Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cymunedau Cymru ar y blaen yn y ras iach

Area:
Cymru
Release date:
10 7 2008
Mae cyfleusterau chwaraeon sydd wedi eu hariannu gan y Loteri yng Nghymru yn galluogi cymunedau i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon ac yn gwneud Iddynt deimlo yn fwy balch o’u hysgolion a ble maent yn byw, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae’r adroddiad annibynnol ar raglen Cyfleoedd Newydd ar gyfer AG a Chwaraeon gwerth £750miliwn y Gronfa Loteri Fawr, a’i gynhaliwyd gan Bartneriaeth Loughborough, wedi dod i’r casgliad fod y cyfleusterau newydd a’i hariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr, yn cynnwys neuaddau chwaraeon, canolfannau gweithgaredd awyr agored, stiwdiâu dawns, a chyrtiau awyr agored yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru.  Mae’n agos at £50 miliwn o arian y loteri ar gyfer cyfleusterau chwaraeon wedi ei rannu o amgylch Cymru o’r pot ariannu.  Gan gefnogi dros 190 o gyfleusterau newydd, hwn yw’r buddsoddiad loteri mwyaf mewn chwaraeon i ddod i Gymru.

Mae’r canfyddiadau gan y Gronfa Loteri Fawr yn dangos fod cyfleusterau a ariannwyd gan y rhaglen Cyfleoedd Newydd ar gyfer AG a Chwaraeon yn gwella ansawdd AG, yn cynnwys gweithgareddau allgyrsiol amser cinio, sy’n cael ei manteisio arnynt gan bobl ifanc yng Nghymru.  Mae hyn yn ategu at raglen Chwaraeon Ysgolion Uwchradd 5 x 60’ Cynulliad Cymru sydd â’r nod o gynyddu’r swm o chwaraeon a gweithgaredd corfforol y bydd disgyblion ysgolion uwchradd yn ei gyflawni.  Mae’r rhaglen Cyfleoedd Newydd ar gyfer AG a Chwaraeon hefyd yn ategu at Dringo’n Uwch - Camau Nesaf Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd yn strategaeth hir dymor ar gyfer Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf.   

Mae prif ganfyddiadau’r gwerthusiad yn dangos fod y nifer cyfartalog o ddefnyddwyr cymunedol yng Nghymru wedi cynyddu o 62 i 94 ar gyfer prosiectau bach ag o 167 i 300 ar gyfer prosiectau mwy, gyda dim ond 10% o brosiectau yng Nghymru yn nodi fod eu cyfleusterau yn addas i’r gymuned cyn eu hagor, o’i gymharu â 76% ar ôl agor.  Mae presenoldeb mewn gweithgareddau allgyrsiol yn ystod amser cinio wedi cynyddu 67% ar gyfer bechgyn a 38% ar gyfer merched yn gyffredinol.  

Dangosodd pob prosiect welliannau yn ansawdd profiadau AG disgyblion mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys mwy o ddewis o weithgareddau, cynnydd yng nghymhelliant disgyblion a staff, cynnydd mewn cynllunio gwersi AG a gwelliant ym mhroffil a statws AG o fewn yr ysgol.  Mae cyfleusterau a’u hariannwyd gan Cyfleoedd Newydd ar gyfer AG a Chwaraeon hefyd yn gwella’r swm o AG y mae pobl ifanc yng Nghymru yn cymryd rhan ynddo ac mae ethos cryf o weithio mewn partneriaeth gyda phrosiectau ar draws y wlad.  

Mae’r arian hefyd wedi dod ag ysgolion a chymunedau yn agosach, ac mae wedi bod o fudd arbennig i bobl ifanc yn ardaloedd difreintiedig Cymru. Mae disgyblion wedi adrodd fod cyfleusterau a’u hariannwyd gan Cyfleoedd Newydd ar gyfer AG a Chwaraeon hefyd yn cael effaith bositif ar eu rhieni.   Adroddodd dros 40 y cant o ddisgyblion fod aelodau o’u teulu hefyd yn defnyddio’r neuaddau chwaraeon a mannau awyr agored newydd.  

Yng Ngwanwyn 2007, dadorchuddiwyd canolfan chwaraeon newydd gwerth £2.5m yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Cyfrannodd y Gronfa Loteri Fawr £900,000 tuag at y prosiect, a’i sefydlwyd yn dilyn ymgyrch 20 mlynedd am well cyfleusterau chwaraeon, a’i arweiniwyd gan y cyn ddirprwy brifathro, Idris Alan Jones. Mae’r cyfleusterau yn y ganolfan newydd yn cynnwys neuadd chwaraeon pedwar cwrt, sydd yn cael ei ddefnyddio fel canolfan ragoriaeth ar gyfer criced, gyda rhwydi ymarfer llawn a phadiau sioc bowliwr wedi eu gosod yn y llawr. Mae’r neuadd wedi ei chyfarparu ar gyfer pêl droed pump bob ochr, pêl fasged a badminton.  Mae gan y cyfleuster hefyd swît ffitrwydd wedi ei aerdymheru yn llawn, sy’n cynnwys amrediad eang o offer yn ogystal â stiwdio holistig, sy’n cael ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau o loga i ddosbarthiadau dawns.  

Ers i’r cyfleuster agor, mae’r ysgol wedi gweld cynnydd anferthol yn y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon.   Mae’r ganolfan hefyd wedi profi’n boblogaidd gyda’r gymuned, a all ddefnyddio’r cyfleusterau ar ôl 5pm ac ar benwythnosau.  

Yn hapus iawn â’r cyfleusterau newydd, dywedodd Pennaeth Addysg Gorfforol yn Ysgol David Hughes, Gethin Môn Thomas: “Mae’r cynnydd mewn cyfranogiad wedi bod yn sylweddol ers i’r cyfleusterau newydd fod mewn lle ac mae brwdfrydedd dros chwaraeon yn gyffredinol wedi cynyddu hefyd.  Mae llawer llai o ddisgyblion yn defnyddio esgusodion dros beidio â gwneud AG yn awr gan y gallant ddefnyddio’r cyfleusterau gwych yma a chael mwy o ddewis o weithgareddau.”

Ychwanegodd: “Yn gyffredinol, mae’r ganolfan chwaraeon wedi gwneud gwahaniaeth anferth i’r ysgol ac mae wedi newid ffordd o feddwl disgyblion sy’n wirioneddol gyffrous i ddefnyddio’r cyfleusterau yma.”

Gan bwysleisio pwysigrwydd y rhaglen yma, dywedodd Cyfarwyddwr Cymru’r Gronfa Loteri Fawr, Ceri Doyle: “Mae’r arian yma yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd, lles ag ysbryd cymunedol miloedd o bobl ledled Cymru, gyda mwy o amser cwricwlwm wedi cael ei roi i AG, mwy o gyfranogiad mewn gweithgareddau allgyrsiol, a dwbl y defnydd cymunedol.“

Ychwanegodd: “Mae cyfleusterau syfrdanol mewn llefydd sydd wedi gwir frwydro yn y gorffennol i hyd yn oed feddwl am brynu offer chwaraeon - heb son am gael mynediad at ganolfannau y mae’r gymuned gyfan yn teimlo’n falch ohonynt ac sy’n dod a theuluoedd ynghyd.”

Mae’r adroddiad ar gael i’w lawr lwytho o wefan y Gronfa Loteri Fawr yn www.cronfaloterifawr.org.uk o ddydd Llun, 7 Gorffennaf 2008..

I gael lluniau, gwybodaeth bellach am brosiectau yn eich ardal neu i drefnu cyfleoedd tynnu llun, cyfweld neu ffilmio, cysylltwch â swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod os gwelwch yn dda.  

Further information

Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr– Deian Creunant: 01686 611 705
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07717 513 418
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Lansiwyd y rhaglen Cyfleoedd Newydd ar gyfer AG a Chwaraeon yn Nhachwedd 2002.  Roedd cyfanswm o £750.75 miliwn ar gael ar gyfer y rhaglen ledled y DU. Hyd yn hyn, mae 2,980 o gyfleusterau wedi eu hariannu ar draws y DU, gan amrywio o ganolfannau gweithgaredd awyr agored i gyfleusterau newydd neu wedi eu hadnewyddu mewn ysgolion.  Mae’r arian ar gyfer y rhaglen yn awr wedi ei ymrwymo.  
  • Mae’r gwerthusiad o Cyfleoedd Newydd ar gyfer AG a Chwaraeon a gynhaliwyd gan Bartneriaeth Loughborough i’r Gronfa Loteri Fawr wedi seilio’r ffigyrau ar gyfartaledd o un flwyddyn ar ôl i bob cyfleuster agor. Mae’r un flwyddyn yn wahanol ar gyfer pob prosiect oherwydd dyddiad dechrau’r prosiect.
  • Dyfarnwyd £30 miliwn i’r Football Foundation ar gyfer prosiectau sy’n arbennig ar gyfer pêl droed.  
  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Buddiolwyr

  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH