Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dros Bedair Miliwn o Resymau Pam Mae Pawb a'i Le'n Dathlu yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
17 2 2012

Mae prosiect i fynd i'r afael â hiliaeth sy’n cael ei gefnogi gan sêr pêl-droed o Gymru a menter ffilm gymunedol ymysg yr ystod o brosiectau ar draws Cymru sy'n rhannu mwy na £4 miliwn a ddyfarnwyd heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr.

At ei gilydd dyfernir £4,192.732 i ystod o brosiectau o dan rownd ddiweddaraf rhaglen  Pawb a'i Le'r Gronfa Loteri Fawr, sydd â'r nod o ddod â phobl ynghyd i wneud cymunedau'n gryfach a gwella amgylcheddau gwledig a threfol (Cliciwch yma i weld detholiad o ddyfarniadau 
- 47KB
).

Mae'r broblem o hiliaeth, yn enwedig mewn pêl-droed, wedi bod yn amlwg ar dudalennau blaen y papurau newydd a'n sgriniau teledu'n ddiweddar. Dyna pam y bydd dyfarniad o £472,023 yn galluogi Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth i ehangu ar eu gwaith cyfredol yng Nghymru drwy addysgu pobl ifanc ac athrawon am hiliaeth. Ariennir y prosiect ar hyn o bryd trwy'r rhaglen Pawb a'i Le a bydd yr ariannu ychwanegol yn cael ei wario ar gynyddu ymwybyddiaeth ymysg hyd yn oed yn fwy o bobl o amrywiaeth ac effaith hiliaeth a'u galluogi i herio hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb. Caiff yr arian ei wario ar gyflwyno mwy o weithdai gwrth-hiliaeth, cynadleddau i athrawon, clybiau ysgolion a chwaraeon ledled Cymru a gweithgareddau cynyddu ymwybyddiaeth i bobl ifanc trwy gyfrwng chwaraeon. Yn ddiweddar mae sêr pêl-droed tîm Prif Gynghrair Abertawe, Nathan Dyer a Neil Taylor wedi mynd yn noddwyr y prosiect.

Gan ddangos ei gefnogaeth i’r ymgyrch, meddai saethwr Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Robert Earnshaw, sydd hefyd yn noddwr i’r ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth: “Rwyf wedi bod yn rhan o’r ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ers tro bellach a ‘dw i’n falch o fod yn rhan ohoni. Mae plant yn dysgu o’r hyn y mae oedolion yn ei ddweud wrthynt, felly mae’n bwysig ein bod ni’n addysgu cynifer ag y gallwn nad oes unrhyw le i hiliaeth mewn pêl-droed na’r gymdeithas yn gyffredinol.

“Dw i wedi profi ymddygiad ymosodol yn y rhan fwyaf o wledydd dw i wedi ymweld â nhw, boed Serbia, Montenegro, Yr Eidal neu Sbaen. Mae’n debygol ein bod ni’n gwneud mwy yma na’r mwyafrif o wledydd, ond mae’n bwysig i fudiadau megis Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ledaenu’r gair nad yw’n dderbyniol. Mae mwy o waith i’w wneud o hyd, hyd yn oed yng Nghymru.”

Wrth amlygu pwysigrwydd yr ariannu, meddai Sunil Patel, Rheolwr Ymgyrchu gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth: “Bydd y dyfarniad gan y Gronfa Loteri Fawr yn ein galluogi i ehangu ein gweithgareddau a chynyddu ein cylch gwaith trwy addysgu pobl ifanc ac oedolion. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar ein gwaith partneriaeth parhaus gyda chlybiau pêl-droed a'u chwaraewyr. Mae'r problemau presennol yn dangos yn glir sut gymaint o waith y mae angen ei wneud o hyd y tu mewn a'r tu allan i'r stadia, ac rydym yn ddiolchgar i'r Gronfa Loteri Fawr am y dyfarniad hwn."

Ers tro mae tref ddiwydiannol Port Talbot wedi cael ei hystyried yn lle sy'n magu actorion byd-enwog megis Richard Burton, Anthony Hopkins, Michael Sheen a Rob Brydon i enwi ond rhai. Erbyn hyn, diolch i grant o chwarter miliwn o bunnoedd a ddyfarnwyd i Asiantaeth Ffilm Cymru, bydd y ffilmiau'n llythrennol yn dod i Gastell-nedd Port Talbot. Bydd Asiantaeth Ffilm Cymru'n defnyddio'r arian i redeg a datblygu prosiect ffilm gymunedol tair blynedd yng Nghwm Afan, gyda'r nod o ddarparu mynediad i ffilmiau i'r gymuned gyfan.

Bydd sinema gymunedol yn cael ei chreu, ei sefydlu a'i rhedeg gan wirfoddolwyr. Bydd ffilmiau'n cael eu dangos mewn lleoliadau amrywiol ar draws y rhanbarth, gan wneud defnydd o adeiladau ysgol a chymunedol a danddefnyddir, a bydd cyfleoedd hyfforddi'n sail i'r prosiect a fydd yn cynyddu sgiliau gweithwyr o fewn y gymuned i ddefnyddio a dysgu gyda ffilm. Bydd rhan o'r arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu fan sinema deithiol ag ystod lawn o gyfarpar ac i ddangos ffilmiau wedi’u cymorthdalu.

Wrth edrych ymlaen at roi'r prosiect ar waith, meddai Prif Weithredwr Interim Asiantaeth Ffilm Cymru, Suzanne Alizart: “Bydd y rhaglen Film@Afan yn galluogi cymuned i ddatblygu rhaglen gyfoethog ac amrywiol o weithgareddau ffilm, gan hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol a meddwl yn entrepreneuraidd trwy ddatblygiad creadigol.

“Erbyn diwedd y prosiect tair blynedd byddwn wedi helpu i ddatblygu model sinema deithiol hunangynhaliol mewn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Gobeithiwn y bydd yn mynd yn lasbrint ar gyfer datblygu cynlluniau mewn cymunedau eraill yn y dyfodol ac yn helpu i wneud ffilm yn gatalydd ar gyfer twf mewn ardaloedd gwledig o Gymru. Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at yr ymgyrch eiriolaeth barhaus ar gyfer buddsoddiad cynyddol mewn darparu gwybodaeth am ffilmiau a'r cyfryngau: sgiliau allweddol y dylai fod gan bawb fynediad iddynt yn y 21ain ganrif.

“Yn bwysicaf oll, mewn ardal lle mae'r diwydiannau traddodiadol yn diflannu ac mae lefelau diweithdra'n uchel, gallai'r prosiect hwn gynnig cyfle i bobl gychwyn ar lwybrau newydd o fewn y sector creadigol cynyddol trwy annog awydd am ffilm a meddwl yn greadigol am sut i ddefnyddio adnoddau presennol. Wrth gwrs mae'n gyfle hefyd i bobl ddod ynghyd a mwynhau'r profiad cymunedol gwych y mae ffilm yn ei gynnig. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â'n holl bartneriaid yn y prosiect hwn."

Gan amlygu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a'i Le, meddai Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le, Gareth Newton, "Mae rhaglenni fel Pawb a'i Le'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae'n cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu cymunedau, mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth a fydd yn parhau.”

Mae'r rhaglen Pawb a'i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. I gael gwybod mwy am y rhaglen Pawb a'i Le a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431}
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735 677
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Cymunedau Cryfach
  • Pobl Ifanc

Categori

  • Adfywio
ADBORTH