- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 14 10 2008
Mae’r Gymdeithas Strôc heddiw yn cymeradwyo dyfarniad grant y Gronfa Loteri Fawr i brosiect mawr yng Nghymru wledig a fydd yn helpu i atal strôc a goresgyn ei effeithiau.
Mae’r Gymdeithas Strôc wedi derbyn £249,649 o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy’n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i sefydlu chwech o grwpiau strôc ar draws Gwynedd, Powys a Cheredigion, gyda dau ym mhob sir. Bydd y grwpiau hyn yn cael eu rhedeg gan y Gymdeithas Strôc mewn partneriaeth agos gydag asiantaethau eraill gan gynnwys colegau lleol, canolfannau hamdden, Age Concern, Canolfan Cyngor ar Bopeth, clybiau rotari a grwpiau chwaraeon. Bydd y ffocws ar ddarparu cefnogaeth i oroeswyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o strôc a hyrwyddo gweithgareddau atal yn y cymunedau hyn.
Strôc yw prif achos anabledd oedolion yn y DU, gyda Chymru â’r nifer uchaf o achosion o strôc nac unrhyw wlad arall yn y DU. Gan hynny, mae brwydro yn erbyn afiechyd trwy addysg a darparu cefnogaeth i oroeswyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr, yn flaenoriaeth. Bydd y grwpiau newydd hyn yn cynnig help llaw i oroeswyr strôc o fewn rhanbarthau sydd wedi dioddef yn hanesyddol o ddiffyg darpariaeth eang oherwydd unigedd o ganlyniad i'w lleoliad gwledig.
Bydd y grwpiau newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mewn nifer o feysydd allweddol wrth oresgyn afiechyd, gyda chodi ymwybyddiaeth, addysg ac atal yn uchel ar yr agenda. Bydd y gweithgareddau atal strôc megis sesiynau byw’n iach yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ac effaith deiet, pwysau gwaed, ymarfer, ysmygu, meddyginiaeth ac iechyd meddwl a bydd yn ceisio helpu pobl i wneud newidiadau positif yn y meysydd hyn i wella eu lles meddyliol a chorfforol cyffredinol.
Maes arall o bryder y bydd y grwpiau hyn yn mynd i'r afael ag ef yw diffyg ymwybyddiaeth o Bwl o Isgemia Dros Dro (TIA) a elwir yn strôc mini. Oherwydd bod yr effeithiau yn diflannu’n llwyr o fewn 24 awr, mae’n bosibl na fydd pobl yn ceisio cyngor meddygol a hyd yn oed os ydynt, mae’n bosibl na fydd meddyg yn adnabod bod rhywun wedi cael TIA oherwydd dim ond trwy sgan y gellir ei gadarnhau.
Gan fod dioddefwyr y strociau mini hyn wrth risg mwy o strôc mwy difrifol yn y dyfodol mae’n hanfodol bod pobl yn cael eu haddysgu ynghylch y symptomau a sut i ostwng eu risg.Yn ychwanegol at atal, bydd y grwpiau yn gweithio gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd i helpu i wella eu hansawdd bywyd, eu hunan-barch a’u hunanhyder.
Gan groesawu newyddion y grant, dywedodd Trish Hughes o'r Gymdeithas Strôc: "Bydd y grant hwn yn galluogi i ni sefydlu chwech o grwpiau newydd a fydd yn cyrraedd nifer gwych o bobl nad ydynt wedi derbyn cefnogaeth o’r math hwn o’r blaen. Mae'n gam mawr ymlaen wrth gefnogi goroeswyr strôc yn yr ardaloedd hyn. O ganlyniad i strôc, mae nifer o aelodau’r teulu yn dod yn ofalwyr dros nos, heb unrhyw brofiad, a dengys ein hymchwil bod pobl yn teimlo bod y cyngor maent yn ei dderbyn wrth adael yr ysbyty yn annigonol neu yn syml nid ydynt yn ei ddeall oherwydd ei fod yn gyfnod mor bryderus. Gan hynny mae’r gefnogaeth barhaus y bydd y grwpiau yn gallu ei darparu yn hanfodol. Oherwydd natur wledig y grwpiau bydd y grant yn galluogi i ni ddarparu trafnidiaeth i bobl er mwyn uchafu ar hygyrchedd i bawb."
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.
Ffurfiwyd y Gymdeithas Strôc ym 1976 (fel y Gymdeithas Brest, Calon a Strôc, a newidiodd ei henw’n swyddogol ym mis Ionawr 1992) sy'n anelu at oresgyn strôc mewn pob o bob oed. Mae gwybodaeth bellach ar waith y sefydliad ar gael yn www.stroke.org.uk
Gwybodaeth Bellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags