- Area:
- Cymru
- Release date:
- 5 3 2008
Bydd cyfleuster beicio newydd sbon yng Nghaerdydd ar gyfer pobl anabl yn cael ei lansio gan Arglwydd Faer Prifddinas Cymru'r wythnos hon, wedi iddo dderbyn trawsnewidiad gwerth £300,000 diolch i’r Gronfa Loteri Fawr.
Ddydd Gwener, 7 Mawrth, bydd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Gill Bird, yn ymweld â'r prosiect Pŵer i'r Pedalau ym Mharc Carafannau Pontcanna i agor y cyfleuster newydd yn swyddogol, a ariannwyd trwy raglen Sector Gwirfoddol a Chymunedol y Gronfa Loteri Fawr.
Mae’r ganolfan newydd, sef y ganolfan feicio hygyrch â'r cyfarpar gorau yng Nghymru erbyn hyn, yn caniatáu mynediad beicio i'r holl bobl ag anableddau a hefyd yn cynnig lle i feicwyr gymdeithasu, rhannu syniadau a chasglu gwybodaeth a chyngor ar faterion byw'n iach ac amgylcheddol. Mae beicio yn ffurf effaith isel ar ymarfer corff ac mae’r prosiect yn caniatáu i ddefnyddwyr wella eu sgiliau, eu hiechyd, eu ffitrwydd a’u hunan-barch.
Cyn y grant gan y Gronfa Loteri Fawr , roedd diffyg cyfleusterau storio’n golygu nad oedd modd i'r grŵp brynu beiciau arbenigol ychwanegol ac nid oedd y gwasanaeth yn gallu ehangu er mwyn helpu mwy o bobl ag anableddau. Serch hynny, mae’r arian wedi galluogi i’r prosiect godi adeilad newydd, sy’n darparu storfa fwy ar gyfer nifer gynyddol ac amrywiaeth o feiciau arbenigol. O feiciau Mynydd i ddilynwyr, beiciau plant, trelars, beiciau sy’n cael eu gweithredu â llaw i feiciau y gellir eu gweithredu gan y cefn a’r gwddf, mae cyfle i bawb feicio. Bellach mae gan y prosiect dros 40 o feiciau hygyrch, sy’n galluogi i hyd at 100 o bobl yr wythnos o bob oed a gallu feicio.
Gan edrych ymlaen at yr agoriad, dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, Gill Bird: "Mae Caerdydd yn falch iawn i gael yr adnodd yma ar gael, gan wneud beicio yn hygyrch i bobl o bob oed a gallu. Mae'r cyfleuster yma yn enghraifft wych o'r hyn a ellir ei gyflawni trwy waith partneriaeth."
Yn hapus iawn gyda’r ganolfan newydd a gwell, dywedodd John Young, Cadeirydd Pŵer i'r Pedalau: “Mae Pŵer i'r Pedalau yn gweithio ar annog mwy o grwpiau i ‘roi cynnig ar feicio a mynd allan i’r cefn gwlad a gwella eu ffitrwydd’. Mae’r dyfarniad gan y Gronfa Loteri Fawr wedi talu am ein hadeilad arbenigol a oedd ei angen yn fawr ac yr ydym wedi bod yn gobeithio amdano ers amser maith. Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r aelodau ar ben eu digon ac yn ddiolchgar iawn i’r gronfa am eu caredigrwydd a'u cydnabyddiaeth o'r hyn mae Prosiect Pŵer i'r Pedalau yn parhau i'w gynnig ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol, iechyd a phleser hamdden ein beicwyr. Dymunaf ddiolch i'r arianwyr a’r cefnogwyr sy’n helpu i wneud yr Elusen yn llwyddiant.”
Mae’r ganolfan ar agor saith niwrnod yr wythnos, ac mae wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd ym Mharc Carafannau Pontcanna a chanddi fynediad uniongyrchol at barcdir rhydd rhag traffig yng Nghaerdydd a hefyd at y Llwybr Taf traws gwlad.
Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o’r Elusen, a hebddynt hwy ni fyddai’r ganolfan yn gallu agor. Mae 48 o wirfoddolwyr rheolaidd, a 25 arall y gelwir arnynt ar gyfer digwyddiadau arbennig. Gellir trefnu cyrsiau i ddatblygu sgiliau beicio neu ddysgu i reidio beic ac mae’r elusen eisoes yn cynnal dwy daith feicio grŵp yr wythnos.
Ariannwyd y ganolfan trwy raglen Sector Gwirfoddol a Chymunedol y Gronfa Loteri Fawr sydd wedi dosbarthu mwy £5.2 miliwn i brosiectau ledled Cymru.
Wrth gyfeirio at yr effaith bositif y bydd y dyfarniad yn ei gael ar fywydau pobl ag anableddau, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae hwn yn adnodd gwych i'r gymuned ac i unrhyw un a fyddai'n dymuno dod a phrofi'r prosiect. Mae’n beth da ein bod yn gallu ariannu prosiectau sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau llawer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae grwpiau fel hyn yn gwneud cymaint i helpu pobl ac rwy’n falch y bydd y dyfarniad hwn yn eu helpu i barhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd cyfweld, tynnu lluniau a ffilmio, cysylltwch ag Oswyn Hughes o swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr ar y rhifau ar ddiwedd y datganiad.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr a dyfarniadau grant ar gael ar y wefan a www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags