- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 11 5 2012
Yn gweithio o Serennu, canolfan benodedig i blant yng Nghasnewydd, mae The Sparkle Appeal yn darparu cyfleusterau triniaeth ac asesu o'r radd flaenaf, ynghyd â gwybodaeth a gweithgareddau hamdden, ar gyfer dros fil o blant ag anghenion cymhleth ac arbennig yn Ne Gwent.
Mae'r prosiect yn dathlu heddiw ar ôl derbyn grant o bron £490,000 (£487,743) gan raglen Pawb a'i Le y Gronfa Loteri Fawr i redeg y prosiect Sparkle Family, Support & Play. Bydd y prosiect hwn yn gwneud yn union yr hyn y mae ei enw yn ei awgrymu, sef darparu gwasanaeth cefnogi cyfannol i deuluoedd plant ag anableddau dwys a lluosog, gan helpu i ddiwallu eu hanghenion iechyd, cymdeithasol a hamdden ar draws siroedd Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen. Bydd y prosiect yn sicrhau y gellir integreiddio plant ag anableddau cymhleth i'r gymuned yn well trwy wella'u sgiliau a'u helpu i fwynhau chwarae a gweithgareddau gyda'u brodyr a'u chwiorydd ac aelodau eraill o'r teulu.
Rhywun a all dystio i'r angen am y fath brosiect yng Ngwent yw Vanessa May o Gasnewydd.
Ganwyd mab Vanessa, Daniel, sydd bellach yn 10 mlwydd oed, gydag abnormaledd cymhleth ar ei asgwrn cefn (nifer o hanner fertebrâu, ac asennau a fertebrâu ar goll). Roedd Vanessa yn gwybod o'r adeg pan oedd yn 2 flwydd oed y byddai angen llawdriniaeth sylweddol arno, ac o 18 mis ymlaen fe ddechreuodd boeni am y llawdriniaeth, gan ddarbwyllo ei hun yr oedd e'n mynd i farw. Bu Vanessa, sy'n gyfreithiwr, yn gwrthod siarad am ysgolion meithrin, roedd hi'n methu â dweud y geiriau "cadair olwyn", a sylweddolodd fod hyn i gyd yn dechrau tarfu ar ei gwaith a'i bywyd teuluol yn ogystal ag effeithio ar ei pherthynas gyda'i gwr.
Ar y pryd roedd Vanessa'n bya ac yn gweithio fel cyfreithiwr yn Llundain, ac argymhellodd ei hymwelydd iechyd anghenion arbennig y dylai hi weld cwnsler ar gyfer rhieni i blant ag anghenion arbennig. Yn ystod y cwpl o sesiynau cyntaf, bu Vanessa'n ddagrau i gyd. Gofynnodd y cwnsler iddi ddisgrifio Daniel.
"Mae'n 18 mis oed, mae llawer o bethau'n bod gydag ef ac mae angen llawdriniaeth fawr ar ei asgwrn cefn arno," atebodd hi.
Stopiodd y cwnsler lif y geiriau a gofynnodd iddi pa liw oedd ei wallt, pa liw oedd ei lygaid, beth yw ei hoff bethau a'i gas bethau, a pha fath o berson ydyw o ran anian.
Parodd hyn i Vanessa stopio a dechrau ailddiffinio sut yr oedd hi'n gweld Daniel a sut yr oedd yn datblygu fel person, yn lle edrych arno a gweld ei anabledd.
Aeth y flwyddyn o gwnsela â Vanessa ar daith o hunanddarganfyddiad, sylweddolodd pa mor lwcus yr oedd hi i gael Daniel a thrwy gydol y cyfnod hwn fe deimlodd yr oedd yn rhyddhad i ddadlwytho ar rywun nad oedd yn gyfaill nac yn aelod o'r teulu, gan olygu felly, nad oedd hi'n teimlo'n euog am y peth. Wrth edrych yn ôl mae hi'n ei ddisgrifio bron fel cwnsela profedigaeth:
"Popeth yr oeddech yn dychmygu y byddai'r profiad o gael baban - doedd e ddim fel hynny," meddai Vanessa.
"Roedd yn rhaid dechrau o'r newydd gyda chysyniadau newydd."
Mae Vanessa bellach yn ymwneud â changen Casnewydd y grwp Parents for Change, sy'n cwrdd bob mis yng Nghanolfan Blant Serennu yng Nghasnewydd ac sy'n cynnig cefnogaeth ac ymgyrchoedd ar gyfer teuluoedd a gofalwyr plant a phobl ifanc anabl hyd at 25 oed.
Wrth groesawu rhieni i'r grwp, yn aml mae hi'n adnabod arwyddion y profiadau y cafodd hi ei hun. Mae hi'n dyheu am gael yr un lefel o gwnsela a chefnogaeth ag a gafodd yn Llundain, ac yn pwysleisio bod "popeth rydych yn ei wneud fel rhiant yn y cam hwnnw'n effeithio ar y person y byddwch yn y dyfodol."
Mae Vanessa yn disgrifio nod y gwasanaeth cwnsela, The Sparkle Appeal, fel darparu “materion cefnogi teuluoedd - i helpu a chefnogi'r rhiant neu ofalwr sy'n profi'r argyfwng er budd y teulu i gyd.”
Ar sail ei phrofiad ei hun o'r gwasanaeth hwn, nad yw erioed wedi bod ar gael o'r blaen yng Nghasnewydd, dywed Vanessa: Fi yw'r rhiant yr ydw i heddiw diolch i'r gwasanaeth hwn. Pwy a wyr pa fath o fam, gwraig, cyfreithiwr y byddwn i wedi bod heb y gefnogaeth hollbwysig hon. Newidiodd y ffordd yr ydw i'n edrych ar bethau. Yn wir, efallai y byddwn wedi cyrraedd y pwynt hwn ar fy mhen fy hun yn y pen draw, ond nid pryd hynny."
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/biglotterywales
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Tags