- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 18 3 2009
Mae cystadleuaeth deledu Miliynau’r Bobl sy’n lansio yng Nghymru heddiw yn rhoi cyfle newydd i gymunedau yn rhanbarth ddarlledu ITV Wales i ennill hyd at £50,000 o arian achosion da y Loteri i wella eu hardal leol.
Mae grwpiau lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, sy’n agor ar gyfer ceisiadau heddiw. Mae partneriaeth Miliynau’r Bobl rhwng y Gronfa Loteri Fawr ac ITV Wales yn rhoi cyfle i'r cyhoedd bleidleisio er mwyn penderfynu ar ba brosiectau lleol a fydd yn derbyn arian achosion da y loteri. Mae’r gystadleuaeth boblogaidd bellach yn dechrau ar ei phumed flwyddyn lwyddiannus.
Eleni yng Nghymru, mae Miliynau’r Bobl yn cynnig pum dyfarniad o hyd at £50,000 ar gyfer prosiectau a fydd yn gwella cyfleusterau lleol neu’n helpu pobl i fwynhau eu hardal leol. Yn ystod pedair noson o gystadlu, bydd cyfanswm o £250,000 yn cael ei fuddsoddi yn ardal ddarlledu ITV Wales.
Mae’r gystadleuaeth yn edrych yn benodol am brosiectau sy’n galluogi i bobl leol chwarae fwy o ran yn eu cymuned ac sy’n wreiddiol ac yn llawn dychymyg. Ymhlith y prosiectau blaenorol sydd wedi’u hariannu y mae Cymdeithas Meysydd Chwarae Brenin Siôr V yn Sir Gaerfyrddin y llynedd i ddisodli hen gyfarpar chwarae gyda maes chwarae modern a diogel i blant a phobl ifanc yn nhref Castell Newydd Emlyn.
Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd cystadleuwyr ar restr fer Cymru yn ymddangos ar raglen newyddion gyda’r nos ITV Wales Tonight pan fydd yn rhaid iddynt ddarbwyllo’r cyhoedd pam eu bod yn haeddu’r arian. Yna cyfrifoldeb y cyhoedd fydd defnyddio eu pleidlais i benderfynu pa grwpiau a fydd yn ennill yr arian.
Mae Miliynau’r Bobl yn rhan o ymrwymiad y Gronfa Loteri Fawr i gynnwys y cyhoedd wrth benderfynu sut mae arian y Loteri yn cael ei wario. Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r gystadleuaeth wedi gwneud 18 dyfarniad yng Nghymru sy’n gwneud cyfanswm o ymron i un miliwn o bunnau (£990,000) – rhan o £18 miliwn cyffredinol sydd wedi mynd at brosiectau cymunedol ar draws y DU trwy’r gystadleuaeth.
Dywedodd Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru Huw Vaughan Thomas: “Mae Miliynau’r Bobl yn gyfle gwych i grwpiau a sefydliadau lleol sicrhau arian ar gyfer prosiect a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w cymunedau.
“Ni ddylai pobl gael eu digalonni gan y syniad o gymryd rhan. Dengys profiad yn y gorffennol mai Miliynau’r Bobl yw’r tro cyntaf i lawer o grwpiau ymgeisio am arian y loteri. Ac yn aml y rheini sy'n credu nad oes ganddynt fawr o gyfle i ennill yw'r rhai sy'n llwyddiannus.
“Yr hyn sy’n allweddol yw bod y gystadleuaeth yn rhoi’r cyfrifoldeb ar y cyhoedd i reoli arian y Loteri, fel arbenigwyr ar eu cymunedau, ac mae’n caniatáu iddynt benderfynu pa brosiectau lleol y dylid eu hariannu."
Dywedodd cyflwynydd newyddion ITV Wales Tonight, Andrea Benfield: “Mae ITV wrth eu bodd o gael gweithio mewn partneriaeth gyda'r Gronfa Loteri Fawr am y bumed flwyddyn yn olynol a chefnogi Miliynau'r Bobl. Mae gwaith da prosiectau ar draws Cymru wedi newid bywydau ac mae gennym chwarter miliwn o bunnau i'w dosbarthu yng Nghymru unwaith eto eleni. Felly, os ydych chi’n gysylltiedig â phrosiect sy’n gweddnewid eich amgylchedd lleol neu’n gwneud eich cymuned yn lle gwell i fyw, yna dymunwn glywed oddi wrthych chi.”
Mae pecynnau ymgeisio ar gyfer Miliynau’r Bobl ar gael heddiw trwy ffonio’r llinell gymorth: 08450 10 11 12 neu trwy ymweld â www.miliynaurbobl.org.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Mai 2009.
Gwybodaeth Bellach
Swyddog y Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Cyswllt y Wasg ITV: Sarah Drew ar 08448 810 202
Mae manylion llawn ar brosiectau Miliynau’r Bobl i'w cael yn: www.biglotteryfund.org.uk/peoplesmillions
Nodiadau i Olygyddion
Dyddiadau allweddol Miliynau’r Bobl ar gyfer y dyddiaduron:
15 Mai 2009: Dyddiad cau derbyn ceisiadau
28 Hydref 2009: Cyhoeddi rhestr fer terfynol y prosiectau yn y cyfryngau
23-26 Tachwedd 2009: Cystadleuaeth Miliynau’r Bobl yn cael ei darlledu ar ITV
- Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth oedd ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol drwy weddnewid yr amgylchedd lleol.
- Rhifau ffôn pleidleisio – Yn yr un modd â’r blynyddoedd blaenorol, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhifau ffôn cost isel. Nid yw ITV na’r Gronfa Loteri Fawr yn elwa o’r rhifau ffôn pleidleisio.
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags