Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cymunedau Cymru yn gweithredu trwy bawb a’i le

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
11 6 2008
Bydd grŵp yn Ne Cymru yn ehangu ar wasanaethau cyfleuster beicio ar gyfer pobl anabl a bydd tref yng Ngogledd Cymru yn ymuno â'r tonfeddi trwy sefydlu gorsaf radio gymunedol newydd, diolch i gyfran o ymron i £3 miliwn a gyhoeddir heddiw trwy raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr.

Mae cyfanswm o £2,957,522 wedi’i ddyfarnu i un ar bymtheg o brosiectau ar draws Cymru, ac mae pob un ohonynt yn anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach a gwella amgylcheddau gwledig a threfol.

Ym mhrif ddinas Cymru, Caerdydd, bydd tri o brosiectau yn rhannu cyfanswm o £445,248 a ddyfarnwyd. Mae un o’r grwpiau a ariannir, Friends of Pedal Power Project Ltd, yn darparu mynediad at gyfleoedd beicio ar gyfer pobl gydag anableddau. Mae’r cyfleuster yn caniatáu i feicwyr a’u gofalwyr gael mynediad at Barc Bute yng Nghaerdydd a Llwybr Taf a mwynhau pleser beicio wrth wella eu hiechyd, eu sgiliau, eu hyder a’u hunan-barch. Bydd grant sy’n gwneud cyfanswm o £188,161 bellach yn caniatáu i'r grŵp ehangu ar ei wasanaethau trwy reoli a datblygu staff a gwirfoddolwyr, a hyrwyddo’r cyfleusterau beicio sydd ar gael i deuluoedd ifanc, pobl hŷn, pobl ag anableddau ac amrywiaeth o sefydliadau lleol.  Ym mis Mawrth eleni, fe wnaeth y prosiect hefyd agor cyfleuster £300,000 newydd, diolch i'r Gronfa Loteri Fawr, er mwyn stori beiciau arbenigol.

Mae tri phrosiect yng Ngogledd Cymru hefyd yn rhannu mewn cyfanswm o £636,103 a ddyfarnwyd. Bydd grant o £79,119 yn galluogi i Landudno Community Radio Limited sefydlu gorsaf radio gymunedol ar gyfer y dref glan môr Fictorianaidd hanesyddol. Bydd y prosiect yn defnyddio radio fel offeryn i roi’r grym a chyffroi’r gymuned leol trwy gynnwys pobl ifanc wrth sefydlu a rhedeg eu gorsaf radio gymunedol eu hunain. Gwahoddir grwpiau lleol i chwarae rhan wrth gynhyrchu deunydd newydd i'w ddarlledu. Trwy sefydlu cyfathrebu effeithiol gyda rhannau o’r gymuned sy’n anodd eu cyrraedd, bydd y prosiect yn sefydlu ffyrdd newydd o weithio ar gyfer asiantaethau cymunedol, gwirfoddol a statudol.

Wrth gynnig sylwadau ar yr effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn eu cael ar gymunedau ar draws Cymru, dywedodd Janet Reed, Aelod o Fwrdd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru.

Mae Pawb a’i Le yn gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.

Lawr lwytho rhestr lawn o brosiectau a ariannwyd heddiw (dogfen Word) 
- 41KB

Gwybodaeth pellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a  dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
ADBORTH