Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dod drwyddi: Prosiectau adfywio gwledig cymru'n cofio'r flwyddyn gyntaf o fusnes

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
12 10 2012

Blwyddyn ar ôl iddynt ymddangos ar brif gyfres deledu y BBC, mae tair menter gymunedol yng Nghymru a dderbyniodd dros £400,000 yr un gan y Gronfa Loteri Fawr yn datgelu sut maen nhw wedi goroesi'r dirywiad economaidd a thywydd gwael yr haf er mwyn sicrhau goroesiad eu mentrau busnes cymunedol.

Ym mis Mai 2010, dyfarnwyd £400,000 gan y Loteri Genedlaethol i elusen Ty Talcen yn Sir Gâr ac i brosiectau Ashfield Community Enterprise Ltd (ACE) a Melin Talgarth ym Mhowys trwy Pentref SOS, cynllun a redir gan y Gronfa Loteri Fawr a'r BBC gyda'r nod o ysbrydoli adfywiad gwledig ar draws y DU.

Cafodd cynnydd mentrau busnes yr elusen Ty Talcen yn Sir Gâr a phrosiect Melin Talgarth ym Mhowys ei ffilmio gan y BBC ar gyfer Village SOS, cyfres deledu oriau brig a ddarlledwyd y llynedd. Roedd Ashfield Community Enterprise Ltd ym Mhowys yn rhan o Ymgyrch Ddysgu Pentref SOS hefyd, sy'n cyd-fynd â'r gyfres deledu ar BBC One.

Blwyddyn ar ôl i'r camerâu a'r cyflwynydd teledu ac entrepreneur, Sarah Beeny, eu gadael i fwrw ati, aethom yn ôl i'r prosiectau i weld sut maent wedi dod yn ei flaen yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fusnes.

Felly, oedd hi'n flwyddyn lawn hud i Fyddfai?

Yn Sir Gâr, mae'r gweithwyr prosiect y tu ôl i elusen Ty Talcen a Myddfai Ty Talcen Cyfyngedig wedi bod yn gweithio'n ddiwyd ym mhentref Myddfai.

Mae Cwmni Masnachu Myddfai Cyfyngedig, cwmni sy'n rhannu'r un amcan menter gymdeithasol o adfywio â'r elusen, wedi datblygu Brand Myddfai ymhellach. Mae ystod gyfan newydd o gynnyrch Cwmni Masnachu Myddfai yn cael ei gwerthu o dan y brand. Mae eu hystod o gynnyrch yn cynnwys te perlysiau, sebon moethus a nwyddau harddu seiliedig ar blanhigion yn ogystal â nwyddau cegin a chrefftau a rhoddion.

I farchnata'r pentref fel cyrchfan ar gyfer seibiannau llesol a gwyliau eraill i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gwnaeth y prosiect ddymchwel yr hen neuadd pentref adfeiliedig y llynedd hefyd er mwyn adeiladu Canolfan Ymwelwyr a Dehongli newydd sy'n cynnwys menter gymdeithasol, siop, caffi ac awditoriwm, gan ddarparu canolbwynt hollbwysig i drigolion gymdeithasu a cyrchfan ar gyfer twristiaid yn yr ardal.

Gyda'r cynnyrch yn prysur hedfan oddi ar y silffoedd, mae Cwmni Masnachu Myddfai wedi symud bellach i adeilad masnachol mwy ychydig y tu allan i Langadog er mwyn datblygu, pecynnu a dosbarthu eu holl gynnyrch yn effeithiol. Mae eu cwsmeriaid rheolaidd yn cynnwys CADW, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chanolfan Mileniwm Cymru, ac maen nhw hefyd wedi cyflwyno ystod newydd o gynnyrch ymolchi sy'n cael ei werthu'n lleol mewn gwestai a gwestai bach - gyda'r bwriad o ehangu y tu hwnt i'r ardal yn y dyfodol. Yn ei flwyddyn gyntaf, mae'r prosiect wedi ennill llu o wobrau twristiaeth a busnes lleol a chenedlaethol hefyd.

Wrth edrych yn ôl ar eu blwyddyn gyntaf o fasnachu, dywedodd Hugh Davies, Arweinydd y Prosiect ac un o Gyfarwyddwyr Cwmnïau Myddfai: “Mae ein brand wedi cael ei groesawu'n frwd ledled Cymru, a newidiwyd y dimensiwn masnachol fel mai Cwmni Masnachu Myddfai sydd â gofal yr holl agweddau masnachol ar werthu'r nwyddau brand, ac mae Mike Hill, y Cyfarwyddwr Rheoli, yn gwneud gwaith ysgubol.”

“Daw'r siop yn y ganolfan o dan yr elusen Ty Talcen erbyn hyn, ac mae'n cael ei rhedeg fel menter gymdeithasol weithredol o'r enw Myddfai Ty Talcen ochr yn ochr â Chwmni Masnachu Myddfai. Mae Myddfai yn dod yn adnabyddus oherwydd ei chynnyrch a'i chanolfan newydd hyfryd. Mae dros bum deg o fusnesau bach unigol bellach yn gwerthu o'r siop. Rydym yn gwerthu cynnyrch y cwmni masnachu i'r siop yn y ganolfan, sy'n elwa o'r ychwanegiad masnachol. Mae'r siop, y ganolfan a'r caffi i gyd yn gwneud elw cymedrol, ac mae hynny'n wych. Mae llawer o hyn oherwydd ein tîm syfrdanol o wirfoddolwyr."

Ers agor ym mis Mehefin y llynedd, mae tua 8,000 o ymwelwyr o bedwar ban y byd wedi dod i'r ganolfan; mae tair swydd newydd wedi'u creu ac erbyn hyn mae oddeutu chwe deg wedi ymrwymo i wirfoddoli. Mae'r ganolfan yn ffynnu hefyd o ran cynnal digwyddiadau cymunedol, gwleddoedd priodas, cynadleddau a sioeau â ffi mynediad.

"Rydym am ymwneud yn fwy â phriodasau a chynadleddau gan eu bod â'r potensial i ennill cryn dipyn o arian i ni," meddai Hugh.

"O safbwynt economaidd, mae ein heriau'n rhai beunyddiol ond rydym yn ffynnu er gwaetha'r tywydd dros yr haf. Mae pawb yn gweithio'n galed yn gyson i werthu ac i wneud y ddwy elfen o'r prosiect yn gynaliadwy. Mae'n heriol ond rydym yn dal i sefyll ar ein traed gyda dau gwmni sy'n ffynnu, brand y mae parch mawr tuag ato, a chyrchfan syfrdanol.”

A wnaeth Melin Talgarth sefyll yn stond neu dderbyn yr her?

Defnyddiodd prosiect Melin Talgarth Mill yn nhref Talgarth, Powys, eu hariannu i adnewyddu hen felin ddwr o'r 18fed ganrif yn y dref a'i hadfer fel melin flawd gynhyrchiol a chaffi er mwyn cynhyrchu nwyddau popty a'u gwerthu yn yr ardal leol. Gall ymwelwyr fwynhau teithiau tywysedig o gwmpas y felin ac mae bwthyn yr hen felin wedi cael ei drawsnewid i siop sy'n cael ei gosod i fusnes lleol fel rhan o'u hamcanion i annog busnesau bach a lleol i ddatblygu. Mwynhaodd y prosiect lwyddiant ysgubol ar ôl ymddangos ar y gyfres deledu, ond sut maen nhw'n ymdopi blwyddyn ar ôl i'r ffilmio ddod i ben?

Cyrhaeddodd y prosiect rowndiau terfynol Gwobrau Busnes Powys yn ddiweddar ac fe’i arddangoswyd hefyd yn y cylchgrawn World Travel Guide, yn gwneud argraff dda gyda'u cynnyrch popty. Ond a yw popeth wedi mynd yn ei flaen yn hwylus?

Meddai Chris Blake, Aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr ym Melin Talgarth: “Cawsom hwb enfawr yn sgil y rhaglen deledu a barhaodd tua thri mis, roedd ymwelwyr yn ciwio allan o'r drws. Ni chawsom gynifer o ymwelwyr ag yr oeddem yn eu disgwyl yr haf yma ond doedden ni ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl, nid oeddem yn gwybod sut y byddai haf cyffredin heb y rhaglen deledu. Roeddem ychydig i lawr ar yr hyn a oedd yn y gyllideb eleni, ond ychydig dros flwyddyn ar ôl i ni agor rydym wedi croesawu dros 17,000 o ymwelwyr i'r felin."

Erbyn hyn mae'r prosiect yn defnyddio'r blawd y maent yn ei felino i gynhyrchu ystod o nwyddau popty yn y caffi ac mae'r blawd a'r bara hefyd yn cael eu gwerthu i ymwelwyr, bwytai, caffis a siopau fferm.

"Nid yw wedi bod yn haf da i dwristiaid ond mae wedi bod yn haf da iawn ar gyfer melino gyda'r holl ddwr yn troi'r olwyn ddwr," meddai Chris

Fodd bynnag, mae'r tîm wedi cyflogi Rheolwr newydd ac erbyn hyn mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol gan gynnwys cyrsiau pobl a melino y codir tâl amdanynt, a chynlluniau i ehangu'r defnydd o'r lleoliad fel cyfleuster cynadledda a chyfarfodydd.

"Yn gweithio ar y cyd gyda Neuadd y Dref drws nesaf rydym wedi cynnal nosweithiau Ffilm a Pizza llwyddiannus," meddai Chris.

“Codwyd deg punt am docyn ffilm a pizza - cynnig gwrth-ddirwasgiad sydd wedi bod yn hynod o boblogaidd.”

Yn y bôn, cyrchfan dwristiaid ydym ni ac mae angen i ni wneud arian yn yr haf. Mae cynyddu'r refeniw y tu allan i'r cyfnodau prysur yn her, ond rydym yn cael cryn nifer o deithiau coets yn galw heibio erbyn hyn. Mae mwy y gallwn ei wneud, ond mae'n gweithio'n dda."

“Mae'n rhaid bellach i ni gwrdd â'r her o adeiladu busnes twristiaeth hir dymor cynaliadwy mewn tref fach. Dyma'r amcan dros y deng mlynedd nesaf - cael trefn ar y marchnata a datblygu mwyfwy o gysylltiadau busnes. Mae wedi bod yn waith caled, ond dyna'r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl. Rydym yn edrych ymlaen at yr haf nesaf nawr, gan obeithio na fydd yn foddfa lwyr eto."

A wnaeth Ashfield dyfu eleni?

Ym mhentref Hawy, ger Llandrindod, defnyddiodd gwirfoddolwyr yn Ashfield Community Enterprise Ltd (ACE) eu hariannu i ailddatblygu planhigfa goed adfeiliedig leol a'i thrawsnewid i ardd lysiau ffyniannus sy'n eiddo i'r gymuned. Mae'r prosiect yn cynnig cyfleusterau tyfu er mwyn i'r gymuned leol gynhyrchu bwydydd lleol a'u gwerthu o dan frand Ashfield. Fel rhan o'r cynllun, mae ty ar y safle wedi cael ei adnewyddu a'i rentu i bobl leol.

Ar ôl profi un o'r gaeafau oeraf a hafau gwlypaf o fewn cof diweddar, bu'n rhaid i wirfoddolwyr a gweithwyr Ashfield frwydro yn erbyn y tywydd trwy'r amser i sicrhau bod y fenter a'r cnydau'n goroesi. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i Ashfield ond mae'r fenter yn dal i fwrw 'mlaen ac mae ganddi gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.

Yn amlygu'r cynnydd a wnaed a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol, meddai Ysgrifennydd ACE Ltd, Mag Richards: “Mae yna rhai pethau anodd ar y gweill, ond rydym yn gwneud yn iawn ar hyn o bryd. Nid yw hyn yn beth syml ac rydym ni'n cael uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Mae'n lwcus bod gennym dwneli polythen, oherwydd fel arall bydden ni wedi'i chael hi eleni. Mae ein twneli'n llawn cynnyrch ac mae ein planhigion yn gwneud yn dda. Rydym bellach yn arbenigo mewn tyfu planhigion lluosflwydd gwydn a all dyfu yn hinsawdd oer a gwlyb Sir Faesyfed ac rydym wedi dechrau gwerthu blodau parod hefyd."

“Dechreuom gydag un ar ddeg o ffrydiau incwm potensial, rydym wedi cwrdd â'n targedau gyda rhai ohonynt, a chydag eraill dydyn ni ddim. Mae wedi bod yn dipyn o frwydr. Yn ei hanfod rydym am fwyafu ein hincwm trwy ddod o hyd i syniadau a nwyddau newydd, oherwydd bod yn rhaid i chi fod yn eithaf hyblyg ac ymatebol i'r farchnad leol."

Un o lwyddiannau mwyaf Ashfield yw mai nhw yw'r Ymddiriedolaeth Tir gymunedol gyntaf yng Nghymru i gyflwyno tai fforddiadwy: “Gwnaethom drawsnewid y ty ar y tir i ddau fflat ac erbyn hyn rydym wedi'u rhoi ar osod fel tai fforddiadwy sy'n cynhyrchu incwm,” meddai Mag.

Ac mae Ashfield wedi mwynhau llwyddiannau niferus eraill. Erbyn hyn mae grwpiau ac unigolion lleol yn rhentu lleoedd ar y safle i fynd ati i dyfu ac maen nhw wedi creu sylfaen gwsmeriaid gref ar gyfer eu hystod o ffrwythau, llysiau, planhigion a blodau.

Maen nhw bellach yn cadw stondin farchnad wythnosol i werthu cynnyrch, ac wedi sicrhau contract sefydledig gyda siopau bwyd iechyd lleol i werthu eu planhigion a'u perlysiau.

“Ein cyflawniad pennaf hyd yn hyn i mi yw prynu'r safle, ei adnewyddu a gweld pobl yn prynu eu cynnyrch,” meddai Mag.

Erbyn hyn mae'r prosiect eisiau amrywiaethu a datblygu marchnadoedd a phartneriaethau newydd o gwmpas ei gynnyrch, gan gynnwys datblygu ystod o fwydydd cadw.

"Gallwch gynyddu eich stoc gyda bwyd cadw megis siytni, jam a sudd," meddai Mag.

Gobeithiwn ddatblygu rhai nwyddau newydd trwy raglen rhwng y cenedlaethau lle byddwn yn cyfweld â phobl hyn yn yr ardal sy'n cofio sut y buont yn arfer cadw bwyd. Bydd gennym gegin brosesu newydd, a gobeithiwn y bydd pobl yn ei defnyddio i ddatblygu eu microfusnesau eu hunain a ffyrdd o gadw ffrwythau a llysiau fel yr oeddent yn arfer ei wneud yn yr hen ddyddiau."

Gan fyfyrio ar eu blwyddyn gyntaf, ychwanegodd Mag: "Mae wedi bod yn llafurus, yn gyffrous ac yn heriol. Yr her fwyaf yw cydbwyso cynhyrchu incwm yn erbyn cyfranogiad cymunedol ystyrlon a gweithio gyda gwirfoddolwyr. Mae gennym gryn dipyn o ffordd i fynd o hyd ac fe hoffem ddenu mwy o bobl a gwirfoddolwyr i'r safle. Yn hytrach na gwneud llawer o arian, ein nod pennaf yw gwneud digon o arian i gynnal cyfranogiad y gymuned a chadw'r staff sydd gennym ni."

I gael mwy o wybodaeth am Pentref SOS mewngofnodwch i www.villagesos.org.uk

Mwy o Wybodaeth:

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207

Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431

Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735

Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Yr Amgylchedd
ADBORTH