- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 18 3 2008
Mae cyd-gyflwynydd News At Ten ar ITV, Julie Etchingham, am weld grwpiau cymunedol ledled rhanbarth ITV Wales yn mentro am aur yng nghystadleuaeth Miliynau’r Bobl a lansiwyd heddiw.
Mae Cronfa Loteri Fawr yn rhoi cyfle i grwpiau cymunedol yn y rhanbarth ennill cefnogaeth y cyhoedd a rhannu hyd at £250,000 o arian achosion da'r Loteri. Bydd pum dyfarniad hyd at £50,000 ar gael i gyflawni prosiectau sy’n gwella a chyfoethogi cymunedau lleol.
Gall sefydliadau ymgeisio yn y gystadleuaeth hyd at 15 Mai 2008. Bydd y rownd derfynol yn cael ei dangos ar newyddion ITV Wales gyda’r hwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fydd cyfle i bobl leol bleidleisio dros y prosiectau y maent yn dymuno eu gweld yn ennill arian achosion da'r Loteri.
Ers cychwyn cystadleuaeth Miliynau’r Bobl bedair blynedd yn ôl, dyfarnwyd cyfanswm o dros £730,000 i 13 o brosiectau cymunedol yng Nghymru a phleidleisiodd dros 30,000 o bobl dros brosiectau Cymreig llynedd.
Defnyddiodd enillwyr y gorffennol eu gwobrau ar ystod o brosiectau, gan gynnwys prosiect gan Partneriaeth Dolgellau yng ngogledd Cymru i ddarparu cyfleusterau newydd ym mharc y dref, a phrosiect gan Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig yn Abertawe, de Cymru, i wella’r ganolfan ieuenctid galw-i-mewn wrth hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau adeiladu amgylcheddol gyfeillgar.
Meddai cyflwynwyr Wales Tonight, Jonathan Hill ac Andrea Benfield: “Bu Miliynau’r Bobl yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru. Ledled y wlad, mae wedi rhoi cyfle i bobl dderbyn arian yr oedd ei angen arnynt i wella eu cymunedau. Ar yr un pryd, mae wedi darparu adroddiadau teledu diddorol, weithiau’n emosiynol, ar gyfer gwylwyr newyddion ITV Wales, straeon na fyddai fel rheol wedi cael sylw, o bosib. Mae’n argoeli i fod yn well fyth eleni ac rydym yn edrych ymlaen at adrodd ar y cystadleuwyr terfynol a fydd yn cystadlu am bleidlais y bobl yn ddiweddarach eleni.”
Wrth lansio’r gystadleuaeth mewn gwisg aur gyfareddol a gynlluniwyd gan Stewart Parvin, meddai Julie Etchingham: "Mae Miliynau’r Bobl yn brosiect ardderchog gan ei fod yn rhoi arian i grwpiau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w cymunedau - ac, ar ben hynny, y gwylwyr yn y cymunedau hynny sy’n penderfynu pa brosiectau sy’n mynd i elwa. Mae gennym bron i ₤5 miliwn i’w ddosbarthu ledled y DG, felly os ydych yn rhan o brosiect sy’n trawsnewid eich amgylchedd lleol neu sy’n gwneud eich cymuned yn well lle i fyw, rydym am glywed oddi wrthych - ar unwaith!”
Meddai Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd Cronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae cystadleuaeth Miliynau’r Bobl yn rhoi cyfle newydd i bobl ledled Cymru fynegi barn yn uniongyrchol ar ddosbarthiad arian achosion da'r Loteri yn eu hardal. Mae’r gystadleuaeth wedi cydio yn nychymyg y cymunedau a’r gwylwyr fel ei gilydd, gyda miloedd yn pleidleisio i sicrhau arian ar gyfer cynlluniau cymunedol yn eu hardaloedd. Mae poblogrwydd y gystadleuaeth a natur amrywiol y prosiectau yn brawf o’i werth ac yn dangos ymrwymiad y genedl at ddatblygu eu cymunedau arbennig.”
Ceir pecynnau cais ar gyfer Miliynau’r Bobl drwy ffonio 08450 10 11 12* neu drwy fynd at www.peoplesmillions.org.uk Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Mai 2008. *Cost galwadau yn fwyafswm o 4c y funud ar linell ddaearol BT. Gall cost galwadau ffonau symudol a rhwydweithiau eraill fod yn uwch.
Gwybodaeth pellach
Swyddog y Wasg Cronfa Loteri Fawr- Oswyn Hughes: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Cyswllt y Wasg ITV: Sally Holmes ar 08448 810 202
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae 90 gwobr ar gael – 4 gwobr ac un wobr ychwanegol ym mhob un o 18 rhanbarth ITV.
- Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth fu ariannu prosiectau sy’n gwella safon bywyd cymunedau lleol drwy drawsnewid yr amgylchedd lleol. Eleni mae’r meini prawf ariannu hefyd yn cynnwys prosiectau sy’n darparu cyfleoedd neu adnoddau ar gyfer mwynhau’r amgylchedd leol.
- Mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £2 filiwn o arian achosion da'r Loteri bob 24 awr, sy’n golygu, gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl y DG yn byw o fewn rhai milltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Rhifau ffôn pleidleisio - Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd ITV a Cronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhif ffôn cost isel heb fod yn un premiwm. Nid yw ITV na Cronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o’r rhifau ffôn pleidleisio.
- Mae Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da'r Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DG ers cychwyn ym Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd Cronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymrodd gyfrifoldebau gweddillol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau'r cyrff a unwyd er mwyn symleiddio ariannu yn y meysydd sy’n gorgyffwrdd, a sicrhau bod arian Loteri yn darparu’r gwerth gorau posib am yr arian.
Tags