Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Achosion Da Cymru yn Galw am Gefnogaeth ym Mhleidlais Deledu Miliynau’r Bobl

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
18 11 2008

Mae wyth o brosiectau cymunedol lleol yn galw am gefnogaeth ar gyfer pleidlais y cyhoedd a allai eu gweld yn ennill hyd at £50,000 gan y Gronfa Loteri Fawr yng nghystadleuaeth Miliynau'r Bobl yr wythnos nesaf ar ITV Wales.

Mae hyd at £250,000 o arian y Gronfa Loteri Fawr ar gael yng Nghymru ar gyfer pum grŵp. Bydd cystadleuaeth Miliynau’r Bobl, sy’n cynnig grantiau a fydd o fudd i gymunedau lleol, yn mynd yn fyw yn ystod yr wythnos rhwng 24 a 28 Tachwedd ar raglen newyddion nosweithiol ITV Wales Tonight.

Dyma'r bedwaredd flwyddyn y mae’r Gronfa Loteri Fawr ac ITV Cymru wedi rhoi’r cyfle i'r cyhoedd bleidleisio ar le y mae arian achosion da y loteri yn mynd yn eu rhanbarth.

Bob nos yr wythnos nesaf (Dydd Llun i Ddydd Iau) bydd dau grŵp yn mynd benben i ennill cefnogaeth y cyhoedd. Ar ddiwedd yr wythnos bydd pedwar prosiect wedi ennill cyfran o arian achosion da y loteri. Bydd yr un sy’n ennill y nifer uchaf o bleidleisiau ffôn o blith y rhai a ddaeth yn ail hefyd yn ennill grant i fod yn bumed enillydd, a gyhoeddir Ddydd Gwener, 28 Tachwedd.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae’r rhaglen wedi dosbarthu £730,000 i 13 o achosion da ar draws Cymru gyda mwy na 30,000 o bobl yn pleidleisio dros eu hoff brosiectau'r llynedd.

Ddydd Llun, 24 Tachwedd, bydd sefydliad All Creatures Great and Small yn Llanfrecha, Torfaen, yn brwydro yn erbyn King George V Playing Fields Association yng Nghastell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin.

Pe bai'r prosiect Barn Regeneration a redir gan y sefydliad All Creatures Great and Small yn ennill calon y cyhoedd, byddant yn adnewyddu ysgubor ger Cwmbrân ac yn ei gweddnewid yn ystafell ddysgu gyda chyfleusterau toiledau. Byddai hyn yn caniatáu i ysgolion a grwpiau cymunedol gael mynediad at ganolfan addysg er mwyn dysgu ynghylch ymwybyddiaeth anifeiliaid anwes ynghyd â threftadaeth y gymuned ffermio leol.

Pe bai King George V Playing Fields Association yn cael gafael ar yr arian, byddent yn ei wario ar y prosiect Playground. Byddai’r arian yn cael ei wario ar amnewid hen offer chwarae gyda maes chwarae modern a diogel ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghastell Newydd Emlyn.

Dydd Mawrth, bydd y The Grasslands Trust yn Sir Gaerfyrddin yn cystadlu yn erbyn y prosiect Ferndale Skate Park (FSP) Ltd yn Rhondda Cynon Taf.

Drwy'r prosiect Trysorau Coedwig Hynafol Carmel, byddai The Grasslands Trust yn adfywio coedwig hynafol sydd wedi ei lleoli yng Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Carmel yn Sir Gaerfryddin. Byddai’r arian yn gwella mynediad i’r safle, hyfforddi pobl leol mewn sgiliau cefn gwlad a dod â bywyd gwyllt yn ôl i un o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf Prydain.

Byddai Ferndale Skate Park (FSP) Ltd yn Rhondda Cynon Taf yn ymfalchïo mewn pleidlais o hyder gan y cyhoedd. Byddent yn gwario’r arian ar ddarparu ystod o offer at ddibenion addysgol a chymdeithasol yn y ganolfan gweithgareddau ieuenctid yng Nglyn Rhedynog, gan gyfoethogi'r gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal a fydd yn arwain at hyrwyddo perthnasau da a ffordd o fyw iach.

Nos Fercher 26 Tachwedd bydd Ysgol Gynradd Bryn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn brwydro yn erbyn 1st Llanelli Scout Group yn Sir Gaerfyrddin.

Byddai Ysgol Gynradd Bryn yn defnyddio’r arian i redeg y prosiect Health and Fitness Through Learning trwy sefydlu amgylchedd addysgol awyr agored ar dir yr ysgol. Byddai'n cynnwys llwybr taclus a gardd amlsynhwyraidd i hyrwyddo ffordd o fyw iach ymhlith disgyblion yr ysgol.

Byddai’r grant yn galluogi’r 1st Llanelli Scout Group yn Sir Gaerfyrddin i redeg y prosiect Phoenix ac adnewyddu’r neuadd sgowtiaid i ddarparu amgylchedd modern a diogel ar gyfer pobl ifanc. Byddai’r grant yn talu am gostau adnewyddu a mynediad i'r anabl.

Bydd hi’n frwydr rhwng y Gogledd a’r De Ddydd Iau 27 Tachwedd, wrth i brosiect COMART yn Abertawe frwydro yn erbyn prosiect St Annes Creative Learning Spaces yn Wrecsam.

Trwy gyflogi artist cymunedol a thalu am ddeunyddiau ac offer celf, bydd y prosiect COMART, a redir gan Dŷ Fforest Community House yn Abertawe, yn taflu lliw dros y gymuned trwy ddarparu cyfleoedd i'r gymuned leol ddysgu sgiliau artistig newydd er mwyn codi eu hyder a’u sgiliau.

Trwy brynu offer chwarae newydd a thirlunio, byddai eu gwrthwynebwyr yn y Gogledd, Ysgol Gynradd Gatholig St Annes, yn rhedeg y prosiect St Annes Creative Learning Spaces, gyda’r nod o weddnewid y maes chwarae llwm cyfredol yn amgylchedd dysgu creadigol.

Bydd y llinellau ffôn pleidleisio yn agor ar y diwrnod y bydd y prosiectau yn ymddangos ar ITV a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi'r diwrnod canlynol. Bydd y rhifau ffôn pleidleisio ar gael ar wefan y Gronfa Loteri Fawr o 9am bob dydd, www.cronfaloterifawr.org.uk.  Bydd y rhifau pleidleisio hefyd yn y Daily Mirror ar ddiwrnod y bleidlais.

Dywedodd Ceri Doyle, Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Dengys ein hymchwil bod ymwybyddiaeth gyhoeddus gynyddol o'r rhaglen, ynghyd â llwyddiant cynyddol y grwpiau sy'n cyrraedd y rownd derfynol wrth gael eu cefnogwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol i godi'r ffôn a phleidleisio. Felly rwy’n annog pobl i wylio'r wythnos nesaf a phleidleisio dros y prosiectau yn eu barn hwy a fyddai’n cael yr effaith fwyaf positif ar eu cymuned leol."

Mae nifer y pleidleisiau a fwriwyd yng nghystadleuaeth Miliynau’r Bobl wedi cynyddu’n sylweddol blwyddyn ar ôl blwyddyn er 2005. Mae’r grwpiau a fu’n cystadlu’r llynedd, y mae 60% ohonynt yn ymgeiswyr am y tro cyntaf am ariannu, wedi adrodd ar gynnydd yn eu proffil ac wedi gwella eu henw da yn y gymuned - boed hwy'n ennill neu’n colli.

Dywedodd cyflwynydd newyddion ITV Wales Tonight, Andrea Benfield: “Mae ITV a’r Gronfa Loteri Fawr wedi sefydlu perthynas weithio gref ac rydym wrth ein boddau ein bod yn cefnogi Miliynau’r Bobl. Dyma ein pedwaredd flwyddyn o bartneriaeth ac rydym wedi helpu i ddosbarthu grantiau sy’n gwneud cyfanswm o ymron i filiwn o bunnau i brosiectau ar draws Cymru. Mae’r arian hwnnw wedi helpu i gyfoethogi bywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws y wlad ac eleni rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan wrth ddyfarnu mwy o grantiau.”

Bydd y galwadau yn costio 10c fesul galwad o linell BT; gallai galwadau o rwydweithiau eraill amrywio a bydd galwadau o ffonau symudol yn sylweddol uwch. Unwaith y bydd y costau gweithredu wedi’u hadennill bydd unrhyw refeniw ffôn sy’n weddill yn cael ei gyfrannu i elusen. Nid yw ITV na’r Gronfa Loteri Fawr yn elwa o’r rhifau ffôn pleidleisio.

Gwybodaeth Bellach

Swyddog y Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Cyswllt y Wasg ITV: Sally Holmes ar 08448 810 202

Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

Rhanbarthau darlledu ITV ym Miliynau’r Bobl:
ITV Anglia (East)
ITV Anglia (West)
ITV Border
ITV Central (East)
ITV Central (West)
ITV Cymru
ITV Granada
ITV London
ITV Meridian (South)
ITV Meridian (East)
ITV Thames Valley
ITV Tyne Tees
ITV West
ITV Westcountry
ITV Yorkshire
STV Central
STV North
UTV

  • Mae 89 o ddyfarniadau ar gael ar draws y DU – pedwar enillydd ac un dyfarniad bonws ar gyfer pob un o 18 rhanbarth ITV (ac eithrio Thames Valley lle bydd tri dyfarniad ac un dyfarniad bonws).

  • Dyddiad allweddol Miliynau’r Bobl ar gyfer y dyddiaduron:
    24 - 28 Tachwedd 2008: Darlledu cystadleuaeth Miliynau’r Bobl ar ITV

  • Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth yw ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol trwy weddnewid yr amgylchedd lleol.
  • Y Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, sy’n gyfrifol am ddosbarthu hanner yr arian achosion da a godir gan y Loteri Genedlaethol.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i gyflwyno gwelliannau gwirioneddol i gymunedau a bywydau’r bobl fwyaf anghenus ac mae wedi bod yn cyflwyno grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa yn ffurfiol gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt a wariwyd gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. Yn sgil hynny, mae £22 biliwn bellach wedi’i godi ac mae mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Cymunedau Cryfach
  • Pobl Ifanc

Categori

  • Adfywio
ADBORTH