Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Atal hunanladdiadau yn flaenllaw ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
6 5 2008
BYDD MILIWN O BUNNAU mewn arian achos da yn cyrraedd Pen-y-bont ar Ogwr heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr a dywed seiciatrydd ymgynghorol blaenllaw y bydd yn mynd ymhell i helpu i “ostwng nifer y marwolaethau hunanachosedig trasig” o fewn y gymuned.

Mynegodd Dr Tegwyn Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg ei deimladau wrth i'r sefydliad groesawu newyddion am ei ddyfarniad gwerth £999,000 gan raglen Iechyd Meddwl y Gronfa Loteri Fawr, sy’n anelu at hyrwyddo adferiad ac annibyniaeth pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol yng Nghymru a chefnogi’r rheini sydd fwyaf wrth risg o gyflawni hunanladdiad.

Bydd yr hwb ariannol gan y Gronfa Loteri Fawr yn caniatáu i Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg redeg prosiect "Lets Talk" - "Siaradwn Ni" sy’n anelu at ostwng stigma a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion iechyd meddwl ar draws ardaloedd bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot. Cyflawnir hyn trwy ddarparu fframwaith gwybodus a hyfforddedig o gefnogaeth ac atal cyflawni hunanladdiad, gan annog adnabyddiaeth ac ymateb cynt. Bydd y prosiect yn gweithio gyda chonsortiwm o wasanaethau’r sector gwirfoddol a statudol, gan gynnwys Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc lleol, i greu strwythur o atgyfeirio, cefnogaeth a chydweithio rhyngasiantaethol.

Bydd dau o hyfforddwyr/cydlynwyr ASIST/STORM (Applied Suicide Intervention Skills Training/Skills based Training On Risk Management) yn cael eu cyflogi er mwyn datblygu sylfaen ehangach a gwell o unigolion yn y gymuned sy’n well wrth adnabod materion ac anghenion iechyd meddwl o fewn aelodau’r teulu ac aelodau eraill o’u cymuned. Bydd hyn yn helpu i adnabod sefyllfa cyn iddo ddirywio ac yn galluogi i bobl annog unigolyn i geisio’r gefnogaeth briodol. Bydd gwasanaethau hefyd yn datblygu nifer o grwpiau cefnogi cylchol sy’n darparu cefnogaeth ddigonol ar gyfer aelodau agos y teulu a ffrindiau sy’n dioddef yn dilyn hunanladdiad.

Bydd gwell cydgysylltu hefyd yn yr adrannau Damweiniau ac Achosion brys er mwyn sicrhau bod cleifion sy’n bresennol sydd wedi ceisio cyflawni hunanladdiad yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau priodol. Bydd hyn yn isafu achosion o hunanladdiadau a hunan-niweidio trwy sicrhau fod grwpiau agored i niwed wedi gallu datblygu gwydnwch a strategaethau ymdopi priodol.

Wrth bwysleisio pwysigrwydd y prosiect, dywedodd Dr Tegwyn Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg: “Mae’n bleser mawr gennyf dderbyn yr arian hwn ar ran cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.  Gobeithiwn y bydd yr arian hwn yn helpu i leihau nifer y marwolaethau hunanachosedig trasig yn ein cymuned ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'n partneriaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol i wireddu ein cynllun 'Siaradwn Ni’ gyda chefnogaeth y Gronfa Loteri Fawr.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen dywedodd Barbara Wilding, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Iechyd Meddwl: “Mae un o bob pedwar ohonom yn debyg o brofi problemau iechyd meddwl rywbryd yn ystod ein bywydau felly mae'n bwysig cydnabod y mater. Pobl â phroblemau iechyd meddwl yw rai o’r bobl fwyaf difreintiedig o fewn cymdeithas ac yn aml maent yn wynebu amddifadedd lluosog. Mae nifer wedi’u hynysu a chanddynt hunan-barch isel a dyheadau isel. Mae eu cyflwr wedi’i waethygu gan stigma, diffyg dealltwriaeth a'r gwahaniaethu maent yn eu hwynebu'n ddyddiol."

Ychwanegodd: “Bydd y prosiect hwn yn cael effaith arwyddocaol ar fywydau pobl sy’n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru a bydd ein harian yn gwneud cyfraniad strategol pwysig i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y sir, trwy helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chefnogi prosiect sy'n ceisio goresgyn y rhwystrau maent yn eu hwynebu."

Am wybodaeth bellach ynghylch y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol i Gymru. Fel arall, cewch ffonio swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.

Gwybodaeth pellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwn i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Iechyd a lles
  • Ariannu gwell
  • Pobl Ifanc
ADBORTH