Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Achub Bywydau - Llwyddiant i Brosiect Atal Hunanladdiad Ariennir gan Y Gronfa

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
20 2 2012

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw yn amlygu sut y mae prosiect a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr yn cyfrannu at ostyngiad yn y nifer o achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru.

Wedi ei ariannu drwy raglen ‘Iechyd Meddwl’ £15 miliwn y Gronfa Loteri Fawr, mae ymgyrch Dewisiadau Cadarnhaol Mind Cymru yn brosiect pum mlynedd sy’n anelu at leihau’r nifer o achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru. Diolch i ddyfarniad o £1,020,000 gan y Gronfa Loteri Fawr, mae’r prosiect wedi medru cynnal ei Hyfforddiant Sgiliau Ymyrraeth Hunanladdiad Cynhwysol (ASIST) ers 2009, sy’n hyfforddi staff rheng flaen mewn technegau ymyrraeth gynnar a anelir at atal meddwl am hunanladdiad rhag mynd yn ymddygiad hunanddinistriol.  

Wedi ei lansio heddiw (Dydd Llun, 20 Chwefror) yn ystod gweithdy iechyd meddwl arbennig yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae’r adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu effaith ac effeithiolrwydd hyfforddiant ASIST wrth helpu pobl i ddod yn fwy parod, bodlon a medrus o ran cynorthwyo rhywun sy’n meddwl am ladd ei hun. Amcangyfrifir bod 3.4% o’r boblogaeth yn cael syniadau o hunanladdiad mewn unrhyw flwyddyn. I lawer yng Nghymru sy’n gweithio ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol neu’r sector gwirfoddol, mae’r rhaglen ASIST yn darparu’r unig hyfforddiant atal hunanladdiad sy’n bodoli.

Mae’r adroddiad newydd yn dangos bod yr hyfforddiant ASIST yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd pobl yn dod o hyd i’r cymorth y mae ei angen arnynt. Rhwng mis Chwefror 2009 a Gorffennaf 2011, cynhaliwyd dros 100 o gyrsiau ASIST, gan hyfforddi cyfanswm o fwy na 2,200 o bobl. Gan amlygu’r angen am y prosiect, adroddodd bron i 70% o’r rhai hynny a fynychodd y gweithdai nad oeddent wedi derbyn unrhyw hyfforddiant atal hunanladdiad.

Wedi cwblhau’r cwrs ASIST:

•  Teimlodd 97%o’r bobl yn fwy parod i helpu person sydd mewn peryg o hunanladdiad.

•  Roedd 73%o’r bobl eisoes wedi defnyddio’r hyfforddiant i helpu rhywun.

•  Roedd 8% wedi defnyddio’r ymyrraeth mwy nag 20 o weithiau wedi’r hyfforddiant.

• Dywedodd 96% ei fod yn fwy tebygol y byddent yn gofyn i rywun yn uniongyrchol os oeddynt yn meddwl am hunanladdiad.

• Adroddodd cyfranogwyr fod yr ofn a’r tabw sy’n gysylltiedig gyda’r gair ‘hunanladdiad’ bellach wedi diflannu.

Mae Siân Howells, Uwch Gwnsler yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, yn un person sy’n gallu ardystio i lwyddiant yr hyfforddiant: “Mae’r hyfforddiant ASIST wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy arfer fel Cwnsler  ac o safbwynt darparu’r gwasanaeth cwnsela”, esboniodd Siân.

“Cryfder y model ASIST yw y gall gael ei ymgorffori i fframwaith therapiwtig. Rwy’n canfod fy mod yn medru diosg fy het Cwnsela a chymhwyso Cymorth Cyntaf Hunan-laddiad yn yr un modd ag y mae cymorth cyntaf yn cael ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd argyfyngus eraill. O ganlyniad i wneud yr hyfforddiant, rwy’n teimlo yn llawer mwy hyderus wrth weithio gyda phobl ifanc sy’n cael syniadau am hunanladdiad ac rwy’n teimlo yn fwy tawel fy meddwl fy mod yn gweithio gyda model sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd yn glir ac yn strwythuredig.”

Ychwanegodd hi: “Mae’r hyfforddiant ASIST wedi dylanwadu ar y ffordd y mae’r gwasanaeth yn sgrinio myfyrwyr sydd o bosib yn meddwl am hunanladdiad. Mae ein ffurflenni atgyfeirio wedi eu haddasu i gynnwys cwestiwn uniongyrchol sy’n ymwneud â hunanladdiad. Drwy hyn, rydym yn gobeithio y bydd modd i ni adnabod myfyrwyr sydd mewn peryg yn gynnar. Mae’r hyfforddiant ASIST yn sicr wedi fy ngalluogi i edrych ar ffyrdd o atgyfnerthu ac adeiladu ar ein gweithdrefnau diogelu presennol yn y Coleg.”

Ac yntau wrth ei fodd ag effaith yr hyfforddiant ASIST, dywedodd Alan Briscoe, Rheolwr Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol Mind Cymru: “Mae nifer o bobl  yn pryderu am godi’r mater o hunan-laddiad gydag unrhyw un y maent yn credu sydd mewn peryg o gymryd y cam hwnnw. Mae adroddiad heddiw yn profi bod hyfforddiant ASIST yn rhoi hyder a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar y bobl hynny sy’n wynebu’r sefyllfaoedd yma. Rydym yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i hyfforddi fel y gallwn gyflwyno’r sgiliau yma i’n cymunedau a’n gweithleoedd.”

Ychwanegodd ef: “Mae hunanladdiad yn fater i bawb gan fod cynifer o bobl wedi eu heffeithio mewn un ffordd neu’r llall.”

Gan amlygu pwysigrwydd arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau tebyg i hwn, dywedodd Barbara Wilding, Aelod Pwyllgor Cymru y Gronfa Loteri Fawr a Chadeirydd y Pwyllgor ‘Iechyd Meddwl’: “Fel y mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn awgrymu, mae’r prosiect hwn yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl sydd mewn peryg o hunanladdiad neu hunan-niweidio yng Nghymru. Mae ein hariannu’n gwneud cyfraniad strategol pwysig i ddatblygu gwasanaethau ar draws Cymru drwy helpu pobl gydag ystod o broblemau a chefnogi prosiectau fel yr un yma i geisio goresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu.”

I ddarllen yr adroddiad yn llawn, ewch i http://bit.ly/wxVZX7 neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Alan Briscoe ar a.briscoe@mind.org.uk neu ffoniwch: (01654) 703487. Gallwch chi hefyd ymweld â gwefan Dewisiadau Cadarnhaol www.positivechoices-wales.org

Nid yw cymorth y Gronfa Loteri Fawr wrth fynd i’r afael â materion iechyd meddwl yng Nghymru yn gorffen yno. Ar ddydd Mawrth, 21 Chwefror, mae’r ymgyrch Amser i Newid Cymru yn cael ei lansio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Dyma’r ymgyrch gyntaf a’r unig ymgyrch genedlaethol i roi diwedd ar y stigma a’r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu ar draws Cymru.

Bydd gan Amser i Newid Cymru, sydd wedi ei ariannu am dair blynedd gan y Gronfa Loteri Fawr, Comic Relief a Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gyflwyno gan y tair prif elusen iechyd meddwl, Gofal, Hafal a Mind Cymru, dair prif elfen: ymgyrch farchnata proffil uchel i godi ymwybyddiaeth a herio agweddau; hyfforddiant o fewn gweithleoedd ar draws Cymru a fydd yn cael ei ddarparu gan bobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl; a rhaglen o weithgareddau cymunedol a fydd yn cael ei harwain gan grwpiau ac unigolion sydd â phrofiad o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl.

Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y medrwch chi ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk neu ffoniwch 0300 123 0735.

Cefndir: Mae cyfleoedd am gyfweliadau, ffilmio a thynnu lluniau gyda chynrychiolwyr y Gronfa Loteri Fawr, cynrychiolwyr prosiect ac eraill sy’n cymryd rhan, ar gael ar gais trwy ffonio Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.

Gwybodaeth Bellach

Oswyn Hughes - Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau:07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus:08454 102030 Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu tua £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
ADBORTH