Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dyfarniadau Mawr gan y Loteri yng Ngwynedd

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
14 10 2008
Nid yw mynediad at hyfforddiant a sgiliau yng Ngwynedd bellach yn loteri ar gyfer y rheini sy’n wynebu rhwystrau at ddysgu, diolch i raglen newydd gan Deudraeth Cyf, a ariannir gan y Gronfa Loteri Fawr, sy'n darparu cyrsiau hyfforddi ar-lein ac ar Cd-Rom.

Mae Deudraeth Cyf, sydd wedi’i leoli ym Mhenrhyndeudraeth, wedi derbyn £249,051 o dan y rhaglen Pawb a'i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy'n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.

Bydd yr arian yn cael ei wario yn ystod y tair blynedd nesaf ar ddatblygu prosiect i gyflwyno ystod o gyrsiau hyfforddi trwy’r Rhyngrwyd, sy’n galluogi defnyddwyr i astudio ar amser ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddynt. Bydd defnyddwyr heb fynediad i'r rhyngrwyd yn gallu derbyn y cyrsiau ar CD Rom. Bydd y prosiect yn sicrhau bod cyrsiau hyfforddi o ansawdd uchel ar gael i unigolion nad ydynt, am amryw resymau, yn gallu cael mynediad at hyfforddiant trwy’r llwybrau traddodiadol.

Mae’r prosiect wedi’i anelu’n benodol at bobl sy’n profi anawsterau wrth gael mynediad at ddysgu megis colegau, oherwydd problemau gyda gofal plant, anabledd neu drafnidiaeth a bydd ganddo hefyd y bonws ychwanegol o helpu pobl nad ydynt â’r hyder i fynychu hyfforddiant grŵp ffurfiol oherwydd materion gyda sgiliau neu brofiad. Bydd y prosiect newydd gan Deudraeth Cyf yn defnyddio meddalwedd arloesol i gasglu sesiynau hyfforddi gan ddefnyddio cymysgedd o lais, fideo a chynnwys ar y sgrin er mwyn rhoi cyrsiau ar-lein ac wrth wneud hynny, cyflwyno cyfleoedd hyfforddi i gartrefi pobl, neu yn wir, lle bynnag yw'r ffordd hwylusaf iddynt gael mynediad atynt.

Ni ddylai defnyddwyr posibl y gwasanaeth gael eu camarwain gan enw’r cwmni. Er bod gwreiddiau'r cwmni nid-er-elw yn gorwedd ym Mhenrhyndeudraeth, bydd y prosiect hwn yn targedu wyth ardal ar draws Gwynedd a'i nod yw cyflwyno'r ffordd gyffrous hon o ddysgu i gynulleidfa mor eang â phosibl.

Yn hapus iawn â’r dyfarniad, dywedodd Keneuoe Morgan, Rheolwr Cyfarwyddwr Deudraeth Cyf: “Rydym wedi gweithio ar nifer o brosiectau adfywio cymunedol dros y blynyddoedd, ac rydym wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth oresgyn 'gwahaniad digidol' mewn rhai o'r ardaloedd mwy difreintiedig yng Ngwynedd. Bydd y prosiect hwn yn caniatáu i ni adeiladu ar ein gwaith gyda ‘Digital Futures’ i ddefnyddio’r dechnoleg hon er mwyn cyflwyno sgiliau a chyfleoedd i holl ardaloedd ein cymuned."

Tynnodd Ms Morgan sylw at yr angen uniongyrchol ar gyfer y math hwn o hyfforddiant. “Mae ymgynghoriad diweddar gan Deudraeth Cyf wedi dangos er bod 60% o ddefnyddwyr wedi cwblhau ein cyrsiau yn llwyddiannus, nid oedd y rheini na wnaeth eu cwblhau yn gallu gwneud hynny o ganlyniad i broblemau wrth gael mynediad at sesiynau’r cwrs eu hunain.”

Ychwanegodd: “Nid oedd pobl gydag anableddau, y rheini sy’n gofalu am eraill neu gyda materion gofal plant neu drafnidiaeth yn gallu mynychu; roeddem yn gwybod bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o fynd a'r cyrsiau at y bobl hyn ac rwy’n ymhyfrydu y bydd y grant gan y Gronfa Loteri Fawr yn galluogi i ni wneud hyn.”

Bydd y prosiect yn darparu cam cyntaf gwych, a mwy hygyrch, i hyfforddiant ar gyfer nifer o aelodau cymunedol a bydd yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda sefydliadau eraill megis Age Concern, Allgymorth Gofalwyr, Crossroads, Cymdeithas Alzheimer a Hafal, er mwyn cyrraedd cymaint o ddysgwyr â phosibl.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru.  Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.

Am wybodaeth bellach ar y rhaglenni hyfforddi a chyfleoedd a ddarparir gan Deudraeth Cyf, ymwelwch â www.deudraeth.net neu anfonwch e-bost at  keneuoe@deudraeth.net

Gwybodaeth Bellach:

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr:  02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
linell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030 Ffôn testun:  0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Cymunedau Cryfach

Categori

  • Adfywio
ADBORTH