- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 21 9 2007
Bydd pobl ifanc sydd ag ystod o anawsterau ac anableddau dysgu yn Ne Cymru yn derbyn cefnogaeth i ddod o hyd i gyflogaeth ac ennill sgiliau a chymwysterau newydd, diolch i brosiect newydd a lansir yn Llantrisant heddiw.
Gyda’r £269,560 maent wedi derbyn oddi wrth y Gronfa Loteri Fawr, bydd ELITE Supported Employment Agency (ELITE), sydd wedi’i leoli yn Talbot Green, yn gweithio gyda’r rhai rhwng 15 a 19 mlwydd oed sydd ag anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol, yn ystod eu dwy flynedd olaf mewn addysg .
Dyfarnwyd yr arian o dan raglen Help Llaw gwerth £6.2 miliwn Cronfa Pobl Ifanc y Gronfa Loteri Fawr, sy’n cefnogi prosiectau yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc rhwng 10 ac 19 mlwydd oed sydd wrth risg o ddadrithio ac ymddieithrio, neu sydd eisoes wedi dadrithio ac wedi ymddieithrio, yn enwedig o fewn cymunedau difreintiedig.
Bydd ELITE yn gwario’r arian ar helpu tua 25 o bobl ifanc y flwyddyn i mewn i gyflogaeth neu wirfoddoli a bydd yn rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau. Bydd hyn yn gwella eu hunan-barch, eu hyder a’u hintegreiddiad cymdeithasol.
Bydd y prosiect newydd yn adeiladu ar lwyddiant prosiect tebyg, y bu’r Gronfa Loteri Fawr yn ei ariannu am chwe blynedd hyd at fis Gorffennaf 2006. Roedd y prosiect blaenorol hefyd yn rhoi cefnogaeth lefel uchel i nifer o bobl ifanc, gyda nifer y buddiolwyr yn rhagori ar y niferoedd disgwyliedig.
Ymhlith elfennau newydd y prosiect y mae gweithio gyda phobl ifanc sy’n flwyddyn yn iau (15 mlwydd oed) a’u hymgysylltu â chyflogaeth yn ystod blynyddoedd ysgol yn hytrach nac ar ôl gorffen addysg, sef 19 mlwydd oed yn draddodiadol.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 mlwydd oed sydd ag anableddau ffiniol, sy’n disgyn i'r "magl diffyg incwm”, h.y. y rheini sy’n rhy ifanc i dderbyn budd-daliadau, yn methu cael mynediad neu sicrhau cyflogaeth yn annibynnol oherwydd diffyg sgiliau a dim ond yn gallu cael mynediad at hyfforddiant cyfyngedig oherwydd y lefel cyrhaeddiad a ragwelir gan ddarparwyr hyfforddiant.
Mae’r prosiect yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc anabl i'w caniatáu i ymuno â’r farchnad gyflogaeth ar oedran tebyg i'w grŵp cyfoedion nad ydynt yn anabl sy’n galluogi cynhwysiant cyflogaeth, ariannol a chymdeithasol. Darperir y gwasanaeth i bobl ifanc o saith ysgol ym Mwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Un o blith nifer o straeon llwyddiant y prosiect blaenorol yw David Darch sy'n 24 mlwydd oed. Mae’n gweithio’n llawn amser fel Gweithredwr Cynhyrchu gyda Pontypridd Precision Engineering yng Nglyn Rhedynog. Mae’r busnes teuluol yn cynhyrchu offer gwasg ar gyfer peiriannau, yn cynhyrchu rhannau ar gyfer y diwydiant moduro ac mae eisoes wedi cyflogi nifer o bobl drwy ELITE Supported Employment Agency. Cychwynnodd David gyda’r cwmni yn gyntaf ar gynllun swydd dydd Sadwrn ELITE, ond mae wedi gweithio gyda hwy yn llawn amser yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf: “Rwy’n mwynhau gweithio mor agos at gartref ac mae’r bobl yma wedi bod yn dda imi," esboniodd.
Mae cyflogwyr David, Pontypridd Precision Engineering, yn fwy na hapus gydag ansawdd ei waith a’r gwasanaeth a gynigir gan ELITE. Fel yr esboniodd Cyfarwyddwr Cynhyrchu’r ffatri, Jason Price: “Y peth gorau am Elite a'r cynllun lleoliadau yw eich bod chi'n cael blas ar allu staff cyn i chi eu cyflogi nhw'n llawn amser. Gallwn ni eu hyfforddi nhw wrth iddynt weithio ac os penderfynwn ni eu cyflogi nhw wedyn, rydyn ni'n gwybod eu bod yn gallu gwneud y gwaith.”
Wrth esbonio sut y bydd y prosiect o fudd i bobl ifanc ac wrth ystyried llwyddiant y prosiect blaenorol, dywedodd Andrea Wayman, Cyfarwyddwr Elite: “Mae pobl ifanc gydag anableddau ac anawsterau dysgu yn wynebu problemau lluosog yn ystod cyfnodau trawsnewidiol eu bywydau. Bydd y prosiect hwn yn llanw bwlch yn y ddarpariaeth a bydd yn creu canlyniadau hirdymor positif i fywydau pobl ifanc anabl a'u cyfoedion wrth gael mynediad at gyflogaeth, symud ymlaen at addysg bellach a gwella ansawdd eu bywyd yn gyffredinol."
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Help Llaw, dywedodd Mike Theodoulou, aelod o Fwrdd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc: “Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi bod yn weithredol iawn wrth gefnogi pobl ifanc yng Nghymru dros y blynyddoedd ac yn sicr bydd y prosiect hwn yr ydym wedi'i ariannu yn sicrhau buddion pellgyrhaeddol i bobl ifanc gydag anawsterau ac anableddau dysgu o amryw gymunedau a chefndiroedd yn Ne Cymru.”
Am wybodaeth bellach ynghylch y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk
Am wybodaeth bellach ynghylch y prosiect ac i gael manylion cyswllt ar gyfer yr unigolion a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr yng Nghymru drwy ffonio’r rhifau isod.
Gwybodaeth pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol gychwyn ym 1994, mae 28c o bob punt a warir gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi'u dosbarthu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a'r amgylchedd.
Tags