ddangos ffilmiau.

Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”

Gellir lawrlwytho ffurflen ymgeisio'r rhaglen, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ei chwblhau a'i dychwelyd yn uniongyrchol drwy e-bost i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae hefyd ar gael ar ffurf copi caled.

Mae ffurflenni ymgeisio ar gael drwy fynd i www.arianibawb.org.uk neu ffonio 0845 4 10 20 30.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                   
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH