- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arwyr yn Ôl
- Release date:
- 18 8 2010
Mae cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd o Ogledd Cymru'n cael eu hannog i fanteisio ar raglen gan y Gronfa Loteri Fawr sy'n cefnogi teithiau coffáu i leoedd lle gwnaethant wasanaeth a lle gwelsant y gad.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr am sicrhau bod cynifer o gyn-filwyr â phosib yn manteisio ar ei rhaglen Arwyr yn Ôl 2 gwerth miliynau o bunnoedd cyn iddi gau ar 31 Ionawr 2011, gyda theithiau'n gorfod cael eu gorffen erbyn diwedd 2010 (gellir ymgeisio am grantiau'n ôl-weithredol ar ôl mynd ar y teithiau).
Mae'r rhaglen yn darparu grantiau rhwng £150 a £5,500 er mwyn i gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd ddychwelyd i hen feysydd y gad a mynwentydd ar draws y byd i goffáu'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf. Mae mwy na 190 o grantiau gwerth dros £300,000 eisoes wedi'u dyfarnu yng Nghymru i gefnogi cyn-filwyr, eu gwyr a gwragedd, eu gweddwon a'u gofalwyr, i deithio i gyrchfannau gan gynnwys Yr Eidal, Ffrainc, Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Unol Daleithiau America, y Dwyrain Pell ac Awstralia yn ogystal ag o fewn y DU.
Gan annog cyn-filwyr i ymgeisio a manteisio ar yr ariannu sydd ar gael, meddai Dirprwy Gyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Mike Walsh, "Hyd yma mae'r rhaglen wedi bod yn llwyddiant ysgubol, fel y mae'r negeseuon rydym wedi'u derbyn gan gyn-filwyr, eu teuluoedd a'u gofalwyr eisoes wedi dangos. Rhoddodd y genhedlaeth o ddynion a menywod a wasanaethodd y wlad hon yn ystod yr Ail Ryfel Byd gymaint i amddiffyn y rhyddid rydym yn ei fwynhau heddiw. Wrth iddynt heneiddio, mae pererindodau i'r ardaloedd lle gwelsant y gad yn mynd yn hyd yn oed yn fwy emosiynol a gwerthfawr i'n cyn-filwyr.
Ychwanegodd: "Rwy'n hynod falch bod modd i ni gynnig arian Loteri er mwyn iddynt ddychwelyd a thalu teyrnged yn y lleoedd lle gwelsant wasanaeth, a mynd i ddigwyddiadau coffáu o fewn y DU. Trwy wneud hyn gobeithiwn wneud ein rhan ar ran y wlad gyfan er mwyn anrhydeddu'r gwasanaeth a'r ebyrth a wnaed gan gynifer o'n cyn-filwyr."
Un o'r cyn-filwyr sydd eisoes wedi elwa o'r ariannu yw Geoffrey Gautrey sy'n 85 oed ac yn dod o Gegidfa ger Y Trallwng. Y llynedd roedd Mr Gautrey yn gallu cymryd rhan mewn taith goffáu i Normandi diolch i ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr. Dim ond 19 oed oedd Mr Gautrey pan gymerodd ran yn y glaniadau Dydd-D fel gwyliwr signalau yn y Llynges Frenhinol.
Gan esbonio pwysigrwydd cefnogi'r ymweliadau coffáu hyn, meddai Mr Gautrey, “Os byddwch yn siarad ag unrhyw gyn-filwr, bydd yn dweud wrthych pa mor falch yr oedd o gymryd rhan. Dim ond hogiau ifanc oeddem mewn gwirionedd. Dim ond 19 oed oeddwn, felly mae'n rhaid mai fi oedd un o'r ifancaf."
"Rwy'n credu bod gwir angen i'r pethau hyn gael eu coffáu o hyd. Rwy'n falch iawn o feddwl bod gan fy wyrion a'm gor-wyrion ddigon o ddiddordeb i barhau â gofyn cwestiynau a chael gwybod mwy amdano. Credaf ei fod yn bwysig i ni gadw'r pethau hyn yn fyw er mwyn i genedlaethau'r dyfodol fod yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd, yn y gobaith na fydd byth yn digwydd eto."
Dyfarnodd cynllun Arwyr yn Ôl cyntaf y Gronfa Loteri Fawr, rhan o'r rhaglen Aduno Cyn-filwyr, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2004 i nodi'r 60 mlynedd hanesyddol ers Dydd-D £16.6 miliwn i fwy na 39,000 o gyn-filwyr, gwyr a gwragedd, gweddwon a gofalwyr.
I gael gwybod mwy am y rhaglen, ffoniwch linell gymorth Arwyr yn Ôl 2 ar 0845 00 00 121 neu ewch i'r wefan, www.cronfaloterifawr.org.uk.
Gwybodaeth Bellach
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr (GLF), dosbarthwr mwyaf arian y Loteri Genedlaethol at achosion da’n gyfrifol am ddyrannu hanner yr arian a godir at achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £24 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd .
- Darparodd y cynllun Arwyr yn Ôl gwerth £17 miliwn ariannu i gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gwragedd a'u gwŷr, eu gweddwon alle bo angen, eu gofalwyr presennol, ddychwelyd i'r mannau tramor lle gwelsant y gad. Trwy greu cyswllt â gweithgareddau a ariannwyd drwy'r cynllun Eu Gorffennol Eich Dyfodol, mae Arwyr yn Ôl hefyd yn helpu i wella dealltwriaeth pobl ifanc o'r ymdrechion a'r ebyrth a wnaed gan gyn-filwyr.
- Darparodd Cofio'r Ffrynt Cartref grantiau rhwng £500 a £20,000 ar gyfer prosiectau rhanbarthol a lleol ar draws y DU yn 2004-2005 i goffáu digwyddiadau'r Ail Ryfel Byd a chyfraniadau grwpiau gwahanol mewn cymdeithas. Ariannodd y cynllun amrywiaeth eang iawn o brosiectau gan gynnwys diwrnodau cymunedol arbennig; aduniadau ac arddangosfeydd; cofnodi profiadau'r rhai a fu'n byw trwy'r rhyfel; dramâu a darnau o waith celf creadigol. Yn ogystal, ariannodd y cynllun nifer o grantiau cenedlaethol i sefydliadau megis y TUC i ariannu amrywiaeth o weithgareddau coffáu.
- Mae Eu Gorffennol Eich Dyfodol yn gynllun ysgolion ac addysg parhaus ledled y DU sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu o lygad y ffynnon gan gyn-filwyr am eu profiadau o ryfel. Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cydweithio'n agos â'r Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol a'r sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ledled y DU i helpu pobl ifanc i ymchwilio a dysgu am brofiadau a rolau personol y rhai yn y lluoedd arfog a phobl gyffredin. Mae cystadlaethau wedi galluogi ysgolion i gymryd rhan mewn ymweliadau sy'n ymwneud â'r Ail Ryfel Byd gyda chyn-filwyr. Mae gan yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol wefan (www.theirpast-yourfuture.org.uk) sy'n cynnig amrywiaeth helaeth o adnoddau i ysgolion eu defnyddio ynghyd â manylion prosiectau a gyflwynir gan amgueddfeydd ledled y DU.
Tags