Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Edrych ymlaen at gystadleuaeth deledu Miliynau’r Bobl yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
15 4 2008
Mae’r gwaith yn dechrau i gymunedau sy’n dymuno cyfran o £50,000 gan Filiynau’r Bobl y Gronfa Loteri Fawr. Mae gan grwpiau yng Nghymru fis ar ôl i gyflwyno eu cais i gystadlu yng nghystadleuaeth deledu eleni sydd â £250,000 o arian achosion da i'w ddyfarnu ar draws y wlad.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymuno ag ITV wrth annog sefydliadau lleol i gystadlu yng nghystadleuaeth Miliynau’r Bobl cyn y dyddiad cau sef hanner dydd 15 Mai 2008. Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i grwpiau lleol ymddangos ar y teledu ac ennill grant o hyd at £50,000 i wella a chyfoethogi eu cymuned leol.

Mae enillwyr blaenorol wedi gwario eu dyfarniadau ar ystod o brosiectau, gan gynnwys prosiect gan Bartneriaeth Dolgellau yng Ngogledd Cymru i ddarparu cyfleusterau newydd ym mharc y dref a phrosiect gan Dîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig yn Abertawe, De Cymru, i uwchraddio canolfan alw i mewn i ieuenctid i hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau adeiladu amgylcheddol cadarn.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Ceri Doyle: “Gyda dim ond mis ar ôl yn awr mae'n bryd i grwpiau wneud cais i Filiynau'r Bobl. Dyma’r bedwaredd flwyddyn yr ydym wedi ymuno ag ITV i gynnal y gystadleuaeth hon ac rydym yn awyddus iawn i glywed gan grwpiau ledled Cymru sydd â syniad gwych i'w ariannu. Felly os ydych chi’n gysylltiedig â phrosiect sydd wirioneddol yn helpu pobl leol, cysylltwch â ni’n awr ac anfonwch eich ffurflen gais atom erbyn 15 Mai."

Dywedodd cyflwynydd newyddion ITV Wales Tonight, Andrea Benfield: “Yn ddiweddar rwyf wedi ymweld â phrosiectau sydd wedi ennill grantiau yn ystod y blynyddoedd blaenorol yma yng Nghymru ac mae’n wych gweld y trawsffurfiad. Mae’n swm o arian a all wneud gwahaniaeth anferth i fywydau pobl yn eich ardal. Cofiwch fod chwarter miliwn o bunnau ar gael yng Nghymru eleni ac y gall pum prosiect brofi llwyddiant. Felly os oes gennych chi syniad, pam oedi? Anfonwch eich ffurflen gais i mewn yn awr ac fe allech chi fod ar y teledu a chael cyfle i ennill £50,000!"

Ar draws rhanbarth ITV Wales, mae gan y Gronfa Loteri Fawr bum dyfarniad o hyd at £50,000 ar gael. Bydd prosiectau yn mynd benben ar y teledu i ennill cefnogaeth y cyhoedd a rhannu hyd at £250,000 o arian achosion da y Loteri.

Mae gan sefydliadau hyd at 15 Mai 2008 i gystadlu. Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn ymddangos ar raglen newyddion min nos ITV Wales yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn pan fydd gwylwyr yn cael y cyfle i fwrw eu pleidlais dros brosiectau y maen nhw’n dymuno eu gweld yn ennill arian achosion da y Loteri.

Mae pecynnau ymgeisio ar gyfer Miliynau’r Bobl ar gael trwy ffonio’r llinell gymorth: 08450 10 11 12* neu trwy ymweld â www.miliynaurbobl.org.uk

Mae’r galwadau yn costio uchafswm o 4c y funud o linell BT. Gallai galwadau gan ffonau symudol a rhwydweithiau eraill fod yn uwch.

Gwybodaeth pellach

Swyddog y Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Cyswllt y Wasg ITV: Sally Holmes ar 08448 810 202
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

Mae 90 o ddyfarniadau ar gael – 4 dyfarniad ac un dyfarniad bonws ym mhob un o 18 rhanbarth ITV.

  • Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth oedd ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol drwy weddnewid yr amgylchedd lleol. Eleni mae prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd neu gyfleusterau ar gyfer mwynhau’r amgylchedd lleol hefyd wedi’u hychwanegu at y meini prawf ariannu.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y DU bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Rhifau ffôn pleidleisio – yn yr un modd â’r arfer, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhifau ffôn cost isel. Nid yw ITV na'r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o'r rhifau ffôn pleidleisio.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
  • Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un bryd fe gymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Y Gronfa Gymunedol) y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau'r cyrff cyfun er mwyn symleiddio ariannu’r meysydd hynny sy’n gorgyffwrdd ac i sicrhau bod arian y Loteri yn cynnig y gwerth gorau posibl am arian.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
ADBORTH