Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Croeso Brenhinol i Elusen o Gaerdydd ym Mharti Gardd y Frenhines

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
31 5 2012

Mwynhaodd aelodau o elusen yng Nghaerdydd gyfle unigryw ddoe i gwrdd â'i Mawrhydi Y Frehines mewn Parti Gardd ym Malas Buckingham.

Roedd Angela Jones a Karen Lowe o Age Concern Caerdydd a Bro Morgannwg yn bresennol yn y digwyddiad fel rhan o gymryd rhan ym Miliynau'r Bobl y Frenhines – cystadleuaeth ariannu'r Loteri i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, a redir gan y Gronfa Loteri Fawr mewn partneriaeth ag ITV a chyda chymeradwyaeth gan Balas Buckingham.

Cymerodd y grwp ran yng nghystadleuaeth Miliynau'r Bobl y Jiwbilî y llynedd, a ddarlledwyd ar newyddion ITV Wales. Aethant benben â'i gilydd gydag elusen arall a oedd yn cystadlu am yr ariannu, gyda'r cyhoedd yn pleidleisio drostynt fel y grwp mwyaf haeddiannol i dderbyn grant o fwy na £23,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Enillodd y grwp yr ariannu ar gyfer eu prosiect hanes rhwng y cenedlaethau, Journeys, Living Links with the Past.

Mae'r prosiect yn ymwneud â disgyblion o ysgolion uwchradd yn cynnal cyfweliadau â phreswylwyr cartrefi gofal yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg am eu bywydau a'u profiadau trwy gydol teyrnasiad y Frenhines. Mae'r cyfweliadau'n cael eu recordio a'u chwarae mewn cartrefi preswyl, ar radio lleol ac mewn llyfrgelloedd, ac mae cofnod ohonynt yn cael ei fanylu mewn 'llyfrau bywyd' y mae preswylwyr y cartrefi gofal yn cael eu cadw a'u trosglwyddo i'w teuluoedd.

Meddai Angela Jones, Cydlynydd y Prosiect Journeys, a aeth i'r Parti Gardd ynghyd â'r Gweithiwr Eiriolaeth, Karen Lowe: "Roedd cwrdd â'r Frenhines yn syfrdanol - yn anrhydedd fawr. Roedd hi'n hyfryd, parodd hi i ni deimlo'n gyfforddus. Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn y prosiect Journeys a'r hyn a wnaethom ni - y cyfweliadau a'r myfyrwyr yn cymryd rhan - roedd yn fendigedig."

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau:  07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Hŷn

Themâu

  • Iechyd a lles
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
ADBORTH