- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 28 3 2012
Un a all dystio i'r angen am y prosiect Invisible Walls, a'i effaith bositif, sydd wedi derbyn arian y Gronfa Loteri Fawr yw Gavin Williams, 30 oed, o'r Coed Duon.
Treuliodd Gavin, cyn garcharor yn y Parc, 15 mlynedd yn ôl ac ymlaen i'r ddalfa a chanddo hanes o gamddefnyddio sylweddau. Ym mis Gorffennaf 2010, fe'i dedfrydwyd i flwyddyn yn y carchar am ei rôl mewn trosedd cysylltiedig â byrgleriaeth. Yn sgil ei gamddefnydd ar sylweddau nid oedd yn cael ei gweld ei ferch ac roedd y berthynas gyda'i deulu wedi dirywio'n llwyr.
Ar ôl derbyn cymorth gan y Rhaglen Ymyriadau Teuluol yng Ngharchar y Parc a chymorth trwy'r prosiect peilot Invisible Walls gwreiddiol a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr, mae Gavin bellach wedi troi ei gefn ar gyffuriau, wedi ailadeiladu pontydd â'i deulu ac mae hyd yn oed wedi sefydlu ei fusnes celf llawrydd ei hun.
Mae'r artist talentog wedi gweddnewid ardaloedd ymwelwyr y Carchar a'r Sefydliad Troseddau Ieuenctid yn y Parc gyda murluniau bywiog a lliwgar - ond mae ei stori hyd yn oed yn fwy trawiadol.

Yn rhyfeddol, cyn mynd i garchar y Parc, nid oedd Gavin erioed wedi codi brwsh paent, ond pan ddechreuodd dynnu lluniau ar gyfer ei blant fel rhan o'r rhaglen, fe ddarganfu bod ganddo dalent.
"Fe wnaethant sylwi bod gennyf sgiliau da wrth dynnu lluniau ac fe wnaethant fy helpu i ddatblygu fy sgiliau trwy roi cyfle i mi weld a allwn ei wneud a fy nghefnogi'r holl ffordd," dywed Gavin.
"Yn syml fe wnaethant fy ngwthio i'r cyfeiriad cywir."
Mae peintiadau a murluniau Gavin wedi'u gwasgaru dros waliau'r carchar, gan gynnwys peintiadau ar waliau'r Uned Ymyriadau Teuluol. Mae ei beintiadau wedi gwneud yr ardal chwarae i blant yn fwy deniadol a chyfeillgar ac wedi helpu i greu diwylliant mwy hamddenol.
"Rwyf hefyd wedi peintio lluniau ar waliau'r ystafell ble mae'r cwn a'r wardeniaid yn archwilio'r teuluoedd cyn iddynt ddod i mewn i'r carchar," dywed.
"Mae wedi'i wneud yn fwy cyfeillgar i'r defnyddwyr fel bod yr awyrgylch yn llai brawychus a chlinigol i'r rheini sy'n dod i weld eu hanwyliaid. Mae cael llai o effaith arnynt."
Mae'r cymorth parhaus y mae wedi'i dderbyn wedi'i helpu i ailgysylltu â'i deulu: "Nid oeddwn mewn cysylltiad â fy nheulu am flynyddoedd oherwydd fy nghamddefnydd ar sylweddau a doeddwn i ddim yn cael gweld fy merch," dywed Gavin.
"Gwnaeth y tîm ym Mharc pob ymdrech i drefnu ymweliadau ar fy nghyfer a siarad â fy nheulu i ddweud wrthynt ba mor dda yr oeddwn i'n ei wneud. Fe wnaethant agor yr Uned Ymyriadau Teuluol gyda lolfa deuluol ac roedd modd trefnu ymweliadau ar gyfer teuluoedd o fewn amgylchedd llai ffurfiol i siarad â chi. Fe wnaethant helpu llawer ac fe wnaethant drefnu llawer o wahanol gyrsiau a rhaglenni ar fy nghyfer i a'r teulu. Derbyniais gymorth parhaus ar gyfer fy mhroblemau camddefnyddio sylweddau. Fe ddangosodd un cwrs i ni sut mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn cael effaith ar ein teuluoedd. Roedd hynny o gymorth mawr i mi ac fe ddangosodd i fy nheulu fy mod i'n trio a fy mod o ddifrif ynglyn â newid fy hun i'r dyfodol. Roedd mynd ar y cwrs hwnnw gyda'r teulu yn brofiad a newidiodd fy mywyd."
Sicrhaodd Gavin ystod o gymwysterau tra yn y Carchar, sy'n rhywbeth na gredodd ef y byddai'n ei wneud: "Fe roddais fy enw lawr ar gyfer pob cwrs posibl a chwblhau pob un ohonynt," esbonia.
“Fe wnes i gwblhau TGAU mewn ystod o bynciau ac fe wnes i lefel A mewn Celf Gain. Fe wnaethom agor siop gardiau yn yr uned, ble wnes i ddefnyddio fy nghelf i greu cardiau. Fe wnaethom sicrhau cymwysterau mewn sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid, cadw cyfrifon, rheoli busnes ac fe wnaethom edrych i mewn i bethau fel marchnata'r busnes. Roedd y cymwysterau yr oeddwn wedi'u sicrhau o help mawr i mi yn yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud. Mae'r cyrsiau yn y carchar yn boblogaidd ac mae rhestr aros gan fod cynifer eisiau eu gwneud. Mae'r cymorth yn anhygoel."
Fe roddodd tîm y Parc Gavin mewn cysylltiad ag Ymddiriedolaeth y Tywysog ar ôl iddo adael y carchar, ac yn ei dro fe wnaeth hynny ei alluogi ef i sefydlu ei hun fel peintiwr hunangyflogedig.
"Fe wnes i ddechrau gweithredu fel artist llawrydd ym mis Ionawr eleni," mae'n ymfalchïo.
"Rwy'n gwneud llawer o bethau o bortreadau teuluol i furluniau rhyfel i brosiectau mawr. Unrhyw beth y mae pobl eisiau i mi ei dynnu neu ei beintio a dweud y gwir. Mae busnes wedi bod yn brysur iawn ac rwyf wedi cael cymorth di-baid gan y Parc ers y diwrnod y cefais fy rhyddhau."
Wrth i'w fusnes brysuro, gwahoddodd y tîm yng Ngharchar y Parc ef yn ôl fe contractwr allanol, i ailgydio ym mhethau a gweddnewid yr uned ymyriadau teuluol a'r ardaloedd i ymwelwyr.
"Mae'n anodd dychmygu wrth edrych yn ôl pa mor bell yr wyf wedi dod a dweud y gwir," dywed.
"Ni fyddwn i yma yn siarad â chi heddiw heblaw am y cymorth yr wyf wedi'i dderbyn. Yn ôl pob tebyg fe fyddwn i yn ôl yn y carchar. Ni fyddwn i fyth wedi cael cyfle i wneud yr hyn yr wyf wedi'i wneud ac mae'n debyg y byddwn yn yr un llanast ag yr oeddwn i yn y lle cyntaf."

Wrth edrych yn ôl, mae Gavin wrth ei fodd â'r hyn y mae wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr o amser a does ganddo ddim ond canmoliaeth am y gefnogaeth y mae wedi'i derbyn:
"Rwyf wedi llwyddo i ddod oddi ar y cyffuriau, wedi cael fy nheulu yn ôl ac mae gennyf fy musnes fy hun, ni allwn ofyn am fwy a dweud y gwir," dywed.
"Mae'r tîm yn y Parc yn rhagorol ac maen nhw'n haeddu'r holl gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei chael am y cymorth y maen nhw'n ei roi i'r carcharorion. Mae llawer o bobl y gallwn eu crybwyll. Rwy'n falch bod Carchar y Parc wedi sicrhau'r arian i helpu mwy o bobl fel fi."
Wrth ymhyfrydu yn y cynnydd y mae Gavin wedi'i wneud, dywedodd Corin Morgan-Armstrong, Uwch Reolwr Carchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc: "Pan gyrhaeddodd yma y tro diwethaf, roedd wedi treulio 15 mlynedd yn ôl ac ymlaen i'r ddalfa a chanddo hanes o gamddefnyddio sylweddau."
"Fe gymerodd ran yn ein rhaglen ac fe gafodd effaith anferth arno, ac yn sgil hynny fe lwyddodd i droi ei gefn ar y cyffuriau yn ogystal â darganfod ei fod yn beintiwr da iawn.
"Fe ddechreuodd gyda lluniau bach, ond fe ehangodd i furluniau mawr sydd wedi bywiogi ardaloedd cyfan o'r carchar - ac fe roddodd y darganfyddiad hynny gyfle iddo dorri'n rhydd o'i hen fywyd. Fe wnaeth bopeth yr oeddem yn gofyn iddo'i wneud, a mwy, fe wnaeth ragori ar ein disgwyliadau ac rydym wrth ein boddau o gael talu am ei dalentau."
Ychwanegodd Corin: "Mae'n mynd y tu hwnt i'w fusnes, serch hynny. Mae bellach yn unig ofalwr dros ei blant ac wedi gweddnewid pob agwedd ar ei fywyd er gwell.
"Rwyf wedi bod yma er 1997, ac ni allaf feddwl am stori lwyddiant sydd i'w chymharu ag un Gavin. Rydym yn falch iawn drosto, mae'n enghraifft berffaith o'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni yma."
I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i Gymru.
Mi fydd lluniau o Gavin ar gael ar ôl 1 o’r gloch heddiw yn rhad ac am ddim drwy gysylltu a Swyddfa’r Wasg y Gronfa Loteri Fawr. Gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd yr erthygl.
Further Information
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.biglotteryfund.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 46% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags