Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Gwersi gwerthfawr i ieuenctid Cymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
17 1 2007
BYDD pobl ifanc yn Ne Cymru yn dysgu mwy am faterion pwysig fel ymwybyddiaeth ddiwylliannol, byw’n iach, iechyd rhyw a pheryglon cam-drin sylweddau, diolch i wobr ariannol o bron i £8,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae dau brosiect yn Ne Cymru, un ym Mhen-y-bont ac un yn Sir Benfro, yn rhannu’r £7,840 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf rhaglen ‘Dyma Dy Gyfle’ y Gronfa Pobl Ifanc, sy’n dyfarnu grantiau o rwng £500 a £5,000 i brosiectau, gweithgareddau ac offer sy’n helpu i wneud newid positif i fywydau pobl ifanc rhwng 10-19 mlwydd oed yng Nghymru.  Ers 2005, mae bron i hanner miliwn o bunnoedd wedi ei ddyfarnu i 119 o brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio a’u datblygu gan y bobl ifanc eu hunain.    

Gyda’r £2,840 a dderbyniwyd ganddynt, bydd y sefydliad Base 64 yn Goodwick, Gogledd Sir Benfro, yn rhedeg prosiect arbennig i alluogi grŵp o bobl ifanc i fynychu penwythnos breswyl a chymryd rhan yn 'Baffa Baffa', gweithgaredd ymwybyddiaeth ddiwylliannol.  Mae Base 64 yn brosiect ieuenctid ar gyfer pobl ifanc rhwng 13-18 mlwydd oed ac mae’n gweithio gyda’r elusen Gymreig flaenllaw, Theatr Fforwm Cymru, i ddelio â materion sy’n wynebu pobl ifanc. Mae’r sesiynau theatr fforwm wedi ei seilio ar storiâu gwir, gwir deimladau ac maent yn amcanu i wneud gwir wahaniaethau i fywydau pobl ifanc.  

Yn hapus iawn â’r dyfarniad sylwodd Phil Morris, un o’r bobl ifanc a weithiodd ar y cais:  “Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth am wahanol ddiwylliannau ac yn arddangos beth all ddigwydd pan fyddwch yn rhoi pobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol gyda'i gilydd. Trwy amryw weithdai a gwahanol weithgareddau, bydd y prosiect yn amlinellu sut mae grwpiau gwahanol mewn cymdeithas yn gweld ei gilydd, a bydd yn ein hannog ni i gael gwell dealltwriaeth a gwell gwerthfawrogiad o wahanol ddiwylliannau. Yng ngolwg yr hinsawdd wleidyddol dynn sydd mewn rhai rhannau o’r byd heddiw, teimlaf fod gwersi pwysig iawn y gallwn eu dysgu.”

Bydd dyfarniad o £5,000 yn galluogi sefydliad Ieuenctid Bettws yn Bettws, Pen y Bont, i redeg cyfres o weithdai yn canolbwyntio ar fyw’n iach, iechyd rhywiol a cham-drin sylweddau.

Bydd y project yn cynnwys prosiect ffotograffiaeth a fydd yn diweddu gydag arddangosfa arbennig, ac a fydd yn rhoi  cyfle i bobl ifanc lleol ennill cymhwyster Rhwydweithiau Coleg Agored mewn cam-drin sylweddau a hyfforddiant aelod uwch.  Bydd yr arian hefyd yn ariannu taith adeiladu tîm ar gyfer y bobl ifanc i gyfleuster antur.

Gan amlinellu pwysigrwydd y Gronfa Pobl Ifanc, dywedodd Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Ceri Doyle: “Rydym wedi bod yn weithredol iawn wrth gefnogi pobl ifanc yng Nghymru dros y blynyddoedd ac rwy’n credu fod y Gronfa Pobl Ifanc yn wir destament i’n hymrwymiad i ddatblygiad pellach gweithgareddau i bobl ifanc ledled y wlad.  Bydd gan y prosiectau hyn fuddion pell gyrhaeddol ar gyfer pobl ifanc yn sir Benfro a sir Pen y Bont ar Ogwr.”

Am wybodaeth bellach am y prosiectau, ac am fanylion cyswllt ar gyfer y grwpiau a’r sefydliadau cysylltiedig, cysylltwch â Swyddfa Wasg Cymru y Gronfa Loteri Fawr dros e-bost neu ar y rhifau cyswllt isod.

Am wybodaeth bellach ar y Gronfa Pobl Ifanc ac am sut y gall eich grŵp ymgeisio am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio sy’n benodol ar gyfer ‘Cymru’. Fel arall gallwch ffonio’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.

Gwybodaeth Pellach

Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i Oriau Swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun:  845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Ar 28 Tachwedd cwblhaodd Gorchymyn y Gronfa Loteri Fawr 2006 (Gwariant Penodedig) ei daith Seneddol a daeth i rym ar Ddydd Gwener 1 Ragfyr ar yr un amser ac y daeth y Gorchymyn Diddymu Dosbarthwyr y Loteri Genedlaethol 2006 i rym gan ddiddymu Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol) y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a Chomisiwn y Mileniwm.
  • Y Gronfa Loteri Fawr - y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri - yw’r enw y mae’r Gronfa Cyfleoedd Newydd a Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (a arferai ddosbarthu grantiau o dan enw’r Gronfa Gymunedol) wedi bod yn gweithredu oddi tano ers Mehefin 2004.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau'r cyrff cyfun i symleiddio ariannu yn y meysydd hynny lle maen nhw’n gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn cynnig y gwerth gorau posibl am arian.

Tags

Buddiolwyr

  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Pobl Ifanc
ADBORTH