- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 25 7 2007
Bydd darn pwysig o waith ymchwil sy’n anelu at wella bywydau pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn ardaloedd gwledig Cymru yn cael ei lansio gan y Gronfa Loteri Fawr yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Fel rhan o’i hymgyrch Mwy na Rhif i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl yng Nghymru ac i gefnogi’i rhaglen grant Iechyd Meddwl gwerth £15 miliwn, mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi comisiynu Mind Cymru i ymgymryd â phrosiect Ymchwil Gwledig.
Bydd yn cael ei lansio yn stondin Mind Cymru (142) ar faes Sioe Frenhinol Cymru am 5pm Ddydd Mercher 25 Gorffennaf.
Bydd y prosiect ymchwil yn cyfrannu at wella bywydau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o faterion iechyd meddwl sy’n byw yn ardaloedd gwledig Cymru. Y nod yw adnabod y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad, neu geisio cael mynediad, at wasanaethau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig, gan dalu sylw penodol i bobl o fewn yr ystod oedran rhwng 18 a 40 mlwydd oed.
Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, sef sioe amaethyddol fwyaf Ewrop sy’n denu dros 200,000 o ymwelwyr yn flynyddol, yw’r digwyddiad perffaith i lansio prosiect o’r fath.
Dengys ystadegau y bydd un o bob pedwar ohonom yn profi problemau iechyd meddwl rhywbryd yn ystod ein bywydau ac adnabuwyd ffermio fel un o’r galwedigaethau sydd fwyaf wrth risg o hunanladdiad. Mae ffermwyr yn parhau i wynebu heriau cyson gyda’r tywydd, tymhorau, biwrocratiaeth, rheolau biwrocrataidd, marchnadoedd symudol ac afiechydon cnydau ac anifeiliaid.
Mae beichiau dyfnach eraill a all achosi staen i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Gall y cyfleoedd fod yn gyfyngedig ar gyfer swyddi, addysg, hamdden, dewis, iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn aml mae’r gwaith yn rhan amser, â chyflog isel, yn dymhorol ac yn golygu gweithio oriau hir. Mae’n bosibl bod pobl hŷn yn ei chael yn anodd cael y gofal neu’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt ac yn aml mae’n anodd cael mynediad at wasanaethau arbenigol o bob math.
Wrth edrych ymlaen at lansio’r prosiect, dywedodd Barbara Wilding Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd Meddwl: “Y mater allweddol sy’n peri pryder i ni yw sut i gysylltu â’r rhieni mewn gofid ac yn fwy penodol, sut i berswadio pobl mewn argyfwng i ymestyn allan am help.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Mind ar y darn cyffrous hwn o ymchwil ac rwy’n siŵr y bydd y canfyddiadau yn ein helpu i ddeall yr amryw faterion y mae pobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig yn eu hwynebu. Nod hirdymor y prosiect Ymchwil Gwledig yw ein helpu ni i leihau cyffredinolrwydd straen o fewn ardaloedd gwledig drwy gryfhau'r ddarpariaeth gefnogaeth ar gyfer pobl wledig."
Wrth gyfeirio at yr angen i ymgymryd â’r ymchwil, dywedodd Paul Roberts, Cadeirydd grŵp rheoli Mind Cymru a defnyddiwr gwasanaeth: “Teimlaf fod y darn hwn o ymchwil gweithredu yn bwysig iawn. Mi all hi fod yn anodd i bobl sy’n byw yng Nghymru wledig gael mynediad at wasanaethau. Os gellir annog a chefnogi grwpiau cymunedol lleol i gymryd diddordeb mewn iechyd meddwl, (yn enwedig ar gyfer oedolion ifanc), byddant yn gweld sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl."
Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar siroedd Powys, Ceredigion a Gwynedd a defnyddir amrywiaeth o offer ymchwil gweithredu i ymgymryd â’r gwaith gan gynnwys holiaduron drwy'r post a holiaduron electronig, cyfweliadau ffôn strwythuredig a grwpiau ffocws. Ymgymerir â’r rhain yn gyfrinachol a bydd manylion yr unigolion yn ddienw yn yr adroddiad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at yr ymchwil, cymryd rhan yn y prosiect neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Ruth Coombs ar 02920 346575 neu r.coombs@mind.org.uk
Gwybodaeth pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r ardaloedd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian y Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.
Tags