- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 2 5 2008
Mae prosiectau garddio a grwpiau cymunedol eraill yng nghymoedd y Rhondda yn dathlu heddiw ar ôl clywed eu bod ar fin rhannu cyfanswm o dros £3 miliwn a ddyfarnwyd i brosiectau yng Nghymru fel rhan o raglen Pawb a’i Le Cronfa Loteri Fawr.
Dyfarnwyd cyfanswm o £3,195,150 i brosiectau ledled y wlad fel rhan o’r rhaglen Pawb a’i Le, sy’n ceisio uno pobl i gryfhau cymunedau a gwella amgylcheddau gwledig a threfol. Mae Rhondda Cynon Taf yn elwa o gyfanswm o fwy na £800,000 a ddyfarnwyd i bedwar prosiect yn y sir.
Mewn cyferbyniad â’r isleisiau tywyll yn y ffilm a enillodd Wobr Academi yn y 1940au, How Green Was My Valley, mae pobl yn y Rhondda heddiw yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair, mwy lliwgar a gwyrdd. Bydd dau o’r pedwar prosiect yn gwario’r arian ar ddatblygu gerddi cymunedol y bydd pobl o bob oedran a gallu yn medru eu mwynhau gyda’i gilydd.
Diolch i’w dyfarniad o dros chwarter miliwn o bunnoedd (£254,541), bydd Strategaeth Adfywio Cymuned Bryncynon Cyf yn Abercynon yn trawsnewid 4 erw o dir diffaith yng Nghwm Cynon i fod yn ofod cymunedol bywiog a ffrwythlon. Bydd y safle yn tyfu ffrwythau a llysiau organig: yn darparu cyfleoedd hyfforddi i bobl leol: yn ehangu mynediad at weithgaredd hamdden ac iechyd: yn hybu bio-amrywiaeth; ac yn hybu dysgu awyr agored a bwyta’n iach mewn ysgolion. Ers 1999, mae’r sefydliad wedi elwa o bron £660,000 mewn nawdd gan Cronfa Loteri Fawr. Roeddent yn un o’r grwpiau llwyddiannus a enillodd £50,000 yng nghystadleuaeth Miliynau’r Bobl ar Newyddion ITV Wales llynedd.
Mae Ysgol Ferched Aberdâr hefyd yn dathlu, diolch i ddyfarniad o £14,415. Bydd yr arian yn cael ei wario ar ddatblygu a chynnal gardd gymunedol a fydd yn cynnwys disgyblion, aelodau o’r gymuned a gwirfoddolwyr. Bydd gweithgareddau yn hybu defnydd o’r iaith Gymraeg hefyd o fudd i bobl ifanc yr ardal. Mewn partneriaeth gydag Urdd Gobaith Cymru a Chyngor RCT, bydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn defnyddio’r £78,763 a ddyfarnwyd iddynt i ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-25 oed. Bydd rhan o’r grant yn cael ei ddefnyddio i gyflogi Cydlynydd Ieuenctid.
Bydd pentref Wattstown yn dathlu hefyd. Yn dilyn dyfarniad o £467,068, bydd Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf, mewn partneriaeth â Cymunedau yn Gyntaf Ynyshir & Wattstown, yn adnewyddu a gwella mynediad i lawr uchaf canolfan ddydd Wattstown. Bydd y ganolfan yn lleoliad ar gyfer amrywiaeth o glybiau cymdeithasol gan gynnwys clwb ieuenctid, clwb mamau a phlant, clwb pensiynwyr, ac asiantaethau statudol fel Yn Awyddus I Weithio, Y Blynyddoedd Cynnar, Dechrau’n Deg a swyddfa leol ar gyfer Tîm Cymunedau yn Gyntaf. Bydd y ganolfan yn cynnig ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau gan gynnwys gweithgareddau gwyliau ysgol, hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol mewn sgiliau sylfaenol, celf a chrefft, dosbarthiadau coginio, gweithgareddau rhyng-genedlaethau ac iechyd a lles, cymorthfeydd heddlu, cynghori dyledion, ac undeb credyd. Bydd yn gwbl hygyrch i’r anabl a bydd yn darparu cyfleoedd iddynt gyfranogi mewn gweithgareddau cynhwysol, i’w galluogi i ddod yn fwy integredig gyda’r gymuned. Bydd y ganolfan yn llenwi bwlch mewn darpariaeth adnodd o’r fath yn Wattstown, a bydd ar gael saith diwrnod yr wythnos.
Wrth sôn am effaith gadarnhaol y dyfarniad hyd yn hyn, dywedodd Aelod Pwyllgor Cymru Cronfa Loteri Fawr a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le, Janet Reed: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn cyflawni ein haddewid i ddefnyddio arian Loteri i adnewyddu ac adfywio cymunedau, taclo anfantais a gadael etifeddiaeth barhaol. Bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau nifer o bobl yn y gymuned, ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Am fwy o wybodaeth am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch at www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch adnodd chwilio penodol ‘Cymru’.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn o arian achosion da'r Loteri bob wythnos, sy’n golygu, gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl ledled Cymru yn byw o fewn rhai milltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Bu Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DG ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £20 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 250,000 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags