- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 15 2 2007
Mae sglefrwyr yng nghymoedd de Cymru yn ymarfer ac yn perffeithio’u campau gan baratoi ar gyfer agoriad swyddogol eu arena sglefrio dan dô newydd.
Ar ddydd Iau Chwefror 15, bydd Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Edwina Hart, yn agor y cyfleuster newydd yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Glynrhedynog, Rhondda Cynon Tâf yn swyddogol.
Wedi’i adeiladu mewn hen ffatri ar Stad Ddiwydiannol Highfield, derbyniodd y prosiect arian gan nifer o sefydliadau, gyda’r dyfarniad mwyaf yn grant o £300,000 dan raglen Help Llaw y Gronfa Loteri Fawr. Mae arianwyr eraill yn cynnwys Adfywio’r Meysydd Glo (£60,000), Cronfa Buddsoddi Cymunedol (£25,000), Garfield Western (£20,000) a Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru (£99,214).
Sefydlwyd y parc gan drigolion lleol a oedd yn poeni wrth weld cymaint o bobl ifanc yn sefyllian o amgylch y strydoedd heb unrhyw beth i’w wneud. Mae gan y ganolfan newydd rampiau proffesiynol sy’n caniatáu sglefr-fyrddio, sglefr-rolio a marchogaeth beiciau BMX dan dô.
Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys caffi, byrddau pŵl, gemau cyfrifiadur a phêl-droed bwrdd. Bydd atyniadau yn y dyfodol hefyd yn cynnwys caffi Rhyngrwyd, offer gemau Rhyngrwyd, teledu Sky Sports a chystadlaethau gwyddbwyll. Mae’r Parc Sglefrio hefyd yn datblygu tîm ar gyfer cystadlaethau, gyda Pharciau Sglefrio yng Nghymru yn y lle cyntaf, ac yn yr Alban o fewn deuddeg mis.
Yn ystod yr agoriad, bydd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina Hart, yn mwynhau taith arbennig o amgylch y cyfleuster ac arddangosfa o gampau gan blant lleol. Gan edrych ymlaen at y lansiad, meddai: “Rwy’n falch iawn fod modd i Lywodraeth y Cynulliad gynorthwyo prosiect sydd er lles cymaint o bobl ifanc yn yr ardal wrth ddarparu’r cyfleusterau newydd hyn."
Wrth sôn am effaith y cyfleuster newydd ar y gymuned, meddai Cyfarwyddwr Ferndale Skate Park (FSP) Limited, Ruth Challoner: “Gydag ychydig iawn o lefydd i bobl ifanc gyfarfod a mwynhau gweithgareddau awyr agored, mae’r parc yn darparu noddfa ddiogel a chynnes i chwarae, sy’n galonogol i’r rhieni.
“Ers i ni agor ym mis Rhagfyr llynedd, mae bron i chwe chant o bobl ifanc wedi dod yn ymwelwyr rheolaidd yn y Parc Sglefrio ac mae’r heddlu lleol eisoes wedi nodi bod sŵn a fandaliaeth gan bobl ifanc wedi tawelu’n sylweddol, sy’n ffordd o fesur ein llwyddiant yn ei hun.”
Dyma’r prosiect cyntaf, wedi’i ariannu drwy raglen £6.2 miliwn ‘Help Llaw’ Cronfa Pobl Ifanc y Gronfa Loteri Fawr, i gael ei agor yn swyddogol yng Nghymru. Mae’r arian oddi wrth Cronfa Loteri Fawr wedi caniatáu i’r cwmni gyflogi Rheolwr Cyffredinol, Rheolwr Cynorthwyol a phum Cynorthwy-ydd llawn amser i redeg y cyfleuster, sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Gan danlinellu pwysigrwydd yr arian Loteri, meddai Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Ceri Doyle: “Mae ein arian yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc di-waith yn y gymuned hon i ennill hyder a hunan barch ac i ddatblygu sgiliau mewn awyrgylch gefnogol. Rhaglenni fel ‘Help Llaw’ sy’n cyflawni ein addewid i ddefnyddio arian Loteri er mwyn gwneud newidiadau mawr, cadarnhaol ar gyfer cymunedau fel hon.”
Am fwy o wybodaeth am raglen ‘Help Llaw’ y Gronfa Pobl Ifanc, a sut y gall eich grŵp ymgeisio am arian, ewch at wefan Cronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk
Gwybodaeth Pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Ar 28 Tachwedd, cwblhaodd Gorchymyn (Gwariant Penodedig) y Gronfa Loteri Fawr 2006 ei daith drwy’r Senedd, a daeth i rym ar ddydd Gwener 1 Rhagfyr, pan ddaeth Gorchymyn Diddymu Dosbarthwyr Loteri Genedlaethol 2006 hefyd i rym, gan ddileu Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm.
- Cronfa Loteri Fawr – y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y loteri - yw’r enw y mae Cronfa Cyfleoedd Newydd a Bwrdd Elusennol y Loteri Genedlaethol (a ddosbarthai nawdd dan enw'r Gronfa Gymunedol) yn gweithredu oddi tano ar y cyd ers Mehefin 2004.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau'r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu yr ardaloedd lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.
Tags