Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Clwb colomennod yn hedfan yn uchel ar ôl ennill arian Loteri

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
2 5 2008
I’r mwyafrif ohonom, y darlun sy’n dod i’r meddwl wrth glywed y termau ‘rasio colomennod’ neu ‘bridio colomennod’ yw Jack Duckworth o Coronation Street yn tendio i’w adar yn yr ardd gefn.

Serch hynny, mae’r syniad o rasio colomennod fel diddordeb i’r gŵr hŷn yn unig yn cael ei wyrdroi mewn un cymuned yn Ne Ddwyrain Cymru, diolch i hwb ariannol o dros £3 miliwn a ddyfarnwyd i brosiectau yng Nghymru fel rhan o raglen Pawb a’i Le Cronfa Loteri Fawr.

Mae cyfanswm o £3,195,150 wedi ei ddyfarnu i brosiectau ledled y wlad drwy’r rhaglen Pawb a’i Le, sydd yn ceisio uno pobl i gryfhau cymunedau a gwella amgylcheddau gwledig a threfol.

Dyfarnwyd £17,000 i Glwb Rasio Colomennod Hanbury Arms yn Hanbury, Torfaen, a gyda’r arian hwn byddant yn sefydlu Clwb Colomennod Hanbury - Cynllun Aelodau Ifanc. Mae’r clwb wedi bodoli ers dros 50 mlynedd a bydd y prosiect yn gwasanaethu cymuned leol Abersychan ac yn cynnwys pobl ifanc yng ngweithgareddau’r clwb a hefyd yn hybu eu gweithgareddau drwy weithdai mewn ysgolion a gyda chymdeithasau lleol. Nôd y prosiect yw gwella rhwydweithiau cymdeithasol, cryfhau cysylltiadau cymunedol a delio â materion rhyng-genedlaethau.

Bydd y prosiect arloesol hwn yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd un rhiant sy’n ddifreintiedig yn sgil diffyg cyfleusterau a chyfleoedd yn yr ardal. Bydd y prosiect hefyd yn creu cyfleoedd chwaraeon a hamdden newydd ar gyfer bobl ifanc ac yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau newydd drwy gyfranogi.

Yn ôl Is Gadeirydd y Clwb, Malcolm Anslow, gwelwyd yr angen am y prosiect yn dilyn gŵyl brawf wythnos o hyd – a ddangosodd awydd pobl ifanc i fod yn rhan o’r clwb. “Dwy flynedd yn ôl, aethom i’r ysgolion a darganfod fod diddordeb aruthrol mewn rasio colomennod ymhlith yr ifanc,” esboniodd Malcolm, 72 oed, a ymunodd â’r clwb pan oedd yntau yn 10 oed.

“Fel rhan o’r prosiect, fe ofynnwyd i blant ag anghenion arbennig ddarlunio colomennod, ac roedd rhai o’r lluniau yn wirioneddol wych. Ein bwriad nawr yw cydweithio â’r ddau dîm rygbi ieuenctid lleol ac ysgolion eraill.”

Bydd gwirfoddolwyr a phobl ifanc yn cyfranogi gyda’r gwaith o redeg y prosiect mewn nifer o ffyrdd. Yn ogystal â chael pobl ifanc i gyfranogi gyda’r rasio colomennod, bydd y prosiect arloesol hefyd yn cydweithio gydag ysgolion i redeg gweithdai a chystadlaethau ar rasio colomennod ac ar hanes rasio colomennod yn yr ardal. Bydd cylchlythyr ar gyfer pobl ifanc, ‘post colomennod’, yn cael ei greu a bydd cystadlaethau posteri yn cael eu cynnal i noddi colomen, a bydd gweithdai hefyd yn cael eu sefydlu ar gyfer yr ieuenctid.

“Un fantais arall gyda’r prosiect yw y bydd yn annog pobl ifanc i ymddiddori mewn bywyd gwyllt a natur, ac yn eu denu allan i fwynhau’r awyr agored. Bydd yn hwyl ac yn addysgiadol iddynt ar yr un pryd,” esboniodd Malcolm.

Mae pontio’r bwlch cenedlaethau rhwng yr hen a’r ifanc, a’u cynorthwyo i ddatblygu parch tuag at ei gilydd yn rhan allweddol arall o’r prosiect. “Mae aelod hynaf y clwb yn gyn filwr D-Day 83 oed, ac mae’r aelod ieuengaf yn 12 oed,” meddai Malcolm.

“Mae gan bobl ifanc gymaint o deganau, gemau cyfrifiadurol a theclynnau i’w cadw’n brysur heddiw ac rwy’n tybio nad ydynt wedi sylweddoli ein bod ni yma. Yng ngwlad Belg ar y llaw arall, mae rasio colomennod bron yn gamp genedlaethol, ac mae gwyddonwyr yno hyd yn oed yn dyfeisio modrwyon y gellir eu dilyn â lloeren, tebyg i systemau llywio sydd mewn ceir heddiw. Gydag amserwyr electronig a dyfeisiadau eraill, mae rasio colomennod o’r diwedd yn ymuno â’r oes fodern, ac rwy’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn denu mwy o bobl ifanc i’r clwb, ac yn cadw ei hanes cyfoethog yn fyw i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.”

Wrth sôn am yr effaith gadarnhaol y bydd y dyfarniad yn ei gael, dywedodd Aelod Pwyllgor Cymru Cronfa Loteri Fawr a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le, Janet Reed: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn cyflawni ein haddewid i ddefnyddio arian Loteri i adnewyddu ac adfywio cymunedau, taclo anfantais a gadael etifeddiaeth barhaol. Bydd y dyfarniad hwn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau nifer o bobl yn y gymuned, ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Am fwy o wybodaeth am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch at www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch adnodd chwilio penodol ‘Cymru’.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn o arian achosion da'r Loteri bob wythnos, sy’n golygu, gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl ledled Cymru yn byw o fewn rhai milltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Bu Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DG ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £20 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 250,000 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH