Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Ariannu 'SOS' I Fentrau Gwledig yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
2 4 2012

Mae cymunedau gwledig yng Nghymru yn cael cynnig grantiau o hyd at £50,000 i sefydlu mentrau busnes cymunedol a fydd yn dod â bywyd newydd i'w hardaloedd. Daw'r newydd wrth i saith o gymunedau ar draws Cymru dderbyn arian heddiw.

Daw'r arian o gynllun Pentref SOS y Gronfa Loteri Fawr, sy'n anelu at ysbrydoli adfywiad gwledig ar draws y DU a chefnogi cymunedau gwledig a allai fod yn profi anawsterau gyda materion megis unigedd, poblogaethau sy'n heneiddio, a chyfleusterau lleol yn cau.

Mae'r grantiau rhwng £10,000 a £50,000 ar gael i helpu cymunedau gwledig gyda phoblogaeth o lai na 3,000 o bobl i ddatblygu cynlluniau ar gyfer prosiectau mentrus a fydd yn ateb angen yn lleol neu'n gwella gwasanaethau ar gyfer pobl leol. Gallai prosiectau fod yn unrhyw beth o siopau a thafarndai sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned i gynlluniau ynni neu drafnidiaeth, prosiectau crefftau neu fwyd.

Gall pobl gofrestru yn www.villagesos.org.uk ac yno y mae rhagor o wybodaeth a chyngor am fentrau cymunedol, gan gynnwys rhwydwaith cymorth ar-lein. Bydd ffurflenni ymgeisio ar gyfer yr ariannu hefyd ar gael o 10 Ebrill.

Daw'r newyddion am yr ariannu wrth i'r Gronfa Loteri Fawr gyhoeddi gwerth tua £200,000 (£198,220) o grantiau i saith prosiect menter gymunedol yng Nghymru, gan gynnwys Deudraeth CYF yng Ngwynedd, Gogledd Cymru a Mawr Development Trust yn Abertawe, De Cymru. Mae'r prosiectau yn cael cynnig grantiau trwy gylch cyntaf cystadleuaeth ariannu Pentref SOS, a lansiwyd y llynedd (rhestr lawn o brosiectau ar ddiwedd y datganiad).

Mae Deudraeth CYF yng Ngogledd Cymru wedi cael cynnig £29,391 ar gyfer eu cynlluniau i ddefnyddio'r ariannu i sefydlu gardd gymunedol ym mhentref Penrhyndeudraeth, Gwynedd. Bydd y prosiect yn defnyddio gwirfoddolwyr lleol gyda'r nod o ddod yn hunan gynaliadwy trwy dyfu cynnyrch lleol, cynaeafu ac yna gwerthu a dosbarthu'r cynnyrch fel menter gymunedol. Bydd y fenter yn gwneud ei hun yn ddichonadwy trwy gynhyrchu nwyddau a'u gwerthu.

Ymhlith y prosiectau eraill yng Nghymru sydd wedi cael cynnig ariannu heddiw y mae Mawr Development Trust yn Abertawe, Raven Mad Ltd yn Sir Ddinbych a Trap Community Association yn Sir Gâr.  

Gyda'u dyfarniad o £30,000, bydd y Mawr Development Trust ym mhentref Felindre, Abertawe, yn defnyddio'r ariannu i recriwtio Cydlynydd Digwyddiadau llawn amser i hyrwyddo a rhedeg gweithgareddau cymunedol yng Nghanolfan Mawr, tra bydd Raven Mad Ltd ym mhentref Llanarmon-yn-lâl, Sir Ddinbych, yn defnyddio'r ariannu i sefydlu llety hunanarlwyo yn y dafarn gyfredol sy'n cael ei rhedeg gan y gymuned. Ac yn y pentref Trap yn Nyffryn Cennen, Sir Gâr, bydd Cymdeithas Gymunedol Trap yn gwario £24,844 ar greu caffi cymunedol, siop a chaffi rhyngrwyd, ynghyd ag amryw welliannau adnewyddu eraill i'w neuadd bentref sydd wedi'i chaffael o'r newydd.

Meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru,  John Rose:  "Mae'n bleser gennym gyhoeddi ariannu ar gyfer rhai prosiectau gwirioneddol arloesol heddiw, sy'n brawf o'r cryfder a'r creadigedd sy'n bodoli yng nghymunedau gwledig Cymru. Byddwn yn annog pobl i archwilio'r cyfle unigryw hwn i sicrhau ariannu a chefnogaeth i sefydlu menter gymunedol, a fydd yn adfywio eu hardal leol ac yn helpu i weithio yn erbyn y duedd dirywiad gwledig."

Mae'r Sioe Deithiol Pentref SOS hefyd yn ôl yn cynnig gwybodaeth, ysbrydoliaeth a chyngor i gymunedau gwledig ar draws Cymru AM DDIM. Bydd y Sioe Deithiol yn helpu pobl yn ardaloedd gwledig i sefydlu mentrau cymunedol er mwyn gweddnewid eu pentref. Ynghyd â chael cyfle i wrando ar areithiau ysbrydoledig, bydd y digwyddiadau yn rhoi cyfle i gymunedau bleidleisio ar faterion allweddol, siarad ag arbenigwyr y sector, rhannu ag ymarferwyr lleol a thrafod syniadau mewn cymorthfeydd un-i-un gydag ystod o arddangoswyr.

Cynhelir y digwyddiad nesaf yng Nghymru yn Neuadd y Frenhines yn Arberth, Sir Benfro Ddydd Mawrth, 1 Mai. Am wybodaeth bellach ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch i www.villagesos.org.uk  

Rhestr lawn o ddyfarniadau a gyhoeddwyd heddiw yng Nghymru. 
- 38KB

Mwy o Wybodaeth

Fflur Lawton- Swyddfa'r Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 237
Cyswllt y tu allan i oriau: 07717 513 418
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £100,000 y dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
ADBORTH