- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arwyr yn Ôl
- Release date:
- 10 11 2011
O lygad y ffynnon fe welodd creulondeb ei ddalwyr, ac fe frwydrodd i oroesi mewn cyflyrau difrifol yng ngwersylloedd Carcharorion Rhyfel drwg-enwog y Japaneaid yn Indonesia lle bu farw miloedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
66 mlynedd wedyn, wrth i'r genedl baratoi ar gyfer seremonïau i goffáu arwriaeth y genhedlaeth arbennig honno ar Ddydd Sul y Coffa (13 Tachwedd), bydd yr awyrennwr David Arthur Harries o Landybie, Sir Gâr, yn rhannu ei atgofion ar ôl aduniad gyda'r nifer bach o garcharorion rhyfel sydd gyda ni o hyd yn ystod digwyddiad arbennig a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr.

David, 89 oed, yn edrych ‘nol ar ei atgofion o’r Rhyfel
Eleni derbyniodd Clwb Carcharorion Rhyfel Jafa a'r Dwyrain Pell 1942 ddyfarniad o £21,000 gan raglen Arwyr yn Ôl 2 y Gronfa Loteri Fawr i helpu goroeswyr i fynd ar daith ddychwelyd emosiynol i Ynysoedd y Moluccas sef Ambon a Haruku yn Indonesia. Cynhaliwyd digwyddiad aduno arbennig yn ôl ym mis Awst eleni yn Swydd Warwig, yr aeth David Harries, 89 oed, iddo. Hyd yn hyn mae rhaglenni Arwyr yn Ôl y Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu mwy na £1 miliwn i fwy na 825 o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gweddwon, gwyr, gwragedd a gofalwyr o Gymru ar gyfer teithiau yn y DU, Ffrainc, Yr Almaen, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell a'r tu hwnt.
Wedi'i eni a'i fagu ym Mhontarddulais, ymunodd yr Awyrennwr David Arthur Harries o Landybie, Sir Gâr, ag Uned Trwsio ac Arbed 81 y Llu Awyr Brenhinol fel peiriannwr yn 17 oed ym 1939. Fel llawer o rai eraill o'r un oedran ag ef, teimlodd cynnwrf mawr ac ymdeimlad o antur. Ei brofiad cyntaf o'r Rhyfel oedd Brwydr Prydain, a'i dasg oedd trwsio'r awyrennau Spitfire a Hurricane a gymerodd ran yn y frwydr.
Yna, fe'i anfonwyd dramor i Singapôr ac fe dreuliodd rhywfaint o amser ym mhrif wersyll RAF y Dwyrain Pell, Seleter, lle adeiladwyd awyrennau ffug a drosglwyddwyd i feysydd awyr ledled Malaya i'w defnyddio i dwyllo awyrenwyr y gelyn. Pan oresgynnodd y Japaneaid ym mis Rhagfyr 1941, symudwyd ei uned ef i'r gogledd o Benang. Yn ystod y mis dilynol gwnaethant gilio drwy'r meysydd awyr amrywiol i lawr Malaya gan nad oedd y Cynghreiriaid wedi paratoi ac nad oeddent yn gallu atal cynnydd y Japaneaid.
“Roedd y Japaneaid yn brysur iawn gyda'u hawyrennau, a byddai ein confoiau'n cael eu bomio ar eu ffordd i'r meysydd awyr," meddai David wrth gofio.
“Pan fomiwyd un o'r meysydd awyr fel gollom un swyddog a thri dyn. Y tro cyntaf yr ymosodir arnoch mae'r ofn yn enfawr, ond rydych yn dod i arfer â dod o hyd i'r lloches orau y gallwch. Y profiad mwyaf erchyll o bell ffordd oedd cael eich pledu gan yr awyrennau. Dyna pryd mae awyrennau ymosod yn dod o gwmpas dwywaith ac yn defnyddio gynau peiriant arnoch. Erbyn hyn roedd y Japaneaid yn rheoli'r awyr yn gyfan gwbl ac roedd yr awyrennau Brewster Buffalo a ddefnyddiom i amddiffyn Malaya yn aneffeithiol iawn fel awyrennau ymosod.”
Encilio
Yn y pen draw enciliodd uned David i faes awyr RAF o'r enw Sembawang yng Ngogledd Singapôr cwpl o wythnosau'n unig cyn bod Singapôr yn cwympo ym mis Chwefror 1942.
Gwnaethom newid i fod yn droedfilwyr, a rhoddwyd reifflau a ffosydd i ni. Cawsom ein sielio'n ddi-baid gan y Japaneaid, a dim ond milltir i ffwrdd o'n canolfan oedden nhw ar y pwynt hwn. Roedd y sieliau'n llawer rhy agos, a dyna pryd es i mewn i'r ffos i ysgrifennu fy ewyllys," meddai David.
Yna dywedwyd wrthynt y byddai holl bersonél RAF yn cael eu tynnu allan o Singapôr i ynys Jafa yn Indonesia, felly meddiannodd David fws bach, a gyrrodd gyda'r dynion i Singapôr.
Gwnaethom gyrraedd y dociau yn Singapôr a chawsom ein blino gan gyrchoedd awyr trwm awyrennau o Japan a oedd yn symud tuag atom," mae'n esbonio.
“Roedd y cyflyrau'n gwbl anniben, roedd yn hynod o brysur, roedd llawer o'r Ddinas yn llosgi ac roedd cerbydau wedi'u dinistrio ym mhobman. Llwyddais fynd ar gwch bach yn yr harbwr a aeth â ni i gyd i Jafa. Gwnaethom gyrraedd Batavia (sef Jakarta bellach) yn hwylus, er yr oedd cychod eraill a oedd yn rhan o gonfoi wedi dioddef ymosodiadau awyr eithaf dwys. Y tro hwnnw roeddem yn ffodus iawn."
Jeifo yn Jafa
Heb wybod beth oedd ar y gorwel, diflannodd gofidion David a'i gymheiriaid yn Jafa.
“Roedd Jafa yn brofiad gwych,” dywedodd gyda gwên.
“Roedd fel cyn y rhyfel. Roedd y clybiau nos yn wych a'r merched yn gyfeillgar iawn a chawsom amser difyr iawn am dwy i dair wythnos nes i ni dderbyn gorchmynion i fynd i Bandung i wasanaethu awyrennau. Cyrhaeddom faes awyr yn Garoet, ond nid oedd unrhyw awyrennau."
Mis Mawrth 1942 oedd e ac roedd y Japaneaid wedi meddiannu Jafa. Roedd y parti drosodd i David a'i gymheiriaid: Ar ôl rhai diwrnodau ildiodd Byddin yr Iseldiroedd ac nid oedd unrhyw ffordd o adael yr ynys, felly aethom yn garcharorion rhyfel yn awtomatig," meddai David.
“Roedd yr ymgyrch gyfan yn draed moch a dyma oedd y gorchfygiad mwyaf yn hanes milwrol Prydain. Nid oedd modd i neb ddianc, a bryd hynny roedd y bobl frodorol ar ochr y Japaneaid. Ond ar ôl rhai misoedd o fyw o dan reolaeth y Japaneaid roeddent yn dyheu am fod o dan reolaeth yr Iseldiroedd eto.”
Chwerwder yn Ynysoedd y Sbeis
Gorchmynnwyd ei uned i fynd i faes awyr yn Tasikmalaya lle roedd miloedd o bersonél RAF wedi dod ynghyd i gael eu carcharu gan y Japaneaid.
"Dewiswyd carfannau i weithio mewn rhannau gwahanol o'r Dwyrain Pell, a chawsom ein hanfon i Malang i drwsio maes awyr, gwnaethom hynny mewn pum mis," meddai.
Ym Malang y cafodd David flas annymunol ar y creulondeb a oedd o'u blaenau.
"Daethpwyd â phedwar carcharor rhyfel a gyhuddwyd o geisio dianc yn ôl i'r gwersyll ac fe'u curwyd yn greulon gan y Japaneaid am wythnos," meddai David wrth gofio.
"Cawsant eu lladd - eu saethu o'n blaenau ni i gyd. Dim ond deunaw oed oeddwn i ar y pryd. Agorodd ein llygaid i ochr arall cymeriad y Japaneaid a pha mor ddidostur y gallen nhw fod. Roedd y peth cyfan yn berfformiad i'n rhybuddio ni."
Caledi ar y Cefnfor
Ym mis Ebrill 1943 yng ngwersyll carchar Jaarmarkt, Sourabaya y dechreuodd David ddod yn ymwybodol o realiti ofnadwy y rhyfel a'i frwydr i oroesi o ddifrif. Ffurfiwyd parêd yn y gwersyll a dewiswyd dros 2,000 o ddynion 'iach', h.y. y rhai nad oeddent yn gloff nag yn ddifrifol dost bryd hynny i fynd ar longau i gyrchfan anhysbys.
"Dywedwyd wrthym yn y pen draw ein bod yn mynd i Ynys Haruku ger Ambon ac y byddem yn gwneud gwaith ysgafn ac yn cael bwyd da iawn - hynny, wrth gwrs, oedd y gwrthwyneb llwyr i'r hyn a gawsom," mae'n esbonio.
Fe'u heidiwyd ar long fach, Amagi Maru, lle bu'n rhaid iddynt oddef cyflyrau mochaidd a chyfyng gydag ychydig iawn o fwyd a dwr ar y daith, a barodd am bythefnos. Ymysg y grwp oedd rhai â dysentri a lledodd hynny'n gyflym gan fod y llong yn orlawn.
"Roeddem wedi'n pacio i mewn i'r grombil fel sardinau a chymerodd bedwar diwrnod ar bymtheg i ni wneud taith a ddylai fod wedi cymryd tri neu bedwar diwrnod," meddai David.
“Defnyddiodd y gardiau eu bidogau i'n procio ni ymlaen a sylweddolom ein bod yn mynd i lawr i grombil y llong. Roedd dynion yn llewygu oherwydd y gwres wrth i'r tymheredd esgyn i tua chan radd ac roedd ychydig iawn o le i gysgu."
"Des i o hyd i guddfan ar fwrdd y llong a chysgais ar ben hen raffau. Roedd yn llawer mwy cyfforddus na bod yn y grombil. Mewn ffordd gallaf ddweud fy mod wedi teithio'n ddosbarth cyntaf ar fy mhen fy hun ar y daith benodol honno o'm cymharu â'r lleill."
“Y swydd a roddwyd i mi oedd golchi cynwysyddion bwyd y gardiau, a gwnaethant adael peth bwyd ynghlwm wrth yr ochrau a oedd yn wahanol iawn i'r reis a roddwyd i ni. Felly nid oed fy mwyd yn rhy wael o'i gymharu â'r bobl eraill, a rhannais yr hyn a oedd gennyf ar ôl.”

Mae’r ffynnon a adeiladwyd gan y carcharorion yn dal yno hyd heddiw yn yr hen wersyll sydd bellach yn Ysgol Elfennol
Uffern ar y Ddaear
Roedd tymor y glaw yn dechrau pan gyrhaeddant Haruku, lle y byddent am dros 16 mis.
"Roedd y gwersyll yn gwpl o gytiau a gwnaethom roi'r rhai a oedd yn ddifrifol sâl ynddynt," meddai David.
“Roeddem lan i'n pen-gliniau mewn mwd o gwmpas y cytiau hyn a gwnaethom gysgu ar y ddaear yn y glaw trwm nes bod mwy o gytiau'n cael eu hadeiladu yn y pen draw. Pan oeddech yn y cytiau hyn, y cysur oedd eich bod yn cysgu cwpl o fetrau o'r ddaear fel nad oeddech yn cysgu ar y pridd soeglyd. Roedd yr wythnosau cyntaf ar Haruku yn ddifrifol a bu farw llawer. Collais lawer o gyfeillion da. Yna roedd disgwyl i ni fynd i weithio ar y maes awyr. Rhoddwyd gaing a morthwyl i ni. Ar y maes awyr oedd dau fryn bach, y bu'n rhaid torri eu brigau ymaith i adeiladu'r maes awyr. Os dychmygwch yr hyn y gallwch ei wneud gyda'r teclynnau hynny, roedd y peth cyfan yn gwbl amhosib ac yn chwerthinllyd. Erbyn yr amser hwn roedd cyfradd y dysentri a'r malaria wedi syrthio sut gymaint yr oedd 90% o bobl wedi'u heffeithio."
Gan sylweddoli na fyddai modd erioed iddynt adeiladu'r maes awyr heb ddynion iach, rhoddodd y Japaneaid orchymyn i roi saib ar y gwaith. I ddechrau cloddiodd y carcharorion ffosydd i'w defnyddio fel toiledau, ond parodd hynny i'r clefyd ledu. Yn y pen draw derbyniwyd caniatâd i godi adeilad dros y môr ac erbyn iddo gael ei adeiladu, roedd cannoedd o bobl wedi marw.
“Daeth tymor y glaw i ben, ac allan o'r llanast gwnaethom adeiladu, o'r diwedd, gwersyll da iawn, y byddai wedi bod yn ofnadwy yn ôl safonau unrhyw un arall," meddai David.
“Bryd hynny rwy'n siwr yr oeddwn i lawr i chwe neu saith pwys. Os oeddech chi'n lwcus neu'n glyfar, roedd yn bosib mynd ar swyddi lle gallech gael bwyd ychwanegol. Fe ddysgais pa fath o lysiau gwyllt y gallech eu bwyta, a byddech hefyd yn dwyn o storfeydd y Japaneaid. Gallech fasnachu'n anghyfreithlon gyda'r bobl frodorol hefyd. Gwnes i gyfnewid tybaco am fwyd."
Gyda rheswm da, byddai'n well gan David anghofio am ei ben-blwydd yn 21 oed ar Haruku:
“Cafodd fy nannedd blaen eu cnocio allan gan gard creulon yr oeddem yn ei alw'n Rat Face oherwydd ei wyneb unigryw. Ni fydda i byth yn maddau iddo am wneud hynny."
"Gwnaethom golli tua phum cant o bobl ar y maes awyr 'na yn Haruku. Yn ystod y cyfnodau gwaethaf byddai cynifer â deuddeg o bobl yn marw mewn diwrnod, gan olygu y byddai yna fedd torfol. Pan ddychwelais ddeugain mlynedd wedyn, roedd carreg goffa ar bob bedd."
Osgoi Bomiau ar Ambon
Ar 1 Awst 1944, symudwyd y parti i Ambon lle gweithiodd David yn dadlwytho llongau ac yn ffoi rhag ymosodiadau cyson gan awyrennau bomio Americanaidd ar yr un pryd.
“Byddem yn dadlwytho nwyddau o'r llong i fadau bach ac yn mynd â nhw'n ôl i'r lan. Ar un achlysur roeddem tua 200 llath o'r lan a gwelais awyren ymosod P-38 dau beiriant Americanaidd yn dod yn nes atom. Trodd y gardd Japanaidd o gwmpas a gwnaeth e bron â lenwi ei bants. Aeth ein bad ymlaen ar garlam a chyrraedd y lan. Rhuthron ni oddi ar y bad a chuddio y tu ôl i goeden. Wrth i ni fynd y tu ôl i'r goeden dechreuodd yr awyren saethu, a dinistriodd y bad. Peth agos iawn oedd hi. Bob dydd pan oeddech chi'n gweithio, dyna oedd y math o berygl."
"Un pryd roeddwn yn edrych ar awyren fomio Americanaidd wrth iddo hedfan heibio i'r bad tua pum deg troedfedd i ffwrdd ohonom, ac roedd un o'r criw yn syllu arnaf y tu ôl i gwn peiriant. Gallwn weld ei wyneb i gyd am eiliad wrth iddo fynd heibio a ac ni wnaeth e saethu."
O bryd i'w gilydd byddai David yn dioddef o bwl arall o Falaria, a buodd e fyw dim ond oherwydd iddo ddod o hyd i gyflenwad o gwinin yn siwtces un o'r swyddogion Japaneaidd y chwiliodd drwyddo tra'n dadlwytho un o'r llongau.
"Dyna'r rheswm y gwnes i oroesi yn ystod y misoedd wedyn," meddai.
Yn ôl i Jafa
Pan feddiannodd yr Americanwyr un o'r ynysoedd gerllaw, penderfynodd y Japaneaid gilio a mynd â'r holl garcharorion yn ôl i Jafa ble yr oedd eu hunllef wedi dechrau.
"Eto roeddem wedi'n pacio i mewn ar gwch masnachol bach a chymerodd y daith, a fyddai fel arfer wedi cymryd tri neu bedwar diwrnod, fisoedd oherwydd dim ond gyda'r nos y gallen ni deithio," esboniodd David.
“Cyrhaeddom ynys o'r enw Muna rhwng Ambon a Makassar ac roeddem wedi'n hynysu yno am chwe mis gydag ychydig iawn o fwyd. Eto, roedd y gyfradd farw yn bum deg y cant. Yr unig waith a wnaethom oedd ceisio plannu bwyd i ategu ein deiet. Os tyfodd y bwyd, byddai'r Japaneaid yn cymryd y rhan helaethaf ohono."
Yna aethpwyd â'r dynion i Ynys Makassar lle treulion nhw dri mis rhwng Ebrill a Gorffennaf 1945 cyn anelu'n ôl i Surabaya yn Jafa mewn cwch bach. Roedd y rhyfel drosodd erbyn y pwynt hwn ac, ar ôl cyrraedd Batavia (Jakarta) ar 17 Awst 1945, cerddodd David allan o'r gwersyll yn ddyn rhydd.
“Er gwaetha rhybuddion i beidio â gwneud hynny, cerddais allan o'r gwersyll," meddai David.
“Roedd yn beryglus y tu allan gan fod y Japaneaid wedi rhoi gynau i'r Indonesiaid ac roeddent am hawlio'r wlad yn ôl ar eu cyfer eu hunain. Es i allan i wersyll menywod yr Iseldiroedd ac yna es i nôl fy nghyfaill Smithy a dweud wrtho fel bod yna lle gwell ar y tu allan na bod yn styc yn y gwersyll."
Byw Bywyd Braf
"Aethom ni allan a byw bywyd braf. Nid oedd gennym lawer o arian felly es i lawr i'r dociau a llwytho'r car Americanaidd mawr roeddwn wedi dod o hyd iddo gyda thecstilau a gwnaethom lwyth o arian. Yn y pen draw roeddem yn rhedeg clwb nos gyda dau fand ac yn difyrru'r milwyr a oedd yn dod i mewn. Rwy'n cofio Swyddog RAF a ddaeth i un o'r nosweithiau yn y clwb. Gan yr oedd e mor hapus roedd am ddychwelyd y ffafr. Felly, pan adawodd am Singapôr, anfonodd neges at fy rhieni i ddweud wrthynt fy mod i'n dal yn fyw. Dyna'r tro cyntaf iddyn nhw glywed unrhyw beth amdana i mewn pum mlynedd."
"Roedd gennym lwyth o arian a chawson ni amser gwych. Pan aeth yn rhy beryglus yn Jafa, treulion ni arian ar ymweld â Singapôr ac yna aethon ni i Rangoon a Mandalay cyn hedfan i Calcutta, lle arhoson ni mewn gwesty moethus. Yn Calcutta ces i bwl o Falaria eto a phenderfynais fod yr amser wedi dod i fynd adref. Roeddwn eisiau gweld mwy o India, felly aethom ar y trên o Calcutta i Bombay, yn teithio'n ddosbarth cyntaf."
Yn Bombay, anfonais hanner dwsin o barseli bwyd i bobl dw i'n eu nabod yn y DU gan yr oedden nhw'n brin o fwyd. Es i ar long filwyr a des i'n ôl i'r DU. Ar y llong enillais gystadleuaeth focsio, a roddodd syndod i mi o ystyried fy nghyflwr yn y gwersyll carchar. Mae fy mywyd wedi bod yn llawn antur. Pan gyrhaeddais Lerpwl roeddwn yn ôl i'm pwysau gwreiddiol, mwy neu lai. Byddwn yn dweud y byddai 99% o garcharorion rhyfel eisiau mynd yn syth adref ar ôl y rhyfel. Mae'n rhaid yr oeddwn i braidd yn annaturiol. Meddyliais i fy hun, ni fyddaf erioed yn gweld y rhan yma o'r byd eto - mae angen i mi achub ar y cyfle."
Wrth ddychwelyd adref ac yntau heb weld ei deulu ers pum mlynedd, cafodd wybod fod ei frawd wedi marw mewn damwain hyfforddi yn America.
"Cyrhaeddais Lerpwl a daeth fy nhad i gwrdd â mi heb i mi wybod. Nid oeddwn wedi'i weld ers pedair neu bum mlynedd, a dywedodd wrthyf fod fy mrawd wedi cael ei ladd wrth hyfforddi fel peilot yn America. Dyna'r tro cyntaf i mi glywed amdano. Roedd hynny'n ofnadwy. Dim ond deuddeg mis yn hyn na fi oedd e ac roeddem ni'n gyfeillion mawr."
Ar ôl dod yn ôl, treuliodd David 12 mis yn cael ei drin am glefydau trofannol yn RAF Sain Tathan. Priododd â'i fiancée, Nora, ac roedd yn briod am 51 mlynedd nes y buodd hi farw ar ôl brwydr wyth mlynedd gyda chlefyd Alzheimer yn 2002. Yna priododd â Margaret, cyfaill gorau Nora, a fu farw yn drist gyda chanser y llynedd.

David ym 1986 gyda saith arall o’r cyn-garcharorion ar Ynys Ambon, ble mae dros 1,000 o Garcharorion Rhyfel wedi eu claddu yn y fynwent
Torri Record
Yn ychwanegol at ei hanes cyfoethog o ddigwyddiadau rhyfel, mae David hefyd wedi torri record byd. Bu'n byw yng Ngorllewin Sussex gyda'i wraig gyntaf am chwe mis ar ôl y rhyfel wedi iddo gael ei wahodd i RAF Tangmere i weithio fel peiriannwr ar dorri record y byd ar gyfer cyflymder wrth hedfan. Ym mis Medi 1946, gosodwyd record cyflymder awyr y byd o 616mph (991km/h) mewn Gloster Meteor.
“Gwnaethom dorri record y byd ond fe'i cymerwyd oddi arnynt fis neu ddau wedyn gan yr Americanwyr,” meddai David.
“Daeth fy ngwraig i lawr i fyw yno gyda fi, roedden ni yno am chwe neu saith mis. I bob pwrpas dyna oedd ein pen-blwydd priodas."
Heddiw mae'r Gronfa Loteri Fawr yn annog cyn-filwyr nad ydynt eto wedi cael y cyfle i deithio ar grant Arwyr yn Ôl 2 i ymgeisio am arian nawr o dan y cynllun estynedig, sy'n dod i ben ym mis Ionawr 2012.
Mae mwy o wybodaeth a manylion am sut i ymgeisio am grant Arwyr yn Ôl 2 ar gael drwy ffonio 0845 00 00 121 neu drwy fynd i www.biglotteryfund.org.uk/heroesreturn
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn parhau â'i chefnogaeth i gyn-filwyr y DU drwy ei menter Forces in Mind £35 miliwn a fydd yn sefydlu ymddiriedolaeth annibynnol i ddarparu cefnogaeth ac eiriolaeth hir dymor i gyn-filwyr. Bydd yr ariannu'n helpu cyn-filwyr a wasanaethai mewn rhyfeloedd gan gynnwys Irac, Afghanistan a Rhyfel y Gwlff sy'n ei chael hi'n anodd trawsnewid i fywyd allan o'r lluoedd arfog, yn enwedig y rhai y mae eu lles seicolegol yn effeithio wedyn ar ansawdd eu bywydau a bywydau'r rhai sydd o'u cwmpas.
Roedd Arwyr yn Ôl yn ganolbwynt i'r rhaglen Aduno Cyn-filwyr, gan gynnwys Cofio'r Ffrynt Cartref a ddyfarnodd £19.2 miliwn i gefnogi digwyddiadau grwp a gweithgareddau seiliedig yn y DU i goffáu'r rhai a gyfrannodd at ymdrech y rhyfel ar y ffrynt cartref, ac Eu Gorffennol Eich Dyfodol gyda chynllun parhaus gwerth £9.6 miliwn yn ariannu rhaglen ysgolion ac addysg DU gyfan er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu gan gyn-filwyr am eu profiad o'r rhyfel o lygad y ffynnon.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu hanner yr arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
- Darparodd y cynllun Arwyr yn Ôl gwerth £17 miliwn ariannu i gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gwragedd a'u gwyr, eu gweddwon alle bo angen, eu gofalwyr presennol, ddychwelyd i'r mannau tramor lle gwelsant y gad. Trwy greu cyswllt â gweithgareddau a ariannwyd drwy'r cynllun Eu Gorffennol Eich Dyfodol, mae Arwyr yn Ôl hefyd yn helpu i wella dealltwriaeth pobl ifanc o'r ymdrechion a'r ebyrth a wnaed gan gyn-filwyr.
- Darparodd Cofio'r Ffrynt Cartref grantiau rhwng £500 a £20,000 ar gyfer prosiectau rhanbarthol a lleol ar draws y DU yn 2004-2005 i goffáu digwyddiadau'r Ail Ryfel Byd a chyfraniadau grwpiau gwahanol mewn cymdeithas. Ariannodd y cynllun amrywiaeth eang iawn o brosiectau gan gynnwys diwrnodau cymunedol arbennig; aduniadau ac arddangosfeydd; recordiadau o brofiadau'r rhai a fu'n byw drwy gyfnod y Rhyfel; dramâu a darnau o waith celf creadigol. Yn ogystal, ariannodd y cynllun nifer o grantiau cenedlaethol i fudiadau megis y TUC i ariannu amrywiaeth o weithgareddau coffáu.
- Mae Eu Gorffennol Eich Dyfodol yn gynllun ysgolion ac addysg parhaus ledled y DU sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu o lygad y ffynnon gan gyn-filwyr am eu profiadau o ryfel. Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cydweithio'n agos â'r Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol a'r sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ledled y DU i helpu pobl ifanc i ymchwilio a dysgu am brofiadau a rolau personol y rhai yn y lluoedd arfog a phobl gyffredin. Mae cystadlaethau wedi galluogi ysgolion i gymryd rhan mewn ymweliadau sy'n ymwneud â'r Ail Ryfel Byd gyda chyn-filwyr. Mae gan yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol wefan (www.theirpast-yourfuture.org.uk) sy'n cynnig amrywiaeth helaeth o adnoddau i ysgolion eu defnyddio ynghyd â manylion prosiectau a gyflwynir gan amgueddfeydd ledled y DU.
Tags