Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

'Taffy' o Fae'r Teigr yn Dychwelyd i Gofio ei Rôl ym 'Mrwydr yr Iwerydd'

Area:
Cymru
Programme:
Arwyr yn Ôl
Release date:
28 5 2012

Fe wnaeth ei long gludo cadfridogion pwysig a darpar Arlywydd Unol Daleithiau America i'r glannau'n ddiogel ar ôl i'r Cynghreiriaid feddiannu Sisili, a defnyddiodd y dechnoleg Radar ddiweddaraf a helpodd y Cynghreiriaid yn raddol i gael y llaw uchaf yn y môr a'r awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Nawr, diolch i ddyfarniad gan raglen Arwyr yn Ôl 2 y Gronfa Loteri Fawr, bydd Daniel James, sy'n 89 oed ac yn dod o Gaerdydd yn dychwelyd i lannau'r Eidal i gofio'r rôl a chwaraeodd mewn un o frwydrau morol hiraf, mwyaf a mwyaf cymhleth yn hanes y byd – ‘Brwydr yr Iwerydd’.

Ym mis Gorffennaf eleni bydd Danny, y rhoddwyd y llysenw ‘Taffy’ iddo gan ei gymheiriaid yn ystod y Rhyfel, yn ymweld â Sisili a rhannau eraill o arfordir Yr Eidal lle y gwasanaethodd fel Llongwr Abl a Gweithredwr Radar ar y Ddistrywlong Dosbarth Hela, HMS Brocklesby, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae'n un o nifer mawr o gyn-filwyr o Gymru sydd wedi mynd ar deithiau llawn emosiwn i'r lleoedd y buont yn gwasanaethu yn ystod y rhyfel. Hyd yn hyn mae rhaglen Arwyr yn Ôl y Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu mwy na £1 miliwn i fwy na 830 o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gweddwon, gwyr, gwragedd a gofalwyr o Gymru ar gyfer teithiau yn y DU, Ffrainc, Yr Almaen, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell a'r tu hwnt.

Ganwyd Daniel James ym Mae'r Teigr yng Nghaerdydd ym 1923 a thyfodd i fyny mewn tlodi enbyd yn nyfnderoedd y Dirwasgiad Mawr a ddilynodd Streic Gyffredinol 1926. Fel porthladd mwyaf a phrysuraf y byd ar un adeg, roedd llwyddiant dociau Caerdydd yn seiliedig ar allforio glo o Dde Cymru, ond roedd yr allforion wedi cwympo i lai na pum miliwn o dunellau ac roedd dwsinau o longau lleol wedi cael eu rhoi o'r neilltu. Roedd yn gyfnod o ddirwasgiad na wnaeth dociau Caerdydd erioed ailsefydlu ei hun ar ei ôl.

"Roedd yn fywyd caled ond credais mai dyna oedd y ffordd o fyw naturiol gan nad oeddwn yn gwybod am unrhyw beth arall," meddai Danny.

“Doedd dim byd gennym ni. Nid oedd unrhyw beth moethus o gwbl, ond byddem yn cael cinio rhost bob dydd Sul. Dw i ddim yn gwybod sut llwyddodd fy mam i fforddio hynny ond mi wnes i oroesi a gwnaeth e ddim niwed i mi. Yn fy arddegau fe wnes i bob math o swydd fel adeiladwr a gweithiais mewn ffatrïoedd nes i mi gael fy ngalw i'r Llynges Frenhinol yn 19 oed. Bydda i bob amser yn cofio'r diwrnod y ces i fy ngalw i'r llynges. Dyna oedd y 10fed o Ragfyr 1942. Roeddwn yn gyffro i gyd ar y pryd a chredais y byddai'n antur."

Yna cafodd Daniel ei anfon i wersyll HMS Glendower ym Mhwllheli, Gogledd-orllewin Cymru, a ddefnyddiwyd fel canolfan hyfforddi ar gyfer y Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel.

"Cymerodd ddeuddeg awr i ni gyrraedd," meddai Danny.

"Gwnaethom godi am ddeg o'r gloch y bore ac ni wnaethom gyrraedd tan ddeg o'r gloch y nos."

Danny ar y Radar

“Pan oeddwn i yno, daethon nhw â rhywbeth newydd allan o'r enw RDF, sef 'Radio Direction Finding' neu ‘Radar’ fel y maen nhw'n ei alw fe,” meddai Danny.

“Roedden nhw'n chwilio am recriwtiaid newydd i weithredu'r systemau Radar newydd ar y llongau. Roeddwn wedi clywed llwyth o storïau rhyfedd amdano, ond ni feddyliais erioed y byddwn yn achub ar y cyfle ac yn rhoi cynnig arni. Llwyddais yn yr arholiad ac yna fe wnaethom ni chwe wythnos o hyfforddiant ar Ynys Manaw. Nid oeddwn erioed wedi clywed am radar nes i mi ymuno, ac nid oeddwn yn gwybod llawer iawn am bethau trydanol o unrhyw fath, a bod yn onest. Wrth edrych yn ôl, dw i ddim yn gwybod sut y dechreuais i ymwneud ag ef."

Prin yr oedd Danny yn gwybod y byddai'r brwydrau allweddol yn cael eu hennill yn y pen draw gan yr ochr a oedd yn gallu gweld awyrennau, llongau neu longau tanfor y gelyn yn gyntaf. I roi hwb i'r Cynghreiriaid, datblygodd gwyddonwyr ym Mhrydain ac America dechnoleg radar i "weld" am gannoedd o filltiroedd, hyd yn oed gyda'r nos. O'i herwydd roedd llongau hela a dinistrio'n gallu cael eu hanfon allan ar gyflymder uchel i gyfeiriad y gelyn. Gweithredu'r dechnoleg radar oedd yr hyn a drodd y llanw yn y pen draw yn erbyn llongau tanfor badau-U yr Almaenwyr a'r badau-E yn yr Iwerydd.

Ymuno â HMS Brocklesby

Yn sgil ei hyfforddiant, cymhwysodd Daniel fel Llongwr Abl a Gweithredwr Radar, ac fe'i leolwyd yn Plymouth cyn cael ei anfon i ynys Gibraltar ym 1943 i ymuno â llynges môr y Canoldir a'i long, HMS Brocklesby.

O fan hyn cymerodd Danny ran ym Mrwydr yr Iwerydd, yr ymgyrch filwrol hiraf barhaus yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a redodd o 1939 i orchfygu'r Almaen ym 1945. Petai'r Cynghreiriaid wedi methu â symud llongau o gwmpas Gogledd yr Iwerydd, byddai wedi bod yn amhosib amddiffyn a chyflenwi lluoedd Prydain ac America ar dir yn y Canoldir. Canlyniad y frwydr oedd buddugoliaeth strategol ar gyfer y Cynghreiriaid - methodd gwarchae'r Almaenwyr - ond roedd y gost yn fawr: suddwyd 3,500 o longau masnach a 175 o longau rhyfel o'i gymharu â 783 o fadau-U.

Dros y ddwy flynedd nesaf cymerodd Danny a HMS Brocklesby ran wrth hebrwng yr hyn sydd wedi cael ei alw'n gonfoi mwyaf y rhyfel, a fu'n cynnwys 129 o longau masnach a 19 o fadau hebrwng, gan gwmpasu 68 milltir sgwâr.

"Nid oeddwn yn adnabod unrhyw un ac nid oedd gennyf safle ymladd pan ymunais â'r llong yn Gibraltar.

"Roeddem yn arfer mynd allan ymhell i'r Iwerydd i gwrdd â'r confoiau masnach a'u hebrwng yn ddiogel i'r lle yr oedd angen iddynt fynd iddo, a'u hamddiffyn os oedd angen. Roedd y Cynghreiriaid newydd lanio yn Algiers yng Ngogledd Affrica bryd hynny, ac ein tasg ni oedd sicrhau parhad y cyflenwadau i'r Lluoedd yng Ngogledd Affrica. Byddem hefyd yn mynd i lawr i Malta i helpu i hebrwng cyflenwadau wrth baratoi i feddiannu'r Eidal. Tan y glaniadau Dydd-D, dyna oedd y confoi mwyaf a roddwyd at ei gilydd. Roedd cannoedd o longau'n cymryd rhan."

Llong Dan ei Sang

Roedd bywyd ar y Brocklesby yn glos, gyda 280 o aelodau'r criw wedi'u gwasgu i mewn i long a ddylai fod wedi dal 150 yn gyfforddus.

"Roedd yn gyfyng dros ben ond byddem yn bwrw 'mlaen gyda phethau a dod i arfer ag ef," esboniodd Daniel.

"Roedd hamogau gennym, ond dw i ddim yn credu y gwnes i gysgu yn fy un i. Byddech yn mynd i gysgu ble bynnag a phryd bynnag y gallech chi. Roeddem bob amser yn gwylio allan hefyd, ac roedd yn fater o pedair awr ymlaen, pedair awr i ffwrdd yn ystod uchafbwyntiau'r gwrthdaro. Roedd gennym i gyd swyddi gwahanol i'w gwneud ar y llong, ac rwy'n cofio bod i lawr yng nghrombil y llong un tro, yn rhoi sieliau ar hambwrdd gyda'r Cogydd yn y gegin i fynd â nhw i fyny i'r gynnau ar y dec. Nid oeddem byth wedi'n diflasu ac roeddem bob amser yn jocian gyda'n gilydd. Roeddem yn byw gyda'n gilydd a bu'n rhaid i ni ddod ymlaen gyda'n gilydd.

Dod i ben â'r Radar

Wrth edrych yn ôl, mae Daniel yn sylweddoli pa mor bwysig oedd technoleg Radar wrth sicrhau goruchafiaeth y Cynghreiriaid yn yr Iwerydd yn ystod y Rhyfel.

"Rwy'n cofio'r diwrnod cyntaf y gwelais i'r Radar ar y llong," meddai.

"Roedd yn ystafell enfawr yn llawn peiriannau. Dw i ddim yn gwybod sut y ces i fe i weithio, ond mi lwyddais i. Roedd yn dri mis ar ôl fy hyfforddiant y gwelais i'r radar am y tro cyntaf ar y llong. Roedd y radar yn hynod o bwysig. Roeddem yn gallu gweld pryd yr oedd awyrennau a llongau'r gelyn yn  dod tuag atom."

"Yn syth ar ôl i ni weld y gelyn, byddwn yn cyfleu'r wybodaeth i Gyfeirydd y Radar a fyddai'n dod o hyd i'r union gyfesurynnau ac yn cyfeirio'r gynnau i'w tanio at y gelyn. Byddem yn darparu gwybodaeth ar eu cyfer trwy'r amser. Heb y radar byddem wedi bod ar gyfeiliorn. Yn bendant fe helpodd i newid cyfeiriad y Rhyfel. Nid oedd y gelyn yn gwybod bod gennym y radar ac nid oeddent wedi sylweddoli ychwaith ein bod wedi torri'r côd ENIGMA ac yn deall yr holl negeseuon yr oeddent yn trawsyrru i'w gilydd. "Cyn hynny roedd nifer y llongau roeddem yn eu colli'n ofnadwy."

Llwyth Gwerthfawr yn ystod Meddiannaeth Sisili

Yn ystod y feddiannaeth o Sisili ym mis Gorffennaf 1943, roedd HMS Brocklesby wedi cael y fraint o gludo'r Llyngesydd Ramsey, y Cadfridog Montgomery a'r dyn a fyddai Arlywydd America yn y pen draw, y Cadfridog Eisenhower, i ble mae Lluoedd y Cynghreiriaid wedi bod ar gyrch i wthio'r Almaenwyr yn ôl.

"Pan oeddem yn Sisili, rwy'n cofio i ni gael ein hanfon ar genhadaeth i weld a oedd unrhyw rai o'r porthladdoedd eraill ar yr ynys yn glir ac yn ddiogel i'w defnyddio. Roeddem yn dod yn nes i borthladd bach tua'r un faint â Phenarth pan, yn sydyn, ehedodd siel dros ein pennau, gan bron â'n taro ni. Roedd yn un o danciau Teigr yr Almaenwyr yn saethu arnom o'r tir. Roedd gan y tanciau hynny gynnau 88mm mawr. Roeddent yn gynnau mwy na'r hyn a oedd gennym ar y llong."

Ar hyd gweddill 1943 a 1944 cymerodd y Brocklesby ran mewn nifer o ymgyrchoedd bomio safleoedd y gelyn, gan gynnwys glaniad Salerno pan feddiannwyd tir mawr Yr Eidal.

Yn ei Gof am Byth

Bydd rhai o'r digwyddiadau trallodus a welodd Danny yn ystod y Rhyfel yn aros yn ei gof am byth.

"Rwy'n cofio un digwyddiad pan gafodd un o awyrennau ymosod Canada, a oedd gyda'r confoi, ei saethu i lawr, a glaniodd yn y môr.

"Roedd y criw yn y dwr. Roedd hynny yn y prynhawn ond roedd yn dechrau tywyllu erbyn i ni ddod o hyd iddynt. Gallem weld bod un ohonynt wedi marw a bod y llall yn fyw ac yn dal gafael ar y rafft achub. Daethom â'r corff a'r goroeswr ar fad y llong. Roesom gladdedigaeth ar y môr i'r Awyrennwr marw."

"Nid dyna oedd y tro cyntaf i mi weld corff marw. Byddech yn eu gweld trwy'r amser yn y dwr wrth i chi ddod i mewn i borthladdoedd. Yn aml pan ddaethom i mewn i Naples, byddem yn gweld yr holl filwyr marw ac wedi'u hanafu'n cael eu llwytho ar Longau Ysbyty. Nid oedd modd gwneud unrhyw beth amdano. Dw i'n cofio bod rhai o'r milwyr a oedd yn ymladd ym mrwydr Monte Cassino wedi dioddef anafiadau erchyll ac roedden nhw'n dod â nhw i lawr i'r porthladd yn Naples fesul llwyth.”

“Roeddwn yn arfer diolch i Dduw nad oeddwn yn y Fyddin.”

Dinistr ym Malta

Mae Danny hefyd yn cofio'n fyw y dinistr a adawyd ym Malta yn sgil cyrchoedd bomio'r Almaen a'r Eidal ynghyd â golygfeydd o newyn ymysg y bobl.

"Roedd y difrod a achoswyd ym Malta'n ddychrynllyd ac roedd y bobl yn newynu. Roeddem ni bron â bod yn newynu ein hunain a'r cyfan yr oedd gennym oedd tuniau o benwaig mewn saws tomato," mae Danny yn cofio.

"Ond byddai'r Melitiaid yn dod i'r llong, yn rhoi ein holl ysborion mewn tun, mynd â nhw i'r lan, eu gwresogi a'u bwyta. Roedd hynny'n sioc i mi, a bod yn onest. Roedd gweld y dinistr pan aethom yn ôl i Valletta (prifddinas Malta) ar ôl y Rhyfel yn dorcalonnus. Roedd nifer mawr o longau wedi'u suddo yn yr harbwr a bu'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn wrth fordwyo o'u cwmpas."

Oherwydd gweithgarwch cynyddol badau-U a badau-E y gelyn yn y môr o gwmpas y DU yn gynnar ym 1945, roedd yn rhaid i'r Distrywlongau Dosbarth Hela ddychwelyd o Fôr y canoldir i wneud gwasanaeth yn nes at adref. Roedd y Brocklesby yn un o'r rhai a alwyd yn ôl, ac fe ddychwelodd i Plymouth ar 16 Mawrth. Rhyddhawyd Daniel o wasanaeth ym 1946, yr un flwyddyn y canodd fel rhan o Gôr y Lluoedd Arfog yn Neuadd Frenhinol Albert yn y Gwyl Goffa swyddogol i nodi blwyddyn ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Ac yntau'n edrych ymlaen at ddychwelyd i lannau'r Eidal, meddai Daniel: "Alla  i ddim aros fynd yn ôl a gweld sut mae'r lleoedd hyn wedi newid ers yr Ail Ryfel Byd."

Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi estyn ei rhaglen Arwyr yn Ôl 2. Ar hyn o bryd nid oes gan y rhaglen derfyn amser penodol ar gyfer ceisiadau. Mae'r estyniad hwn ar gyfer y cyn-filwyr nad oedd modd iddynt fynd ar ymweliad coffáu hyd yn hyn.

Mae mwy o wybodaeth a manylion am sut i ymgeisio am grant Arwyr yn Ôl 2 ar gael drwy ffonio 0845 00 00 121 neu fynd i www.biglotteryfund.org.uk/heroesreturn

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn parhau â'i chefnogaeth i gyn-filwyr y DU drwy ei menter Forces in Mind £35 miliwn a fydd yn sefydlu ymddiriedolaeth annibynnol i ddarparu cefnogaeth ac eiriolaeth hir dymor i gyn-filwyr. Bydd yr ariannu'n helpu cyn-filwyr a wasanaethai mewn rhyfeloedd gan gynnwys Irac, Afghanistan a Rhyfel y Gwlff sy'n ei chael hi'n anodd trawsnewid i fywyd allan o'r lluoedd arfog, yn enwedig y rhai y mae eu lles seicolegol yn effeithio wedyn ar ansawdd eu bywydau a bywydau'r rhai sydd o'u cwmpas.

Roedd Arwyr yn Ôl yn ganolbwynt i'r rhaglen Aduno Cyn-filwyr, gan gynnwys Cofio'r Ffrynt Cartref a ddyfarnodd £19.2 miliwn i gefnogi digwyddiadau grwp a gweithgareddau seiliedig yn y DU i goffáu'r rhai a gyfrannodd at ymdrech y rhyfel ar y ffrynt cartref, ac Eu Gorffennol Eich Dyfodol gyda chynllun parhaus gwerth £9.6 miliwn yn ariannu rhaglen ysgolion ac addysg DU gyfan er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu gan gyn-filwyr am eu profiad o'r rhyfel o lygad y ffynnon.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu hanner yr arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.  
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
  • Darparodd y cynllun Arwyr yn Ôl gwerth £17 miliwn ariannu i gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gwragedd a'u gwyr, eu gweddwon alle bo angen, eu gofalwyr presennol,  ddychwelyd i'r mannau tramor lle gwelsant y gad.  Trwy greu cyswllt â gweithgareddau a ariannwyd drwy'r cynllun Eu Gorffennol Eich Dyfodol, mae Arwyr yn Ôl hefyd yn helpu i wella dealltwriaeth pobl ifanc o'r ymdrechion a'r ebyrth a wnaed gan gyn-filwyr.


Tags

Buddiolwyr

  • Cyn-filwyr
ADBORTH