- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 29 11 2007
Wrth i’r gystadleuaeth fynd rhagddi, mae prosiect EYST Urban Fix Up yn Abertawe ar ben eu digon heddiw ar ôl iddynt ennill cyfran o £49,700 o arian achosion da gan gystadleuaeth ranbarthol Miliynau’r Bobl y Gronfa Loteri Fawr.
Pleidleisiodd gwylwyr ITV Cymru dros y prosiect i ennill y dyfarniad yn dilyn cystadleuaeth gyffrous benben am bleidlais y gymuned a’i darlledwyd ar Nos Fercher ar newyddion rhanbarthol ITV Cymru.
Enillodd y Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig galonnau - a chyfran fwy o’r bleidlais gyhoeddus - wedi i wylwyr ddarganfod beth fyddai prosiect EYST Urban Fix Up yn ei wneud â’r arian. Bydd y prosiect yn awr yn gwario’r arian ar ddiweddaru’r ganolfan galw i mew i ieuenctid yn y ddinas tra’n hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau adeiladu sy’n gyfeillgar â’r amgylchedd. Bydd y prosiect yn cymryd lle dros 6 mis a bydd yn hyfforddi 12 o bobl ifanc ac yn cynnwys 100 o aelodau fel gwirfoddolwyr.
Pob nos rhwng Tachwedd 26 a 29, mae dau brosiect o Gymru yn cael eu harddangos ar newyddion rhanbarthol ITV Cymru mewn brwydr benben i ddiogelu’r mwyafrif o bleidleisiau cyhoeddus ac i ennill dyfarniad Cronfa Loteri Fawr o hyd at £80,000.
Bydd rhifau ffôn pleidleisio yn cael eu darlledu yn ystod y rhaglen a byddant hefyd ar gael ar wefan y Gronfa Loteri Fawr o 9am bob dydd, www.cronfaloterifawr.org.uk ynghyd â rhestr o’r enillwyr dyddiol. Bydd rhifau pleidleisio hefyd yn y Daily Mirror ar ddydd y pleidleisio.
Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd Cymru Cronfa Loteri Fawr: “Ers lansiad Miliynau’r Bobl yn 2005, mae bron i £380,000 wedi ei ddyfarnu i wyth o brosiectau yng Nghymru. Mae cystadleuaeth eleni yn profi i fod yn fwy a gwell. Mae’r cyhoedd sy’n pleidleisio eisoes wedi gwneud eu cyfraniad i sicrhau y gall nifer o brosiectau cymunedol gwych ddod yn fyw drwy eu helpu i ddiogelu arian y Loteri. Nid yw’n ben y daith i’r rhai oedd yn aflwyddiannus. Mae ganddynt ail gyfle, wrth iddynt aros i glywed os byddant yn ennill dyfarniad bonws ar ddiwedd yr wythnos fel y prosiect gorau yn yr ail safle yn y rhanbarth.”
Elis Owen, Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolydd Rhaglenni ITV Cymru: “Un o’n prif gryfderau yw ein gallu i gysylltu â phobl leol am faterion cymunedol. Eleni eto mae ein rhaglen newyddion rhanbarthol wych yn gofyn i’r cyhoedd benderfynu pa brosiectau cymunedol lleol sydd fwyaf haeddu cefnogaeth y Loteri a chyda’r dyfarniadau rhanbarthol mwyaf hyd yn hyn ar gael, mae Miliynau’r Bobl yn siŵr o gael effaith barhaol.”
Mae hi’n noson olaf y gystadleuaeth heno, Nos Iau Tachwedd 29, pan fydd prosiect Aber Valley Water Play Feature Phase 2 yng Nghaerffili yn cystadlu yn erbyn y Prosiect Eco-Anabledd yn sir gyfagos Blaenau Gwent.
Fodd bynnag, nid yw’n ddiwedd y daith i’r prosiectau oedd yn aflwyddiannus yn y cam cyntaf. Ar ddiwedd y gystadleuaeth mae hefyd un dyfarnid bonws ychwanegol o hyd at £80,000 i’r prosiect yn yr ail safle a dderbyniodd y mwyafrif o bleidleisiau a bydd yr enillydd yma yn cael ei gadarnhau ar Dachwedd 30.
Mae cystadleuaeth Miliynau’r Bobl, sydd yn ei drydedd flwyddyn, yn cael ei redeg ar draws 18 rhanbarth ITV*, gyda chyfanswm o 90 o ddyfarniadau ledled y DU a hyd at £7.8 miliwn o arian y Gronfa Loteri Fawr yn nwylo’r cyhoedd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae cystadleuaeth dyfarniadau rhanbarthol Miliynau’r Bobl wedi dosbarthu £7.2m i 139 o achosion da’r DU ac mae 350,000 o bobl wedi pleidleisio dros eu hoff brosiect.
Rhifau ffôn pleidleisio - fel mewn blynyddoedd blaenorol, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhif ffôn graddfa genedlaethol di bremiwm. Nid yw ITV na’r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud proffid o’r rhifau ffôn pleidleisio.
Yr wythnos sy’n dilyn cystadleuaeth deledu ranbarthol Miliynau’r Bobl, bydd y Gronfa Loteri Fawr ac ITV1 yn arddangos cystadleuaeth ‘People’s £50 million Lottery Giveaway’ ar nosweithiau dilynol ble bydd pedwar prosiect o bwysigrwydd cenedlaethol yn cystadlu am blesidlais y cyhoedd i ennill dyfarniad £50 miliwn digynsail gan y Gronfa.
Gwybodaeth Pellach
Swyddog y Wasg Cronfa Loteri Fawr- Oswyn Hughes:02920 678 207
Cyswllt y Tu Hwnt i Oriau:07760171431
Cyswllt y Wasg ITV: Sally Holmes ar 08448 810 202
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- * Rhanbarthau darlledu ITV ym Miliynau’r Bobl:
ITV Anglia (East) ITV Anglia (West) ITV Border ITV Central (East) ITV Central (West) ITV Cymru ITV Granada ITV London ITV Meridian (South) ITV Meridian (South East) ITV Thames Valley ITV Tyne Tees ITV West ITV West Country ITV Yorkshire stv Central stv North UTV
- Mae 90 o ddyfarniadau ar gael ar draws y DU – pedwar enillydd ac un dyfarniad bonws ar gyfer pob un o 18 rhanbarth ITV.
- Dyddiad allweddol Miliynau’r Bobl ar gyfer y dyddiaduron:
26 - 30 Tachwedd 2007: Darlledu cystadleuaeth Miliynau’r Bobl ar ITV
- Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth yw ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol drwy weddnewid yr amgylchedd lleol. Eleni mae prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd neu gyfleusterau er mwyn mwynhau’r amgylchedd lleol hefyd wedi’u hychwanegu at y meini prawf ariannu.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y DU bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Rhifau ffôn pleidleisio – Yn yr un modd â’r arfer, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhifau ffôn cost isel. Nid yw ITV na'r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o'r rhifau ffôn pleidleisio.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd fe gymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Y Gronfa Gymunedol) y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau'r cyrff cyfun er mwyn symleiddio ariannu’r ardaloedd hynny sy’n gorgyffwrdd ac i sicrhau bod arian y Loteri yn cynnig y gwerth gorau posibl am arian.
Tags