- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 27 8 2008
Heddiw mae seren rygbi Cymru, Colin Charvis, wedi dangos ei gefnogaeth i brosiect a ariannir gan y Gronfa Loteri Fawr er mwyn trechu hiliaeth yng Nghymru.
Dyfarnwyd £161,328 i'r sefydliad Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy’n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.
Bydd yr arian yn cael ei wario ar brosiect i ehangu ac adeiladu ar waith cyfredol y sefydliad ar draws Cymru gyfan trwy gyflwyno gweithdai gwrth-hiliaeth, cystadlaethau a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth trwy gyfrwng chwaraeon i bobl ifanc. Trwy annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn cystadlaethau ysgol, cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a gweithio gyda sêr chwaraeon, bydd y prosiect yn helpu i drosglwyddo neges bod hiliaeth yn annerbyniol a helpu i fynd i'r afael ag allgau cymdeithasol a meithrin cydlyniant cymdeithasol. Y nod yw cynyddu nifer y bobl ifanc o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cyfranogi mewn chwaraeon, ynghyd â gwella iechyd pobl ifanc. Trwy weithio gyda chlybiau chwaraeon, bydd hefyd yn cefnogi pobl ifanc sydd eisiau cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi.
Dengys ffigurau diweddar gan Gyngor Caerdydd bod digwyddiadau hiliol yn ysgolion Caerdydd wedi cynyddu gan 16% er 2003. Bydd y prosiect yn cefnogi Cyngor Caerdydd, sydd wedi bod yn gweithio’n weithredol gyda sefydliadau perthnasol eraill, i fynd i’r afael â hiliaeth ar ei ben.
Er mwyn dangos ei gefnogaeth, fe wnaeth chwaraewr rygbi Cymru, Colin Charvis, groesawu’r newyddion heddiw. Yn ddiweddar fe ymwelodd â Downing Street lle cafodd ei groesawu i Neuadd Enwogion ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ gan y Prif Weinidog, Gordon Brown, mewn seremoni wobrwyo i gydnabod cyfraniad modelau rôl chwaraeon i'r frwydr yn erbyn hiliaeth. Dyma’r anrhydedd ddiweddaraf i’r gŵr 17 stôn 9 pwys, 35 mlwydd oed a oedd yn gapten ar ranbarth rygbi’r Dreigiau y tymor diwethaf ac sy’n meddu ar 94 o gapiau ynghyd â dau gap ar gyfer Llewod Prydain ac Iwerddon.
“Rwyf wrth fy modd bod y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru wedi cefnogi’r sefydliad ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ gyda grant sylweddol,” esboniodd Colin, sef y prif sgoriwr ceisiadau ymhlith holl flaenwyr Cymru.
“Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â'r elusen ers nifer o flynyddoedd, ers fy nghyfnod gyda Newcastle Falcons, ac roedd hi'n anrhydedd i mi gael derbyn cydnabyddiaeth Neuadd yr Enwogion gan y Prif Weinidog Gordon Brown yn Downing Steet ar ddechrau’r haf.”
Fe ychwanegodd: “Mae’n bwysig fy mod yn chwarae rhan wrth godi ymwybyddiaeth o hiliaeth trwy gyfrwng chwaraeon ac addysgu pobl ifanc ar draws Cymru. Mae’r elusen ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ yn elusen sy’n cyflwyno prosiectau gwrth-hiliaeth gwych ar draws y wlad a bydd cyfraniad y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru yn helpu’r elusen i barhau â’r gwaith da y maent yn ei wneud.”
Ynghyd â Colin Charvis mae sêr pêl-droed Cymru hefyd yn cefnogi’r ymgyrch sef Ryan Giggs, Robbie Earnshaw, Danny Gabbidon a Simon Davies.
Dywedodd Ged Grebby, sylfaenydd yr ymgyrch ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ a chydlynydd prosiect y DU wrth ymhyfrydu yn y dyfarniad: “Bydd y grant hwn yn gwneud gwahaniaeth anferth i'n sefydliad yng Nghymru, gan ganiatáu i ni gyrraedd miloedd yn fwy o bobl gyda'n neges gwrth-hiliaeth. Dyma’r grant mwyaf y mae’n sefydliad yng Nghymru erioed wedi’i dderbyn a bydd yn caniatáu i ni adeiladu ar y gwaith da yr ydym eisoes wedi’i wneud yng Nghymru. “
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a’i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau llawer o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am wybodaeth bellach ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.
Os dymunwch chi chwarae rhan yn yr ymgyrch ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ yng Nghymru, anfonwch e-bost at Sunil Patel ar wales@theredcard.org
Gwybodaeth Bellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn Testun: 845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags