- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 14 10 2008
Bydd cyfleoedd chwarae a hamdden newydd ar gyfer pobl ifanc anabl a phobl ifanc agored i niwed yn ymddangos ar draws Castell-nedd a Phort Talbot ac Abertawe, diolch i ddau ddyfarniad a gyhoeddir heddiw sy'n gwneud cyfanswm o ymron i £400,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.
Derbyniodd y sefydliad Interplay £207,346 a dyfarnwyd £160,000 i Gyngor Dinas a Sir Abertawe o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy'n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.
Bydd Interplay (Integrated Play and Leisure Project) yn defnyddio’r arian i redeg Menter Mynediad Gyfartal i Ieuenctid. Nod y prosiect yw galluogi pobl ifanc rhwng 12 a 19 mlwydd oed sydd ag anableddau i integreiddio gyda phobl ifanc eraill sy’n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot trwy fwynhau cyfleoedd hamdden ar y cyd.
Mae’r prosiect yn cynnwys pum prif elfen gan gynnwys cynllun gweithgareddau haf pythefnos o hyd ar gyfer grwpiau o bobl ifanc; diwrnodau gweithgaredd ieuenctid; prosiect preswyl penwythnos; grŵp ymgynghori ieuenctid i drafod materion sy'n effeithio ar bobl ifanc; a phrosiect clwb ieuenctid, a fydd yn galluogi i bobl ifanc ag anableddau ymuno â chlybiau ieuenctid lleol.
Wrth esbonio’r angen am y dyfarniad, dywedodd John Hawkins o Interplay: “Bydd y dyfarniad hwn yn cael effaith arwyddocaol ar argaeledd cyfleoedd chwarae a hamdden ar gyfer pobl ifanc ag anableddau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Trwy gynnwys pobl ifanc wrth gyflwyno a datblygu gweithgareddau wedi’u teilwra i'w hanghenion eu hunain, byddant yn dysgu sgiliau newydd, a fydd yn arwain at hyder, hunan-barch ac annibyniaeth cynyddol.
“Bydd perthnasau yn y gymuned yn gwella trwy bobl ifanc heb anableddau yn meithrin perthnasau positif gyda phobl ifanc gydag anableddau. A thrwy annog gweithgareddau integredig a chynhwysol, bydd stereoteipiau ynghylch pobl anableddau yn cael eu chwalu.”
Bydd uned Tîm Chwarae Plant Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn gwario’r £160,000 ar wella’r prosiect Tardis Mobile Play Bus. Mae’r arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn ffurfio rhan o fuddsoddiad gwerth £420,000 i ddatblygu gwasanaeth chwarae symudol a meithrinfa yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac Adfywio Abertawe. Bydd bws newydd yn cael ei brynu a’i drosi i Fws Chwarae, gan gymryd lle'r bws gwreiddiol a’i ddigomisiynwyd ym mis Ionawr 2007.
Bydd y prosiect newydd yn targedu’r rhai rhwng 5 a 14 oed a bydd yn cysylltu’n agos â chymunedau i'w cefnogi wrth ddatblygu eu prosiectau chwarae eu hunain. Bydd y cynllun yn cynnig cyfleoedd chwarae mynediad agored am ddim i blant agored i niwed, a fydd yn annog rhyngweithio cymdeithasol rhwng plant a phobl ifanc o wahanol alluoedd, oedrannau a chefndiroedd.
Nod arall yw cyflwyno gwaith allgymorth yn targedu troseddwyr ifanc a’r rheini sy’n dangos ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y prosiect yn defnyddio chwarae i addasu eu hymddygiad a’u helpu i integreiddio yn bositif i'w cymunedau. Bydd y prosiect hefyd yn adfywio’r gymuned trwy hyfforddi oedolion mewn gwaith chwarae, meithrin eu sgiliau a chreu cyfleoedd am waith gwirfoddol neu waith cyflogedig yn ardal Abertawe.
Wrth ymhyfrydu yn y dyfarniad, dywedodd Patsy McCarthy-White, Cydlynydd Prosiect Tardis Mobile Play: “Mae gan blant yr hawl i chwarae mewn amgylchedd diogel ac addas. Mae nifer o ardaloedd o fewn wardiau mwyaf difreintiedig Abertawe heb unrhyw gyfleusterau chwarae, neu maent yn gyfyngedig. Bydd y bws chwarae yn llanw’r bwlch hwn mewn darpariaeth trwy ddarparu cyfleuster chwarae a meithrinfa ddiogel, mynediad agored, trwy’r flwyddyn.”
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.
Gwybodaeth Bellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags