- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 19 10 2011
Mae prosiectau i adfywio hen bafiliwn pier o Oes Victoria a datblygu safle claddu gwyrdd ymhlith y rheini sy'n rhannu ymron i £4 miliwn trwy'r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT).
Mae'r rhaglen CAT gwerth £13 miliwn yn bartneriaeth rhwng y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n bwriadu darparu ariannu cyfalaf a refeniw i gefnogi trosglwyddo asedau, megis tir ac adeiladau, o fudiadau sector cyhoeddus i berchnogaeth gymunedol.
Bydd y prosiectau sy'n rhannu yn y £3,825,885 heddiw yn defnyddio'r arian i adfywio ac ail-fywiocau'r asedau i wella eu bywoliaeth a'u cymdogaethau (rhestr lawn o ddyfarniadau ar ddiwedd y datganiad).
Dyfarnwyd grant o £700,000 i Brosiect Pafiliwn Pier Penarth, Penarth Arts and Crafts Limited, er mwyn iddynt ddarparu atyniad i dwristiaid ac adeilad cymunedol ym Mhafiliwn Pier Penarth ym Mro Morgannwg. Byddai'r pafiliwn yn cynnig ystod o weithgareddau gan gynnwys rhaglenni addysgol, cyfleusterau cyfarfod a chynadledda, dangos ffilmiau, gwyliau, arddangosfeydd, darpariaeth gofal plant ynghyd â bwyty a chaffi.
Dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Pafiliwn Maggie Knight: “Gyda'r cyfraniad sylweddol hwn gan y rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol, bydd rhanbarth cymunedol Penarth a'r tu hwnt yn elwa o'r datblygiad pellach o ased unigryw a phwysig. Nid yn unig y mae Pafiliwn Penarth wedi'i leoli i hyrwyddo dealltwriaeth a'r defnydd ar yr ail amrywiad llanw mwyaf yn y byd, ond mae'r strwythur ei hun yn nodyn eiconig i'n hatgoffa o orffennol a thraddodiad hanesyddol cyfoethog Cymru."
Yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, dyfarnwyd grant o £789,165 i Seren Ffestiniog Cyf ar gyfer ei brosiect Gwesty Seren a Gerddi 'Stiniog.
Bydd y prosiect yn prynu cartref gofal Bryn Llewelyn yn Llanffestiniog i ddarparu gwesty gofal seibiant i bobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Bydd y gwesty'n darparu deg ystafell wely ag ystafelloedd ymolchi ar gyfer buddiolwyr a'u gofalwyr, a bydd yn cynnig ystod o weithgareddau yng Ngerddi 'Stiniog gerllaw.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Linda Jones,: “Bydd penderfyniad CAT bellach yn rhoi'r hyder i ni sicrhau cydbwysedd ariannol sy'n ofynnol i weithredu prosiect a fydd yn torri tir newydd o ran darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, ynghyd â sefydlu menter gymunedol newydd sbon a fydd yn creu hyd at 15 o swyddi newydd a nifer o gyfleoedd hyfforddi yn y diwydiannau gofal a thwristiaeth.
"Mae hefyd yn golygu y bydd adeilad sydd wedi bod yn rhan annatod o'r sector gofal yn ardal Blaenau Ffestiniog ers diwedd yr ail ryfel byd yn parhau yn y sector hwnnw i'r dyfodol agos. Dyma gam arall ar y ffordd i roi mwy o urddas i bobl ag anableddau dysgu, ac mae hefyd yn rhoi cyfle i'w gofalwyr gael gorffwys.”
Yn ne-orllewin Cymru, mae Coedwig Gymunedol Longwood Community Woodland, ger Llanbedr Pont Steffan, yn derbyn £787,714 i gaffael tir o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru gyda'r nod o gyflwyno nifer o weithgareddau a gwasanaethau ar gyfer y gymuned leol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys safle claddu gwyrdd naturiol, cynnal rhaglenni addysg drwy'r ysgol goedwig, llogi'r theatr awyr agored a safle gwersylla sy'n llesol i'r amgylchedd.
Wrth groesawu'r grant, dywedodd Cadeirydd y Grwp Philip Swain: "Mae'n newyddion gwych ac yn benllanw nifer o flynyddoedd o waith caled gan bobl leol i achub y goedwig, sy'n cael ei defnyddio'n aml gan y cyhoedd, fel ased cymunedol pwysig. Bellach mae gennym gyfle gwych i ddychwelyd Longwood, mewn ffordd gynaliadwy yn amgylcheddol, i fod yn goedwig frodorol draddodiadol a hefyd cynnig rhaglen gyffrous o gyfleoedd addysgiadol, cymdeithasol a gwaith i bobl Ceredigion."
Yn Rhondda Cynon Taf, mae Community Regeneration Through Waste Minimisation is too Good to Waste yn derbyn £768,781 ar gyfer ei brosiect Valleys Furniture Recycling Limited. Bydd yr arian yn galluogi iddo ehangu ar ei wasanaeth ailgylchu o'i uned ddiwydiannol gyfredol yn Ynyshir.
Mae £780,225 wedi'i ddyfarnu i brosiect ProMo Cymru Ltd a fydd yn defnyddio'r arian i adnewyddu'r adeilad rhestredig Gradd II yn Sefydliad Glyn Ebwy a'i weddnewid yn ganolbwynt ar gyfer ystod eang o weithgareddau gan gynnwys addysg, stiwdio ddawns, cynhyrchu cerddoriaeth, clwb ieuenctid a chaffi.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant: "Mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y mae'r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn helpu i ddod â chwa o awyr iach i gyfleusterau cymunedol trwy sicrhau eu bod yn addas i'r diben. Mae'r rhaglen hon yn dod ag ystod lawn o fuddion cymunedol ac economaidd i gymunedau ar draws Cymru trwy roi'r grym iddynt i ddefnyddio adeiladau a thir i gyd-fynd â'u hanghenion."
Dywedodd Aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor CAT, Mike Theodoulou: "Mae'r rhaglen eisoes yn helpu cymunedau yng Nghymru i fod yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy drwy eu cynorthwyo i ddod o hyd i asedau a'u cynorthwyo. Bydd y grantiau hyn a ddyfarnwyd heddiw yn helpu'r prosiectau i ddatblygu eu cynlluniau hyd yn oed ymhellach yn y gobaith y bydd pobl leol yn gallu elwa'n economaidd o'r cyfleoedd posib y gellir eu creu."
I gael mwy o wybodaeth ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk neu e-bost cat@biglotteryfund.org.uk
Rhestr lawn y
prosiectau
- 33KB:
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae'r Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn hyrwyddo trosglwyddo asedau sector cyhoeddus am bris sy'n sylweddol is na'r gwerth ar y farchnad drwy drefniadau trosglwyddo rhydd-ddaliad neu brydles. Mae'r rownd ariannu hon yn rhoi ymron i £4 miliwn i grwpiau cymunedol er mwyn iddynt greu mentrau cymunedol ffyniannus sy'n mynd i'r afael ag anghenion cymunedau lleol.
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd iechyd, addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,500 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags