- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 14 5 2012
Bydd prosiect blaengar sy'n dod â babanod i mewn i ysgolion fel 'athrawon bychain' i helpu plant i ddysgu sut i uniaethu a lleihau ymddygiad ymosodol yn cael ei gyflwyno i Gymru am y tro cyntaf trwy fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan y Gronfa Loteri Fawr sydd wedi'i gyflwyno heddiw.
Mae'r prosiect Roots of Empathy yn un o bedair ymyrraeth sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru y maent wedi'u profi i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc a helpu i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Maent yn rhan o gyfres o 25 o brosiectau sydd wedi profi eu gwerth sy'n cael eu cyflwyno ar draws y DU trwy rhaglen Gwireddu Uchelgais y Gronfa Loteri Fawr, sydd â'r nod o efelychu neu gynyddu graddfa ymagweddau y mae ganddynt brofiad cryf o wella bywydau pobl ifanc ddifreintiedig ac ar ymylon cymdeithas.
Bydd y pedwar prosiect sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru'n gwella cyfleoedd tua 24,000 o bobl ifanc rhwng 8 a 14 oed ac yn helpu i leihau troseddu tro cyntaf.
Dros dair blynedd bydd tua 2,000 o bobl ifanc mewn ysgolion ar draws Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg yn elwa o'r prosiect Roots of Empathy diolch i grant o fwy na £990,000 a ddyfarnwyd i'r mudiad Gweithredu dros Blant. Mae Roots of Empathy, a ddechreuodd yng Nghanada ym 1996, yn rhaglen seiliedig ar dystiolaeth sy'n lleihau ymddygiad ymosodol plant yn sylweddol ac yn cynyddu eu hymddygiad cadarnhaol. Mae'n cynnwys rhaglen unigryw o ddod â gwirfoddolwyr ar ffurf mam a'i baban i mewn i ddosbarth. Trwy arsylwi ar ddatblygiad y plentyn, mae plant yn dysgu i ddeall anghenion ac emosiynau'r baban ac yn myfyrio ar eu teimladau eu hunain a theimladau pobl eraill.
Dengys ymchwil yng Nghanada fod Roots of Empathy wedi lleihau ymosodedd cymdeithasol mewn hyd at 39% o fyfyrwyr yn yr arolwg, a dangoswyd cynnydd o 78% mewn ymddygiad dymunol.
Meddai Brigitte Gater, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Plant gyda Gweithredu dros Blant yng Nghymru: “Mae Roots of Empathy yn dysgu plant ysgol i ddeall eu teimladau eu hunain a theimladau pobl eraill trwy ddefnyddio babanod fel 'athrawon bychain’. Mae hyn yn cynyddu lefelau uniaethu ymysg cymheiriaid, gan arwain at berthnasoedd gyda mwy o barch a gostyngiad sylweddol mewn lefelau ymosodedd ymysg plant ysgol."
"Rydym yn falch o gyflwyno Roots of Empathy yng Nghymru, a hoffem ddiolch i'r Gronfa Loteri Fawr am ei chefnogaeth. Mae gan Gweithredu dros Blant brofiad cryf o ddatblygu ymagweddau arloesol sy'n helpu i wella canlyniadau ar gyfer plant, teuluoedd a phobl ifanc fregus yn sylweddol. Rydym ni yn Gweithredu dros Blant yn ymrwymedig i hyrwyddo buddion ymyrraeth gynnar, ac mae Roots of Empathy yn enghraifft ardderchog o hyn. Trwy gynyddu lefelau 'sgiliau emosiynol' ymysg plant ar oedran cynnar, gallwn osod sylfaen ar gyfer ystafelloedd dosbarth diogel a gofalgar ac, yn yr hir dymor, cymdeithasau diogel a gofalgar."
Bydd Barnardos yn defnyddio ariannu gan y rhaglen Gwireddu Uchelgais i gyflwyno dau brosiect ar wahân yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU. Bydd un o'r prosiectau, y rhaglen Hyfforddiant LifeSkills (Botvin), yn cyflwyno rhaglen atal camddefnyddio sylweddau ac ymddygiad treisgar, sydd wedi profi'n llwyddiannus yn UDA. Am y tro cyntaf, bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, diolch i ariannu gwerth £1.5m gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae bron i 240 o bobl ifanc ar fin elwa o'r prosiect yng Nghymru.
Mae'r rhaglen Hyfforddiant LifeSkills (Botvin) wedi cael ei defnyddio i raddau helaeth yn UDA, ac fe'i hargymhellwyd gan Graham Allen AS yn ei adolygiad blynyddol o ymyrraeth gynnar yn 2011. Fel rhan o'r rhaglen, mae athrawon yn cael eu hyfforddi i gyflwyno sesiynau dwys i bobl ifanc mewn ysgolion er mwyn rhoi'r hyder a'r sgiliau iddynt ddelio'n llwyddiannus â sefyllfaoedd heriol a dysgu dewisiadau sy'n wahanol i ymddygiad 'peryglus'.
Gyda chefnogaeth gan fwy na 30 o astudiaethau gwyddonol, dangoswyd yn UDA bod LifeSkills wedi arwain at ostyngiad o gymaint ag 87% yn y defnydd anghyfreithlon o dybaco, alcohol a chyffuriau a chymaint â 50% o ostyngiad mewn ymosodedd corfforol. Ar gyfer pob £1 sy'n cael ei wario ar y rhaglen, rhagamcanir mai £12.78 yw'r arbedion i gymdeithas.
Bydd grant ychwanegol o dros £1.5 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr hefyd yn galluogi Barnardos i gyflwyno'r prosiect Fast Track/ PATHS Plus, prosiect arall sy'n deillio o UDA a fydd, eto, yn cael ei gyflwyno yng Nghymru a'r DU am y tro cyntaf. Mae rhwng 5,000 a 6,000 o blant ysgol yng Nghymru ar fin elwa o'r prosiect. Bydd rhaglenni PATHS a Grwpiau Cyfeillgarwch llawn yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion cynradd i ymdrin â dysgu cymdeithasol ac emosiynol, gwydnwch a datblygu sgiliau ymysg plant ar sail gyffredinol ac wedi'i thargedu.
Meddai Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr Barnardos Cymru: “Mae Barnardos Cymru yn gyffrous am y syniad o gyflwyno Hyfforddiant LifeSkills (Botvin) a Fast Track/PATHS Plus i blant a phobl ifanc mewn ysgolion a chymunedau yng Nghymru gyda chefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr. gwyddwn fod y rhaglenni hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant ac yn gwella’u cyfleoedd bywyd, a hynny yw nod cyffredinol Barnardos.
“Mae Gan Barnardos brofiad blaenorol o addasu modelau o UDA at ddefnydd yn y DU a bydd y cyfle hwn yn cefnogi’r rhai sydd ag anhwylderau a phroblemau ymddygiad mewn ysgolion. Bydd y gwaith yn cynnig ymyrraeth gadarnhaol ac ysbrydoliaethus a fydd golygu y bydd plant yn aros yn y brif ffrwd, a bydd hefyd yn gwella’r cysylltiad rhyngddynt a’u hathrawon a’u cymheiriaid.”
A chyda'u grant o hanner miliwn o bunnoedd, bydd The Cooperative Primary School yn cyflwyno'r prosiect Success for All, gyda bron 16,500 o blant ar fin elwa yng Nghymru. Mae Success for All yn rhoi darllen wrth wraidd y cwricwlwm ac yn gweithio gydag ysgolion, rhieni a'r gymuned ehangach i wneud popeth y mae ei angen i sicrhau bod plant yn llwyddo yn yr ysgol.
Gan amlinellu pwysigrwydd y prosiect, meddai Marilyn Jones-Hill, Cyfarwyddwr Hyfforddiant Success for All-UK: “Bwriedir y bydd Success for All yn gweithio yn y lle cyntaf gyda hyd at bum mudiad addysgol a adnabuwyd ac sy'n ymrwymedig i roi'r cyfryw strategaeth bwerus ac, o bosib, drawsnewidiol ar waith a'i rhannu yng Nghymru dros gyfnod o dair blynedd.”
“Mae Success for All yn strategaeth gwella ysgolion cyfan bwerus a deinamig sy'n arbennig o effeithiol mewn ysgolion y maent yn gwasanaethu canran fawr o ddisgyblion difreintiedig neu sy'n tangyflawni.”
Ymunodd y Gronfa Loteri Fawr â'r arbenigwyr ar bobl ifanc, Catch 22, i gyflwyno'r rhaglen Gwireddu Uchelgais, a weithiodd i adnabod a chydgrynhoi'r 25 o brosiectau trwy weithio gyda chonsortiwm arbenigol o fudiadau cymdeithasol ac ieuenctid, gan gynnwys Young Foundation, Dartington Social Research Unit, Substance a Rathbone.
Maent oll yn anelu at helpu pobl ifanc i osgoi llwybrau cyffredin i droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys meithrin sgiliau academaidd, atal camddefnyddio sylweddau, dysgu dewisiadau sy'n wahanol i wrthdaro ac ymddygiad ymosodol a threisgar, a herio rhagfarn.
Byddant yn cael eu profi a'u gwerthuso'n drwyadl yn ystod eu cyfnod gweithredu er mwyn iddynt ddarparu mewnwelediad cadarn i sut y gall cymdeithas weithio'n fwy effeithiol i helpu pobl ifanc ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu ieuenctid yn y dyfodol.
Gan amlygu pwysigrwydd y rhaglen, meddai John Rose, Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Yn rhy aml, mae pobl ifanc sy'n tyfu i fyny mewn amgylchiadau heriol yn cael eu tynnu i mewn i ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol bron yn ddiofyn; nid ydyn nhw'n gwybod sut i wneud pethau'n wahanol ac nid ydynt wedi derbyn y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i wneud dewisiadau gwahanol.
“Bydd y prosiectau rydym yn eu cyhoeddi ein cefnogaeth ar eu cyfer heddiw yn helpu miloedd o bobl ifanc ym mhob cwr o Gymru i gynyddu eu dyheadau a'u cyfleoedd bywyd a goresgyn ymddygiad trafferthus a allai arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgareddau troseddol.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/biglotterywales
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100k y diwrnod mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags