Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Grwp o Gymru’n Camu ‘Mlaen Gyda Grant Mawr ar Gyfer Gwyl Gerdded  

Area:
Cymru
Programme:
Arian i Bawb Cymru
Release date:
30 9 2011

Mae gwyl gerdded yn Sir Fynwy a gefnogir gan y cyflwynydd teledu, Kate Humble, wedi derbyn hwb gwerthfawr arall heddiw ar ffurf grant o fwy na mil o bunnoedd gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae grwp Gwyl Gerdded Sir Fynwy yn un yn unig o'r prosiectau cymunedol ar draws De Cymru i rannu'r ariannu a ddyfernir o dan rownd ddiweddaraf rhaglen grantiau bach Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr.

Diolch i'w grant o £1,110 gan y Gronfa Loteri Fawr, cymerodd grwp Gwyl Gerdded Sir Fynwy gam enfawr arall ymlaen wrth iddynt ymdrechu i hyrwyddo eu gwyl annibynnol gyntaf. Cynhelir yr wyl deng niwrnod rhwng dydd Gwener 21 Hydref a dydd Llun 31 Hydref gyda dewis o fwy na thri deg o deithiau cerdded a digwyddiadau. Mae mudiadau lleol megis grwpiau cadwraeth, cymdeithasau hanesyddol, cymdeithasau seryddiaeth a hyfforddwyr ffitrwydd wedi gweithio gyda'r Wyl i roi'r rhaglen at ei gilydd.

A hithau'n un o drigolion Trefynwy mae'r seren deledu a Chyflwynydd BBC Springwatch, Kate Humble, wedi rhoi ei chefnogaeth i'r digwyddiad ac yn gwybod yn dda y buddion a ddaw o gerdded yn yr ardal: “Sir Fynwy yw fy nghartref a dw i'n caru'r lle,” meddai.

“Dw i'n credu fy mod i'n byw mewn un o'r lleoedd prydferthaf yn y byd. Ac fel yr awydd am basio rysáit wych ymlaen neu argymell llyfr da, rwyf eisiau i bobl ddarganfod Sir Fynwy yr un ffordd y gwnes i - ar droed. Bydd G7yl Gerdded Sir Fynwy yn rhoi cyfle i chi wneud hynny. Mae nifer mawr o deithiau cerdded tywysedig ar gyfer cerddwyr ar bob lefel, felly rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen a dewch i brofi'r amrywiaeth ryfeddol y gall Sir Fynwy ei chynnig. Yna gallwch fod â'r pleser o gyflwyno eich ffrindiau i un o lefydd prydferthaf y byd."

Derbyniodd Cadeirydd Gwyl Gerdded Sir Fynwy, Clare Scutts, y siec o £1,110 yn bersonol gan Reolwr Allgymorth Cronfa Loteri Fawr Cymru, Andrea Clarke.

“Rydym eisoes wedi cael dechrau syfrdanol i'r wyl, sydd wedi'i chefnogi gan y seren deledu Kate Humble,” meddai Clare.

“Mae derbyn yr arian hwn wedi rhoi hwb enfawr i ni. Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i fod ar y pwyllgor ac arwain y grwpiau, ond mae angen peth arian i'n helpu i ledaenu'r gair. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gronfa Loteri Fawr am roi'r cymorth hwnnw i ni. Mae'n ymdrech gymunedol go iawn ac rydym wrth ein boddau â gweld tocynnau'n cael eu gwerthu i'r holl siroedd cyfagos. Gobeithiwn y bydd y tywydd yn fwyn ar hyd yr wyl gan fod yna rhai golygfeydd bendigedig yn Sir Fynwy - croesi bysedd ys dywed!"

I gael mwy o wybodaeth am yr wyl, ewch i www.walkinginmonmouthshire.org.

Wrth gyflwyno'r siec, meddai Rheolwr Allgymorth Cronfa Loteri Fawr Cymru, Andrea Clarke: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach. Dymunaf pob hwyl i'r prosiect gyda'i Wyl Gerdded."

Gellir lawrlwytho ffurflen ymgeisio'r rhaglen, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ei chwblhau a'i dychwelyd yn uniongyrchol drwy e-bost i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae hefyd ar gael ar ffurf copi caled.

Mae ffurflenni ymgeisio ar gael drwy fynd i www.arianibawb.org.uk neu ffonio 0300 123 0735.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                   
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Iechyd a lles
ADBORTH