Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Saith miliwn ‘Cam wrth Gam’ ymlaen i Gymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
17 1 2008
Bydd naw prosiect cymunedol sy’n ysgogi pobl ledled Cymru yn derbyn hwb ariannol o bron £7 miliwn oddi wrth rhaglen Cam Wrth Gam Cronfa Loteri Fawr, mewn cyhoeddiad heddiw.

Bydd y £6,964,487 o arian sy’n cael ei rannu yn cefnogi prosiectau sy’n cynorthwyo pobl sydd yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth ddysgu sgiliau bywyd a fydd yn eu galluogi i reoli eu bywydau, cyfrannu tuag at eu cymunedau, ac ail-gysylltu ag addysg, gwirfoddoli a chyflogaeth.

Mae’r prosiectau sy’n elwa heddiw yn cynnwys grantiau i gefnogi pobl sy’n ddi-waith neu heb eu cyflogi erioed, pobl ag anableddau sy’n dysgu byw yn fwy annibynnol, ac yn cynnig cyfleoedd newydd i gyn-droseddwyr benywaidd ail-integreiddio gyda’r gymuned.

Gan danlinellu pwysigrwydd y rhaglen i Gymru, meddai Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Loteri Fawr, Huw Vaughan Thomas: “Ychydig iawn o arian sydd ar gael ar gyfer gwaith sgiliau bywyd anffurfiol ond mae Cam Wrth Gam yn bwriadu llenwi’r bwlch hwnnw. Bydd y prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr mewn cymunedau drwy alluogi pobl i weithredu’n annibynnol, cyfathrebu a chymysgu gydag eraill a’u cynorthwyo i fabwysiadu ymddygiad iach. Yn eu tro, bydd y sgiliau hyn yn eu cynorthwyo i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol ac yn ehangu eu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth.”

Mewn prosiect ledled Cymru gyfan, bydd y mudiad Construction Youth Trust yn llythrennol yn adeiladu ar gyfer y dyfodol ac yn gwario’u dyfarniad o £355,591 ar brosiect newydd sy’n ceisio manteisio ar yr ystod enfawr o swyddogaethau sydd ar gael o fewn y diwydiant adeiladu. Bydd y prosiect yn sicrhau bod y cyfle gorau posib gan y cyfranogwyr i sicrhau cyflogaeth addas i’w sgiliau a’u dyheadau.

Dros 39 mis, bydd prosiect ‘Construction for Communities’ yn cyflogi Cydlynydd Prosiect a dau Gyfarwyddwr a fydd yn cymryd unedau symudol wedi’u haddasu’n arbennig i mewn i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru, er mwyn cynnal gweithdai ar bynciau amrywiol megis ysgrifennu CV a thechnegau cyfweliad, a hefyd bydd sesiynau byrion am amrywiol swyddi adeiladu megis saernïaeth, gwneud a gosod briciau a chynnal a chadw cyffredinol.

Bydd y prosiect yn targedu unigolion economaidd segur ac isel eu sgiliau, pobl ifanc anniddig nad ydynt yn derbyn hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd, troseddwyr ifanc, y di-waith tymor hir, rhieni sengl, y digartref a’r rhai sydd mewn cartrefi bregus. Bydd y prosiect yn gweithio i ddechrau yng Nghastell Nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, yn canolbwyntio ar ardaloedd Sandfields a Phenrhys gyda’r bwriad o ymestyn y prosiect yn ddiweddarach i ardaloedd eraill Cymunedau yn Gyntaf.

Bydd cyn-droseddwyr benywaidd ledled Cymru yn derbyn cefnogaeth i ddelio gyda’r newidiadau sylweddol a’r sialensiau tymor hir sy’n eu hwynebu wrth gael eu rhyddhau o’r carchar, diolch i’r £871,707 a ddyfarnwyd i grŵp Gibran Cyf. Bydd y prosiect ‘Going Home’ yn cynorthwyo i godi eu hyder, gwella eu hunan barch, datblygu eu sgiliau cyfathrebu, a’u cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau bywyd a fydd yn eu galluogi i gyfranogi’n llawn mewn bywyd cymunedol a gwella eu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Bydd y prosiect blaengar yn defnyddio cymheiriaid, sy’n gyn-droseddwyr eu hunain, i fentora a chynorthwyo menywod eraill i ennill y sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt i gyfnewid eu bywydau dibynnol ac anhrefnus am gyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi a chyflogaeth.

Yn olaf, bydd grant o £601,724 yn galluogi Deafblind UK i gychwyn prosiect hunangymorth The Welsh Connection. Dros dair blynedd bydd yn sefydlu 12 grŵp hunangymorth ledled Cymru, wyth yn y de a phedwar yn y gogledd, gyda tharged o 20 aelod (a 10 gwirfoddolwr) ym mhob un. Bydd y grwpiau yn cyfarfod yn fisol, a bydd Cydlynwyr y Grwpiau yn mentora buddiolwyr drwy ddarparu ystod o hyfforddiant, gan gynnwys sgiliau trefnu, byw yn annibynnol, ymarferion ysgafn/ar eistedd, a sesiwn cyfathrebu penodol addas at anghenion unigol y buddiolwyr.

Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp ymgeisio am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk

Am fwy o wybodaeth am y prosiectau, a manylion cyswllt ar gyfer y grwpiau a’r sefydliadau perthnasol, cysylltwch â swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.

Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Llinell destun:  0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £1 miliwn yr wythnos o arian achosion da'r Loteri, sydd yn golygu, o’i gyfuno gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect wedi’i ariannu gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DU ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £20 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 250,000 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH