Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cyfrifon cwsg i ddeffro cymunedau Cymru

Area:
Cymru
Release date:
8 8 2008
Bydd buddsoddiad sylweddol o arian ar gael i’w ddosbarthu i helpu pobl ifanc ac i frwydro effaith newid hinsawdd yng Nghymru, diolch i bot ariannu newydd â gyhoeddir heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Bydd deddfwriaeth sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Lywodraeth Prydain yn caniatau i gyfrifon cwsg, arian sydd wedi gorwedd yn segur mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu ers o leiaf 15 mlynedd, i gael ei fuddsoddi mewn cymunedau ar draws Prydain. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn awr wedi adnabod dau faes buddsoddiad ar gyfer yr arian, sef:

  • Cefnogi pobl ifanc i gyflenwi eu llawn botensial gan weithio drwy’r trydydd sector i hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol
  • Taclo newid hinsawdd a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ehangach drwy weithgaredd penodol yn y gymuned.   

Ar Ddydd Gwener, Awst 8, bydd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Alun Ffred Jones, yn siarad ar Stondin Arian y Loteri yng Nghymru i lansio ymgynghoriad cyhoeddus i sicrhau fod yr arian yn cael ei fuddsoddi yn addas ac i’r meysydd lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf.   Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn cyflwyno’r ymgynghoriad yng Nghymru ac mae wedi ei adnabod fel y sefydliad mwyaf addas i ddosbarthu’r arian yma ledled y DU.   

Yn ôl Alun Ffred Jones, mae pot ariannu y Cyfrifon Cwsg yn cyflwyno cyfle euraidd i Gymru i wneud gwahaniaeth i gymunedau a’r amgylchedd: “Bydd y gronfa yma yn ein galluogi ni i fuddsoddi swm sylweddol o arian mewn meysydd sydd wedi ei blaenoriaethu, yn seiliedig ar dystiolaeth bwysig ac ymrwymiadau yr ydym wedi eu gwneud fel rhan o faniffesto Cymru’n Un,” eglurodd.

“Bydd y Gronfa yn awr yn siarad ag ac yn casglu gwybodaeth gan fudd-ddeiliaid allweddol i’n helpu i benderfynu’r ffordd orau o gyflwyno’r cynllun yma.   Anogaf bawb sydd â diddordeb yn y meysydd gwaith yma i ymateb dros y misoedd nesaf. “

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg am 14 wythnos tan 14 Tachwedd 2008 a bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a’u dadansoddi gan y Gronfa Loteri Fawr cyn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru erbyn Gwanwyn 2009. Bydd cyhoeddiad am weithrediad y Gronfa yn cael ei wneud yn haf 2009.  

Yn sicr mae’r rhain yn gyfnodau cyffrous i’r Gronfa Loteri Fawr, fel yr eglura Cyfarwyddwr y Gronfa yng Nghymru, Ceri Doyle: “Hwn fydd ein cyfle cyntaf yng Nghymru i fod yn gysylltiedig â gwaith nad sy’n gysylltiedig â’r loteri yn dilyn deddfwriaeth sy’n ein galluogi ni i ddefnyddio ein gwybodaeth ac arbenigedd o ddyfarnu grantiau i gyflwyno arian o amrywiol ffynonellau.    Ein nod yw sicrhau y bydd yr arian yma yn cael effaith hir dymor arwyddocaol a’i fod yn gwneud gwahaniaeth MAWR i’r amgylchedd a bywydau pobl ledled Cymru. “

Am wybodaeth bellach am yr ymgynghoriad ac i lawr lwytho copïau o’r dogfennau ymgynghori, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr ar www.cronfaloterifawr.org.uk

Gwybodaeth pellach

Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr  – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa  : 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus  : 08454 102 030
Ffon testun:  0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan:  www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Yr Amgylchedd
  • Pobl Ifanc
ADBORTH