- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arian i Bawb Cymru
- Release date:
- 24 1 2012
Mae pobl ifanc sy'n cael eu hecsbloetio gan usurwyr, plant ag anghenion arbennig a phobl ifanc ddigartref a di-waith ymysg yr ystod o grwpiau ledled Cymru sy'n rhannu bron £180,000 a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr heddiw.
At ei gilydd bydd 48 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £192,473 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen grantiau bach, Arian i Bawb (cliciwch yma i weld rhestr lawn o
ddyfarniadau
- 60KB).
Bydd gan bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghaerdydd sydd ar fin, neu eisoes yn, benthyg gan usurwyr a benthycwyr anfoesegol eraill, rywun i droi atynt am gyngor a chefnogaeth diolch i'r £4,900 a ddyfarnwyd i Gwmni Buddiant Cymunedol Fresh Ideals yng Nghaerdydd. Trwy brosiect y Gweithdy Benthyciadau i Bobl Ifanc, a fydd yn dechrau ymhen chwe wythnos, bydd y grwp yn cynnig mentora gan gymheiriaid ar gyfer pobl ifanc gan bobl ifanc.
Bydd y prosiect yn hyfforddi 30 o bobl ifanc o ardaloedd Butetown, Grangetown a Riverside y ddinas yn ogystal â phobl ifanc o'r gymuned ehangach, i weithredu fel mentoriaid cymheiriaid. Cynhelir y cymorthfeydd unwaith yr wythnos yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd, gyda sesiynau bore a phrynhawn yn gweld isafswm nifer o wyth person y dydd. Bydd astudiaethau achos ac awgrymiadau hefyd yn hygyrch drwy wefan ar gyfer pobl ifanc sy'n dioddef o'r un problemau. Mae'r prosiect yn gobeithio y gall hyn fod yn fodel i'w gyflwyno ar draws Cymru.
Gan amlygu'r angen am y prosiect, meddai, Mr Ashish Poddar, Rheolwr y Prosiect, Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad i gyllid prif ffrwd, felly mae angen i ni sicrhau atebion ymarferol fel bod pobl ifanc yn cadw i ffwrdd o fenthycwyr anfoesegol neu usurwyr sy'n benthyg ar gyfraddau llog uchel. Mae'r prosiect yma'n bodoli i helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau da ynglyn â benthyg arian ac i'w helpu i ddatrys unrhyw sefyllfaoedd ariannol anodd sydd ganddynt. Mae'n anfon neges y gall pobl ifanc fod wrth wraidd newidiadau cadarnhaol."
Mae cynllun chwarae ar ôl ysgol newydd i blant ag anghenion arbennig yng Nghaerdydd hefyd yn dathlu ar ôl sicrhau grant o £4,875. Bydd Clwb Ar Ôl Ysgol Grwp Gweithredu Hollies yn defnyddio'r arian i redeg sesiynau Boccia a sesiynau Therapi Cyffwrdd ar gyfer plant sy'n mynychu'r clwb a leolir yn Ysgol Arbennig The Hollies ym Mhentwyn. Mae Boccia yn gamp i athletwyr y mae angen cadair olwyn arnynt oherwydd anabledd corfforol. Ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys therapi adlam, karate, therapi cyfannol, dawns a symud, byddant yn cael sesiwn therapi cyffwrdd, a fydd yn helpu'r plant i ymlacio gyda cherddoriaeth dawel a goleuadau a theganau synhwyraidd.
Mae Mrs Maria Carey yn Ymddiriedolwr ac yn Drysorydd yng Nghlwb Ar Ôl Ysgol Grwp Gweithredu Hollies Mae awtistiaeth gan ei mab Jack, sy'n 11 oed, ac mae eisoes yn manteisio ar fynychu'r clwb, sy'n paratoi i ddathlu ei ben-blwydd gyntaf ar 11 Ebrill eleni.
"Mae'r ariannu hwn yn llinell fywyd i gadw'r clwb yn mynd," meddai Maria.
"Ni all plant ag anghenion arbennig gael mynediad i glwb ar ôl ysgol gyda'r fath wasanaethau unrhyw le arall yng Nghaerdydd. Mae'r prosiect yma'n creu buddion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion arbennig ym mhob cwr o'r ddinas. Mae'n rhoi cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol megis karate, ac mae'r hyn y mae eisoes wedi'i wneud i hyder ac iechyd corfforol rhai plant wedi bod yn syfrdanol."
Ychwanegodd: "Mae fy mab Jack wedi dod yma ers y diwrnod cyntaf ac mae'n gallu mynegi ei hun drwy ddawns. Ni fyddai'n gallu mynd i grwpiau dawns prif ffrwd, ond yma mae'n cael cyfle i roi cynnig arni heb fod pawb yn edrych arno fel person sy'n wahanol."
Yng Ngogledd Cymru mae Sir Ddinbych yn elwa o dri grant gwerth cyfanswm o £10,552. Gyda'u dyfarniad o £2,719, bydd mudiad Cyfeillion Cae Ddol yn cyflwyno prosiect graffiti cymunedol. Bydd y prosiect Young Graffiti artists make a mark on their Skatepark yn hurio arlunydd graffiti i weithio gyda phobl ifanc yn Rhuthun sy'n defnyddio parc sglefyrddio'r dref i greu murlun ar hyd ochrau a chefnau'r rampiau. Bydd yr arlunydd yn gweithio gyda'r bobl ifanc dros wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol i ddatblygu thema gyda nhw a rhoi cyfle iddynt ymarfer arddulliau gwahanol. Yn olaf bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gallu trosglwyddo eu brasluniau i rannau o'r parc sglefyrddio.
Meddai Mrs Nicola Kneale o Gyfeillion Cae Ddol: “Yn ogystal â dysgu sgiliau newydd bydd y bobl ifanc yn gallu gweithio tuag at rywbeth a fydd yn weladwy o fewn y gymuned am flynyddoedd i ddod.”
"Trwy ddarparu'r prosiect hwn, yn ogystal â gwella ymddangosiad eu hardal leol, bydd y bobl ifanc sy'n byw yn Rhuthun hefyd yn cael ymdeimlad o berchnogaeth, cyflawniad a pherthyn i'w tref eu hunain."
Yn Abertawe mae prosiectau i gefnogi pobl ifanc ddi-waith a digartref yn cael yr holl sylw. Bydd y grwp Magnetic Footsteps yn gwario'r £5,000 a ddyfarnwyd iddo ar gynnal gweithdai cerdd a pherfformio cyhoeddus am ddim gyda phobl ifanc ddi-waith ar draws y ddinas. Trwy ddarparu gweithdai un awr bob wythnos mewn rhannu amrywiol o Abertawe, mae'r grwp yn gobeithio symbylu oedolion ifanc drwy gynhyrchu cerddoriaeth a fydd, yn ei dro, yn eu helpu i gaffael sgiliau gwaith tîm a chreu cysylltiadau o fewn y gymuned. Bydd y sesiynau, sydd i ddechrau ym mis Mawrth, yn agored i unrhyw un sydd am ddod, ond mae'r grwp yn anelu'n bennaf at ymgysylltu ag oedolion ifanc difreintiedig sy'n ddi-waith. Bydd y prosiect yn cydweithio'n agos â'r ganolfan ieuenctid a digartrefedd a fydd yn cynyddu ymwybyddiaeth ymwelwyr rheolaidd o'r gweithdai.
Meddai Mr John Sandberg, Cadeirydd y prosiect Magnetic Footsteps: "Dw i'n cerddor brwd fy hun ac yn ymwybodol o'r problemau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu y dyddiau hyn. Y gobaith yw y bydda i'n cyflwyno pobl ifanc i ddeinameg newydd yn hytrach na'u gweld yn troi at gamddefnyddio sylweddau ac arferion dinistriol eraill i lenwi eu hamser. Dw i'n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn helpu i bortreadu pobl ifanc yn well, gan iddynt gael cryn dipyn o sylw gwael yn ddiweddar yn sgil terfysg yr haf. Rwy'n credu bod y terfysg hwnnw wedi amlygu'r diffyg darpariaeth ar gyfer pobl ifanc mewn llawer o'n cymunedau."
Ychwanegodd: "Trwy ddarparu'r gweithdai hyn, gobeithiwn leihau nifer y bobl ifanc sy'n lolian o gwmpas ar y strydoedd a darparu prosiect ar eu cyfer sy'n rhoi cyfle iddynt fagu diddordeb ac ehangu eu galluoedd eu hunain. Teimlwn y bydd yr unigolion hyn yn elwa o gynyddu eu hunan-barch ac y bydd y prosiect yma yn rhoi'r hyder iddynt y mae ei angen i chwilio'n weithredol am swyddi a lleihau'r angen am gyflawni troseddau."
Gyda'u dyfarniad o £1,900, bydd Cymdeithas Trigolion Dinas Fechan yn Abertawe yn darparu rhaglen o weithgareddau cymdeithasol ar gyfer pobl sy'n byw mewn hostel i'r digartref. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys cerdded, dringo, saethyddiaeth, pysgota a bowlio ynghyd â gwibdeithiau i leoedd gan gynnwys Amgueddfa Werin Sain Ffagan a Bae Caerdydd.
Meddai Ms Donna Davies: “Mae ein trigolion i gyd wedi bod yn ddigartref, mae'r rhan fwyaf yn ddi-waith ac maent yn aml wedi’u heithrio o gymdeithas. Mae llawer wedi colli hyder ar ôl gweithio ar hyd eu hoes ac mae eraill wedi profi trais domestig, chwalfa deuluol, profedigaeth, tlodi neu gamddefnyddio sylweddau."
“Bydd y prosiect hwn yn eu galluogi i gydweithio i leddfu eu pryderon a gwella'u ffordd o fyw, gan arwain at well iechyd corfforol a lles a fydd yn eu galluogi i integreiddio i'r gymuned ehangach.”
Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”
Gellir lawrlwytho ffurflen ymgeisio'r rhaglen, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ei chwblhau a'i dychwelyd yn uniongyrchol drwy e-bost i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae hefyd ar gael ar ffurf copi caled.
Mae ffurflenni ymgeisio ar gael drwy fynd i www.arianibawb.org.uk neu ffonio 0845 4 10 20 30.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags