- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 22 11 2011
Mae'r fam i ddau o blant, Angela Davies, yn rhoi ei chalon i mewn i ganu'r gân glasurol gan Bill Withers, Lean on Me. Wrth edrych arni a gwrando arni hi ac aelodau eraill o'r côr, byddech chi'n meddwl bod eu dyfodol yn llawn gobaith.
Ac mae hynny'n wir i lawer diolch i'r sesiynau canu wythnosol, ond pan glywch fod aelodau wedi dioddef o, neu'n dal i frwydro yn erbyn canser, mae'r geiriau i Lean on Me yn arbennig o emosiynol.
Mae fel bod pob gair a nodyn yn donig yn erbyn y clefyd ofnadwy, sydd wedi gadael Angela o Gaerffili gyda salwch terfynol. Fel llawer ohonom ni, roedd hi wedi rhoi'r syniad arswydus o ganser i gefn ei meddwl, gan obeithio na fyddai byth yn digwydd.
Ond wrth wynebu'r realiti yma, mae'r fenyw 50 oed yn cyfaddef yr oedd hi'n barod i gyrlio i fyny a marw nes iddi ddarganfod cryfder mewnol newydd drwy ganu.
Ac ar ôl byw'n hirach na'r ddwy flynedd a roddwyd iddi gan y meddygon, mae penderfyniad newydd Angela'n golygu ei bod hi'n disgwyl - yn hytrach na gobeithio - byw hyd yn oed yn hirach a gweld ei mab 14 oed, Joshua yn gwireddu ei freuddwydion.
“Gwnaethant ddweud wrthyf yr oedd gennyf ddwy flynedd i fyw tua thair blynedd yn ôl ond dw i ddim wedi cymryd unrhyw sylw o hynny a dw i ddim yn bwriadu rhoi'r gorau iddi," meddai. Mae fy mab, sy'n 14 oed, eisiau bod yn beilot ac rwy'n mynd i'w weld e'n cyflawni hynny felly nid oes gennyf unrhyw fwriad o ildio, beth bynnag y maent yn ei ddweud."

Er iddi gwyno i feddygon am broblemau iechyd, arhosodd heb ei ddiagnosio am flynyddoedd nes iddi dderbyn y newyddion trychinebus ei bod yn dioddef o ganser yr ofarïau yn 2007. Yna cafodd y cyn-therapydd harddwch wybod bod y clefyd wedi lledu, gan effeithio ar lawer o'i horganau ac, ar ôl llawdriniaeth ddifrifol cafodd gwrs o gemotherapi ond nes ymlaen datblygodd ganser eilaidd anoperadwy.
“Roeddwn mor grac a chredais fod angen i mi sianelu'r dicter hwn rywsut," esboniodd Angela, y buodd ei rhieni farw o fewn wyth wythnos i'w gilydd ar ddechrau'r flwyddyn. "Nid wyf byth wedi dweud, 'Pam fi?' oherwydd bod un o bob tri o bobl yn dioddef o ganser ac nid ydw i ond yn un o bob tri o bobl. Does dim byd arbennig am Angela Davies - person dynol ydw i fel pawb arall, felly pam na ddylwn i gael canser?
“Ces i fy nigalonni ychydig oherwydd i mi feddwl fy mod am weld fy mab yn tyfu i fyny ac yna dechreuais beidio â mynd allan, ni fyddwn yn gadael y ty, roeddwn am fod gyda fy nau mab - paid â gadael fi ar fy mhen fy hun. Gwelais fy hun fel y peth 'ma - heb fod yn berson dynol bellach, dim ond y peth 'ma'n ceisio goroesi."
Codwyd calon Angela yn ystod ei thriniaeth ac ar ôl derbyn cwnsela gan yr elusen ganser Tenovus pan glywodd am gôr Sing for Life, a dderbyniodd bron £1 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr yn gynharach eleni. Er iddi fod yn amharod i fynd ar y dechrau, perswadiodd ei gwr Glyn a Joshua iddi fynd iddo dair wythnos yn unig ar ôl i'r côr ddechrau. Mae Angela, y mae angen iddi gymryd morffin oherwydd y poen ynghyd â llu o gyffuriau eraill, bellach yn llawn bywyd ac yn soprano fedrus.
A chan iddi ddwlu sut gymaint ar y côr, fel wnaeth berswadio Glyn a'i mab Joshua i ymuno hefyd.
“Nid wyf byth wedi edrych yn ôl," meddai Angela. “Mae'r côr wedi rhoi rheswm arall dros fyw i mi. Mae gennyf deulu ond mae gennyf deulu Tenovus hefyd. Pobl hyfryd, hyfryd iawn yw nhw sy'n gwybod beth y mae'n ei olygu i golli rhywbeth neu ei brofi eu hunain.
“Mae wedi rhoi rhywbeth i mi ei fwynhau eto ac rwyf wedi dechrau ymfalchïo yn y ffordd yr ydw i'n edrych eto. Mae'r hen Angela wedi dod yn ôl eto - yr hen Angela radlon, nid y gragen o berson a oedd yn eistedd yn y ty, yn aros i farw.
“A beth bynnag sy'n digwydd, rwyf bellach wedi dweud wrth fy mhlant a fy nheulu na fyddant byth ar eu pennau eu hunain os byddant yn dod o hyd i bobl fel y rhai yn y côr a byddaf yno bob amser beth bynnag - yn eu calonnau.”

Roedd yr elusen ganser Tenovus yn un o 30 grwp o Gymru a rannodd £20 miliwn gan raglen Llawn BYWYD y Gronfa Loteri Fawr sydd â'r nod o wella bywydau pobl hyn. Bydd grant o bron £1 miliwn yn galluogi Tenovus i sefydlu 15 côr Sing for Life newydd ar gyfer cleifion canser dros eu 50 oed, eu teuluoedd, eu gofalwyr a'u cyfeillion a'r rhai sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i'r clefyd ar draws Cymru.
Mae Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd wedi darganfod bod Sing for Life yn helpu i leddfu iselder a gwella lles cyffredinol ei aelodau.
Meddai Prif Weithredwr Tenovus Claudia McVie, "Mae Sing for Life yn rhoi cyfle i'r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ddod ynghyd mewn ffordd ddifyr, gadarnhaol ac egnïol i ganolbwyntio ar rywbeth heblaw am y canser."
Yn ôl Angela Davies, “Mae'n wych y gall pobl fel fi sy'n profi'r clefyd ofnadwy yma ddod i le fel hyn, gwneud ffrindiau, canu a theimlo'n dda. Gallwch fod yn teimlo'n erchyll, ond rydych am ddod yma gan i chi wybod erbyn y diwedd y byddwch yn teimlo mor dda, ar ôl canu gyda'ch holl galon a threulio amser gyda phobl sy'n eich caru chi. Mae'n rhyfeddol o dda y bydd hyn yn digwydd ar hyd a lled Cymru oherwydd yr arian Loteri yma.”
I gael mwy o wybodaeth am Tenovus ewch i www.tenovus.org.uk
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags