- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 4 5 2007
Bydd gwaith uwchraddio cyfleusterau allweddol mewn canolfan ganser arbenigol a fydd yn helpu miliynau o bobl ar draws De Orllewin Cymru yn cael ei roi ar waith yn fuan.
Ar Ddydd Gwener, Mai 4, bydd cynrychiolydd o’r Gronfa Loteri Fawr a Chadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre yng Nghaerdydd yn torri’r ‘dywarchen’ gyntaf i nodi cychwyn y gwaith adeiladu ar brosiect £1.8 miliwn i uwchraddio’r cyfleusterau yn yr Uned Cefnogaeth Gweithredol yng Nghanolfan Canser Felindre.
Wedi ei lleoli yn Eglwys Newydd, dyfarnwyd £480,000 i Ganolfan Canser Felindre o dan raglen Gofal Lliniarol y Gronfa Loteri Fawr, a fydd yn gwario £4.5 miliwn ar wella cyfleusterau gofal lliniarol sy’n darparu cefnogaeth a rhyddhad i gleifion terfynol wael a’u teuluoedd, ledled Cymru.
Agorwyd y ganolfan ganser yn yr Eglwys Newydd yn 1956 ac mae’n darparu gwasanaethau canser arbenigol i 1.5 miliwn o bobl sy’n byw yn Ne Orllewin Cymru. Mae’n un o’r 10 canolfan canser mwyaf yn y DU ac mae ei weithgareddau wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd. Mae’r ganolfan yn cyflogi 600 o staff ac mae’n gweld dros 5,500 o gyfeiriadau canser a 50,000 o apwyntiadau cleifion allanol pob blwyddyn.
Mae’r uned yn canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd a hwyluso rhyddhad cleifion o’r ysbyty sydd wedi cael eu cyflwyno oherwydd nad yw eu hafiechyd bellach yn ymateb i driniaeth feddyginiaethol. Fodd bynnag, mae’r cyfleusterau yn yr uned mewn gwir angen cael eu huwchraddio. Bydd y prosiect yn arwain at welliannau yng ngosodiadau gwasanaethau gofal lliniarol i’r cleifion a’u teuluoedd trwy ailwampio'r prif fan ward, gan sicrhau fod gofynion iechyd a diogelwch yn cael eu cwrdd drwy ddarparu teuluoedd â man ar gyfer defnydd dros nos.
Bydd newidiadau mewn gosodiad hefyd yn gwella’r amgylchedd weithio i staff a gwirfoddolwyr, drwy ddarparu mannau addas ar gyfer cyfarfodydd aml-ddisgybiaethol a thrafodaethau anffurfiol. Bydd y cynllun hefyd yn helpu i wella mynediad i gleifion ac ymwelwyr anabl drwy ddarparu cyfleusterau ystafell ymolchi sydd wedi eu hadeiladu yn arbennig ar gyfer defnyddwyr anabl sy’n agosach at welâu’r cleifion.
Dywedodd Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Huw Vaughan Thomas: “Mae gwasanaethau a phractis gofal lliniarol eisoes yn bodoli yng Nghymru ond mae wedi cael ei adnabod fod gwelliannau i’r amgylchedd yn cynyddu effeithlonrwydd y gwasanaethau, sydd mewn tro yn cael effaith bositif ar gleifion a gofalwyr. Bydd ein harian Loteri yn awr yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio a gwella'r uned a darparu cyfleusterau arbennig iawn i aelodau o’r gymuned sydd mewn cyfnod anodd a sensitif iawn yn eu bywydau.”
Wrth ddiolch i’r Gronfa Loteri Fawr am eu helpu i droi eu breuddwyd o uwchraddio’r cyfleusterau i mewn i realiti dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Yr Athro Tony Hazell: “Mae’r Uned yn ddatblygiad adeilad hanfodol yn Felindre ar gyfer y cleifion hynny y mae'r canser yn profi i fod yn anodd i’w reoli. Mae’r cleifion yn derbyn y gofal arbenigol gan eu oncolegydd tra’n cael eu gofalu amdanynt gan y tîm gofal lliniarol arbenigol, a all reoli symptomau anodd a chefnogi cleifion a’u teuluoedd trwy’r amser anodd a phryderus maent yn ei wynebu. Bydd yr uned newydd yn caniatáu fod gan y cleifion a’u teuluoedd breifatrwydd, o fewn amgylchedd sy’n mwyhau urddas mewn gofal ac sy’n annog cleifion a pherthnasau i allu lleisio eu pryderon a’u hanghenion yng nghyd-destun gofal personol. Mae dyluniad yr uned wedi ei gynllunio yn ofalus iawn ac yn dilyn ymgynghori â chleifion a theuluoedd a staff. Mae’r cynlluniau yn cwrdd â dymuniadau a ddaeth o gydbwysedd rhwng wardiau agored lle’r oedd gan gleifion gwmni, ystafelloedd sengl ar gyfer y rhai sy’n dymuno bod mewn man mwy preifat a’r cyfleusterau y mae teuluoedd eu hangen, yn cynnwys plant. Mae hyn i gyd o fewn amgylchedd glinigol o ansawdd uchel iawn.”
Bydd y ‘seremoni torri’r dywarchen gyntaf’, a fydd yn cychwyn am 12:30 ar Fai 4ydd, yn cael ei berfformio gan Carys Jones o’r Gronfa Loter Fawr a Chadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Yr Athro Tony Hazell.
Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr ac sut y gall eich grŵp chi ymgeisio am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk i gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd cyfweld, tynnu llun a ffilmio, gweler y wybodaeth isod a chysylltwch â Oswyn Hughes yn swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr dros e-bost neu ar y rhifau isod.
Gwybodaeth pellach
Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dyfarnu yn agos at £2 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr, sydd ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri yn golygu fod y rhan fwyaf o bobl yn y DU o fewn ychydig filltiroedd i brosiect sydd wedi ei ariannu gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i iechyd, addysg, yr amgylchedd ag achosion elusennol ledled y DU ers ei sefydlwyd ym Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr drwy’r Senedd ac ar yr un pryd fe dderbyniodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol) y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a Chomisiwn y Mileniwm. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad ac arfer da y cyrff cyfun i symleiddio ariannu yn y meysydd hynny ble maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian y Loteri yn darparu’r gwerth gorau am arian.
Tags