Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Taclo bwlis a chefnogi achubwyr: prosiectau o gymru'n dathlu arian i bawb

Area:
Cymru
Programme:
Arian i Bawb Cymru
Release date:
24 7 2012

Mae prosiect i gynnig mwy o arweiniad a chefnogaeth i bobl sy'n profi problemau gyda bwlio a phrosiect i alluogi Tîm Achub Ogofau i brynu ambiwlans 4x4  newydd ymysg yr ystod o brosiectau hollbwysig i elwa o dros £320,000 a ddyfarnwyd gan raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr heddiw.   

At ei gilydd bydd 85 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £321,933 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen grantiau bach, Arian i Bawb heddiw (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad).

Gyda chynnydd i'w weld mewn seiber-fwlio ar wefannau cyfryngau cymdeithasol megis Twitter a Facebook, bydd y mudiad BulliesOut yng Nghaerdydd yn gwario £4,964 ar ddarparu hyfforddiant penodol ac wedi'i dargedu ar gyfer gwirfoddolwyr newydd a chyfredol i'w galluogi i gynnig arweiniad a chefnogaeth i bobl sy'n profi problemau gyda bwlio. Yn ôl BulliesOut, mae plant yn y grwp bregus hwn dair gwaith yn fwy tebygol o ystyried lladd eu hunain, ac mae'r gefnogaeth y maent yn ei chynnig yn llinell fywyd i lawer.

Gan amlygu pwysigrwydd yr ariannu, meddai, Emma Anne Thomas, Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd y mudiad BulliesOut: "Mae'r ariannu'n hollbwysig a bydd yn ein galluogi i hyfforddi mwy na 40 o wirfoddolwyr i gefnogi hyd yn oed yn fwy o ddioddefwyr bwlio."   

"Mae'n rhyfeddol yr hyn y gallwch ei gyflawni gyda swm bach o arian. Hebddo, byddai'n rhaid i ni neilltuo amser i godi arian ein hunain yn lle helpu pobl. Rydym yn delio gyda nifer o bobl ifanc sy'n ystyried neu sydd wedi ystyried lladd eu hunain, ac mae'n bwysig bod ein mentoriaid gwirfoddol yn cael yr hyfforddiant priodol i ymyrryd. Yn ddiweddar bu'n rhaid i un o'n mentoriaid ymyrryd o dan y fath amgylchiadau, ac ni allwch roi pris ar helpu rhywun yn y fath sefyllfa."

Ychwanegodd: “Mae cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu defnyddio gan fwlis mewn ffordd andwyol ac rydym wedi gweld cynnydd mewn bwlio ar-lein yn ddiweddar. Mae bwlio'n fater y teimlaf yn gryf amdano, gan i mi brofi bwlio fy hun fel plentyn. Credaf yn gryf fod bwlio'n broblem sy'n effeithio ar lawer, ac y gall BulliesOut wneud gwahaniaeth, ac yn wir, yn gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan fwlio bob dydd.”           

Mewn prosiect sy'n costio dros £35,000, bydd Tîm Achub Ogofau De a Chanolbarth Cymru yn defnyddio'u dyfarniad o £5,000 i brynu Ambiwlans Landrover â'r holl gyfarpar i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau achub ogofau. Galwyd y prosiect allan ddeuddeg o weithiau y llynedd, a chymerodd ran yn yr ymgyrch i geisio helpu i achub y glowyr a fu farw yn drist yn nhrychineb Pwll Glo Gleision.  

Gan bwysleisio pwysigrwydd ariannu'r prosiect, meddai Gary Evans o Dîm Achub Ogofau De a Chanolbarth Cymru: "Mae ein gallu i wneud y swydd yn effeithiol yn dibynnu ar aelodau ein tîm a'r cyfarpar a ddefnyddiwn. Gan ein bod yn ymdrin ag ardal mor fawr o De a Chanolbarth Cymru, mae'r Ambiwlans Landrover yn un o'n darnau allweddol o gyfarpar ar gyfer cyfleu aelodau tîm a'r deunyddiau angenrheidiol i ddigwyddiad a lleoliad achub. Mae cerbyd achub â'r holl gyfarpar yn hanfodol ar gyfer cyrraedd safleoedd anghysbell a chludo anafeion i fan diogel."    

O ganlyniad i'r broblem gynyddol o bobl ifanc yn reidio beiciau modur oddi ar ffordd yn anghyfreithlon yng nghymuned leol Treharris ym Merthyr Tudful, bydd mudiad Black Desert Training yn defnyddio'u dyfarniad o £5,000 i redeg Treharris Youth Motorcycle Project. Mae reidio beiciau modur oddi ar ffordd yn anghyfreithlon yn destun pryder i'r gymuned leol ac yn un o'r blaenoriaethau y maen nhw eisiau ymdrin â nhw. Rhedodd y grwp gynllun tebyg y llynedd a darganfu nad oedd llawer o bobl ifanc yn gwybod gwir effeithiau reidio'n anghyfreithlon.

Bydd yr arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn galluogi i'r grwp redeg cynllun gwyliau haf ar gyfer pobl ifanc yn Nhreharris a'r cylch. Bydd y grwp yn cynnal 10 sesiwn weithdy a sesiwn reidio oddi ar y ffordd a anelir at bobl ifanc 13-19 oed gan mai nhw yw'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o droseddu ac achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Bydd y cynllun hwn yn dysgu pobl ifanc am effaith reidio'n anghyfreithlon a sut y gallent yn y pen draw, bennu lan gyda chofnod troseddol," meddai Tamsin Jones, Cyfarwyddwr Black Desert Training.

"Bydd hefyd yn eu dysgu sut mae'n effeithio ar y gymuned leol, perchnogion tir a'r amgylchedd a hefyd sut y gallai reidio heb y dillad diogelwch go iawn gynyddu'r perygl o gael eu hanafu. Bydd y cynllun hwn hefyd yn cynnwys hyfforddiant ar sut i reidio'r beiciau'n ddiogel ac yn briodol. Roedd y cynllun a redwyd gan y grwp y llynedd yn llwyddiannus iawn gan i'r heddlu adrodd am ostyngiad mewn beicio anghyfreithlon yn yr ardal."

Mae'r prosiectau eraill a ariennir yn amlygu'r ystod amrywiol o brosiectau y gall y rhaglen Arian i Bawb eu hariannu. Yng Ngogledd Cymru bydd Chat Away Coffee Club yn Sir Ddinbych yn gwario eu dyfarniad o £5,000 ar drefnu gwibdeithiau i'r teulu ar gyfer aelodau sydd â phlant ag Awtistiaeth, ADHD a phroblemau ymddygiadol. Ac yng Nghasnewydd, De Cymru, bydd y mudiad Life Music Foundation Limited yn gwario £4,945 ar wasanaeth trwsio gitarau cymunedol er budd perchnogion offerynnau ar incwm isel nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”

Mae'r ffurflen gais ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei lawrlwytho o www.arianibawb.org.uk neu ofyn amdani trwy ffonio 0845 4 10 20 30.

Rhestr lawn y dyfarniadau 
- 28KB

Mwy o Wybodaeth:

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207

Cyswllt y tu allan i oriau:  07760 171 431

Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                   Ffôn testun:    0845 6021 659

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Cymunedau Cryfach
  • Pobl Ifanc

Categori

  • Adfywio
ADBORTH