- Area:
- Cymru
- Release date:
- 6 12 2007
Mae’n gwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml gan y mwyafrif o bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol: “I ble mae fy £1 yn mynd ar ôl i mi brynu tocyn?”
Dros yr wythnosau nesaf, mae'r Gronfa Loteri Fawr yn amcanu i ddweud wrth bobl Powys ac Abertawe yn union sut mae arian y Loteri wedi ei wario yn eu hardal, gan bwysleisio’r gwahaniaeth mae wedi ei wneud i fywydau pobl o bob gallu ac oedran yn eu cymunedau.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu £65 miliwn o arian y Loteri i achosion da ym Mhowys (£33 miliwn) ac Abertawe (£32 miliwn) ers ffurfiwyd y Loteri Genedlaethol 13 mlynedd yn ôl. I ddathlu, mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi bod yn gweithio’n agos â rhai o adwerthwyr y Loteri yn y ddwy sir, gyda’r nod o ddangos i bobl yn union sut mae eu £1 Loteri wedi cael ei roi i ddefnydd da yn eu cymuned.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi cynhyrchu dau rifyn arbennig o’i gylchgrawn, Newydd Mawr, yn arbennig ar gyfer pobl sy’n byw yn y ddwy ardal. Mae’r cylchgronau yn llawn o storiâu a gwybodaeth ddefnyddiol am y gwahaniaeth mae arian y Loteri wedi ei wneud i fywydau pobl yn y ddwy sir dros y blynyddoedd. Bydd pob cwsmer sy’n prynu tocyn loteri yn yr adwerthwyr dethol yn derbyn copi rhad ac am ddim o’r cylchgrawn.
Mae arian y loteri wedi bod o fudd i amrywiaeth o sefydliadau a phrosiectau yn y ddwy sir. Er enghraifft, mae gan bobl o bob oed a gallu sy’n byw mewn cymunedau gwledig unig ym Mhowys fynediad at amrediad eang o wasanaethau, diolch i gynllun Trafnidiaeth Cymunedol a’i ariannir gyda chymorth o dros £188,000 gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae’r arian wedi galluogi Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO) i brynu bws mini sydd wedi ei addasu yn arbennig i gefnogi pobl mewn cymunedau ledled y sir.
Un o’r bobl sy’n elwa o’r prosiect yw Paul Rowlands sy’n 33 mlwydd oed o Rhaeadr. Ym mis Ebrill eleni cafodd y gŵr priod sy’n dad i ddau o blant ddamwain beic modur arswydus ac fe dorrodd ei fraich a’i goes. Dros y misoedd canlynol, fe ddaeth i wybod drosto ei hun pa mor hanfodol yw’r prosiect trafnidiaeth cymunedol a gaiff ei redeg gan PAVO.
“Dwi ddim yn gallu gyrru gan na alla i roi pwysau ar fy nghoes a dydi fy ngwraig Karen ddim yn gyrru ychwaith,” eglurodd.
“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn weddol gyfyngedig yma, felly mae sefydliadau fel PAVO yn fendith ac maent wedi bod yn wych. Dydi’r gwasanaeth bysiau lleol ddim yn ffitio gyda’m hapwyntiadau ysbyty ac oherwydd fy anafiadau, dydi hi ddim yn ymarferol imi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. A chan na allaf i weithio a dim arian yn dod mewn, ni allem fforddio i dalu am dacsis o hyd.”
“Felly heb y cynllun trafnidiaeth gymunedol, fe fydden ni ar goll yn gyfan gwbl. Mae gan PAVO fws mini arbennig, sydd wedi ei addasu ar gyfer pobl sydd ag anableddau ac mae ganddynt hefyd yrwyr gwirfoddol cyfeillgar iawn, sydd bob amser yn barod i roi help llaw. Maent yn eich gollwng tu allan i’r ysbyty ac yn eich codi pan fyddwch yn barod i adael. Mae’r gwasanaeth am ddim i ni gan na allaf weithio ar y funud oherwydd y ddamwain.”
Mae digartrefedd ymysg y nifer o faterion sy’n cael eu taclo gyda’r buddsoddiad o £32 miliwn yn Abertawe. Galluogodd arian y loteri i Ganolfan Gymunedol Cyrenians yn Abertawe i sefydlu canolfan galw i mewn ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i’w helpu i roi eu bywyd yn ôl ar y trywydd cywir. Amcan y ganolfan yw galluogi’r rhai sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref i gael mynediad at gefnogaeth a chyngor ar iechyd, tai ac addysg.
Yn cael budd llawn o’r prosiect mae Sian Richardson sy’n 23 mlwydd oed. Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, canfu ei hun yn ddigartref ar strydoedd Abertawe a hithau yn 19 oed: “Rwyf wedi gweddnewid fy mywyd yn gyfan gwbl,” eglurodd.
“Gall digartrefedd ddigwydd i’r bobl gorau a’r gwaethaf, eto i gyd, mae modd rhoi trefn ar eich bywyd. Ar y dechrau, roeddwn yn teimlo nad oedd ffordd allan o’r twll hwn, ond derbyniais y gefnogaeth gywir, a diolch i Cyrenians, rwyf wedi cyrraedd yno.”
Gan bwysleisio’r effaith y mae arian y Loteri wedi ei gael ar gymunedau ledled Cymru, dywedodd, Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Ceri Doyle: “Mae Cymru wedi elwa’n fawr o’r Loteri Genedlaethol ac mae’r Gronfa Loteri Fawr ar hyn o bryd yn buddsoddi miliwn o bunnoedd yr wythnos mewn prosiectau ledled Cymru sy’n gwella ein cymunedau ac yn cynyddu’r cyfleoedd sydd i’r bobl sy’n byw ynddynt. Credwn ei bod hi’n bwysig fod pob chwaraewr y loteri yn gwybod ble mae’r arian yn cael ei wario ac fod pob tocyn loteri maent yn ei brynu yn helpu i ariannu prosiectau gwerth chweil yn eu hardal.
Ychwanegodd: “Byddai sawl un wedi’i synnu o glywed fod rhai prosiectau sy’n agos i ble maent yn byw wedi derbyn arian gan y loteri. Y gwir yw ein bod ni oll yn byw o fewn tafliad carreg o brosiect sydd wedi derbyn dyfarniad o arian y Loteri.”
Fel rhan o’r fenter, mae’r Gronfa Loteri Fawr hefyd yn cynnig cyfle euraidd i bobl sy’n byw ym Mhowys ac Abertawe i ennill cyflenwad blwyddyn o docynnau’r Loteri Genedlaethol!
Mae gan bawb sy’n codi copi o Newydd Mawr y cyfle i ennill tanysgrifiad 52 wythnos i chwarae un set o rifau ar gêm y Lotto ar nos Fercher a nos Sadwrn. Mae pedwar cyfle i ennill, gan y bydd gwobr yn cael ei roi i’r pedwar cynnig cyntaf a ddaw o’r het am 5.00pm ar y dyddiad cau o Ddydd Iau 31ain Ionawr 2008.
I gael eich cyfle chi i ennill a chael mwy o wybodaeth am y £65 miliwn mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi ei fuddsoddi ym Mhowys ac Abertawe, cymerwch gopi o Newydd Mawr yn yr adwerthwyr canlynol neu rhowch alwad i ni ar 01686 611702.
Adwerthwyr loteri ym Mhowys
1.G & A Jones, Station Crescent, Llandrindod Wells
2.One Stop, y Trallwng
3.Spar, y Trallwng
4.Stars Newsagent, y Drenewydd
5.Co-op Store, Machynlleth
6.Harry Tuffin Store, Yr Ystog
7.Curios Gift Shop, Llanelwedd
Adwerthwyr loteri yn Abertawe
1.Good News Lotto Kiosks, Marchnad Abertawe
2.Choc Box, Raven Hill, Abertawe
3.Spar, Dunvant, Abertawe
4.Spar, Mount Crescent, Treforys
5.Swyddfa Bost Y Mwmbwls, Y Mwmbwls
Am wybodaeth bellach am, waith y Gronfa Loteri Fawr a’r rhaglenni grant sydd ar gael, ymwelwch â’r wefan yn www.cronfaloterifawr.org.uk
Gwybodaeth pellach
Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu yn agos at £1 miliwn yr wythnos mewn arian achosion da y Loteri, sydd ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri yn golygu fod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru o fewn ychydig filltiroedd o brosiect a’i ariannwyd gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd yn y Senedd ar 1 Ragfyr 2006.
- Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sydd wedi ei wario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn yn awr wedi ei godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi eu rhoi i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags