- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 17 1 2008
Bydd mamau ifanc yn dysgu sgiliau newydd, a chyfleoedd newydd yn codi i bobl ddigartref yng Nghaerdydd a Chasnewydd, diolch i hwb ariannol o bron £7 miliwn, a gyhoeddwyd heddiw drwy raglen Cam Wrth Gam y Gronfa Loteri Fawr.
Bydd pedwar prosiect cymunedol yn ne ddwyrain Cymru yn elwa o’r £6,964,487 sy’n cael ei rannu, a fydd yn cefnogi prosiectau sy’n cynorthwyo pobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol wrth ddysgu sgiliau bywyd a fydd yn eu galluogi i reoli eu bywydau, cyfrannu tuag at eu cymunedau, ail-gysylltu gydag addysg, gwirfoddoli a chyflogaeth.
Ymhlith y prosiectau sy’n elwa heddiw mae grantiau i gefnogi mamau beichiog ifanc a phobl ag anableddau sy’n dysgu byw yn fwy annibynnol, yn ogystal â chyfleoedd newydd ar gyfer y digartref a phobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Gan danlinellu pwysigrwydd y rhaglen i Gymru, meddai Cadeirydd Pwyllgor Cymru y Gronfa Loteri Fawr, Huw Vaughan Thomas: “Ychydig iawn o arian sydd ar gael ar gyfer gwaith sgiliau bywyd anffurfiol ond mae Cam Wrth Gam yn bwriadu llenwi’r bwlch hwnnw. Bydd y prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr mewn cymunedau drwy alluogi pobl i weithredu’n annibynnol, cyfathrebu a chymysgu gydag eraill a’u cynorthwyo i fabwysiadu ymddygiad iach. Yn eu tro, bydd y sgiliau hyn yn eu cynorthwyo i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol ac yn ehangu eu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth.”
Bydd dyfarniad o bron i filiwn o bunnoedd (£998,354) yn galluogi mudiad Mencap i gychwyn prosiect ‘Mynd Amdani'. Dyma brosiect newydd sydd â’r bwriad o ddarparu cefnogaeth ddwys i bobl ifanc rhwng 19-25 oed sydd ag anableddau dysgu yn ne ddwyrain a de orllewin Cymru. Er mai’r bwriad yw galluogi’r buddiolwyr i gael eu cyflogi, mae’n cydnabod mai rhai o’r rhwystrau mwyaf i’r grŵp targed yw diffyg sgiliau bywyd - megis sgiliau rhyngbersonol, rheoli amser, dealltwriaeth o sut i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a diffyg hyder.
Ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd, bydd menywod beichiog ifanc 16-19 oed a mamau ifanc 16-21 oed, sy’n byw mewn llety cysgodol neu wedi’u hail-gartrefu o lety mewn hostel, yn dysgu sgiliau newydd ac yn codi eu hyder, diolch i ddyfarniad o £856,696 i’r Gweithdy Menywod, Canolfan Hyfforddi Caerdydd Cyf. Bydd prosiect ‘Newlife’ yn darparu rhaglenni cefnogaeth ddwys dros bum mlynedd i fuddiolwyr, gan dargedu unigrwydd, eithriad ac amddifadedd. Bydd y prosiect yn darparu addysg sgiliau bywyd ymarferol, a fydd yn galluogi buddiolwyr i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli neu leoliadau gwaith er mwyn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd.
Gyda’u dyfarniad o £998,841, dros bum mlynedd, bydd The Scarman Trust yn ceisio hyrwyddo cydlyniad rhwng diwylliannau yng Nghaerdydd a Chasnewydd, drwy weithio gyda 22 o fudiadau cymunedol lleol. Mae 'Switched On' yn brosiect newydd a fydd yn cyflawni ystod o raglenni datblygu personol a hyfforddiant sgiliau sylfaenol drwy raglenni addysg anffurfiol, cyrsiau a sesiynau cefnogi unigol neu grŵp. Y buddiolwyr sy’n cael eu targedu yw cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, pobl ddigartref, teithwyr neu newydd ddyfodiaid. Bydd y cyrsiau yn cael eu darparu yn nhair ward difreintiedig canol dinas Caerdydd (Butetown, Adamstown, Grangetown, Glan yr Afon) a dwy ward yng Nghasnewydd (Pill, Victoria).
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac yn cynnwys chwe ardal awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru, bydd y Royal National Institute for Deaf People yn gwario £303,180 ar y prosiect ‘Young Adult Transitions’. Dyma brosiect peilot wedi’i dargedu at oedolion ifanc byddar a thrwm eu clyw, rhwng 16 a 30 oed. Bydd yn darparu gwasanaeth sgiliau bywyd yn ne ddwyrain Cymru (Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Thorfaen). Bydd y prosiect yn ddwys iawn, gan amlaf ar sail unigol, ar gyfer y rhai mwyaf anghenus, yn arbennig y rhai gydag anghenion ychwanegol cymhleth megis problemau iechyd meddwl, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol ac anabledd corfforol. Bydd y prosiect yn cynorthwyo unigolion i ddatblygu eu hunanhyder ac annibyniaeth, a datblygu sgiliau bywyd i gael mynediad at gyflogaeth neu wirfoddoli.
Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp ymgeisio am arian, ewch at wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk
Am fwy o wybodaeth am y prosiectau, a manylion cyswllt ar gyfer y grwpiau a’r sefydliadau perthnasol, cysylltwch â swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.
Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £1 miliwn yr wythnos o arian achosion da'r Loteri, sydd yn golygu, o’i gyfuno gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect wedi’i ariannu gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DU ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £20 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 250,000 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags