- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 28 6 2012
Mae prosiect i adfywio hen gastell ddadfeiliedig yn Aberteifi a chynllun i greu Canolfan Celfyddydau Cymunedol newydd yng Ngwynedd ymysg y rhai sy'n rhannu mwy na £4 miliwn a ddyfarnwyd heddiw trwy'r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT).
Mae'r rhaglen CAT gwerth £13 miliwn yn bartneriaeth rhwng y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru sy'n bwriadu darparu ariannu cyfalaf a refeniw i gefnogi trosglwyddo asedau megis tir ac adeiladau o fudiadau sector cyhoeddus i berchnogaeth gymunedol.
Bydd y prosiectau sy'n rhannu'r £4,198,346 a gyhoeddwyd heddiw yn defnyddio'r arian i adfywio ac adnewyddu'r asedau gyda'r nod o wella'u bywoliaethau a'u cymdogaethau (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad).
Dyfarnwyd grant o £743,345 i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer y prosiect Castell Aberteifi - Datgloi'r Potensial. Yn rhan o brosiect gwerth £11 miliwn, nod yr ariannu yw helpu i achub Castell Aberteifi ac adeiladau cysylltiedig ar y safle dwy erw. Adeiladwyd y castell y gellir ei weld heddiw ym 1100 gan Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro. Gyda'r buddsoddiad ariannol gan y Gronfa Loteri Fawr, mae'r prosiect yn bwriadu adnewyddu'r adeilad i gyflwyno gweithgareddau megis atyniad treftadaeth i ymwelwyr, arddangosfeydd, siopau, bwyty, digwyddiadau preifat a gweithgareddau addysgol. Caiff llawr uchaf y brif gastell, y Ty Gwyrdd, ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ddosbarthiadau i oedolion, cyfarfodydd a chynadleddau.
Yn rhoi ei sylwadau ar y dyfarniad CAT, meddai Jann Tucker, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan: "Y dyfarniad CAT yw'r darn olaf pwysig o'n pecyn ariannu i adfer Castell Aberteifi. Y dyfarniad hwn yw'r man cychwyn ar gyfer y datblygiad pwysicaf yn y dref ers canrifoedd. Mae'n newyddion gwych i'r castell ac i'r dref."
"Rydym wedi cael cefnogaeth ysgubol gan arianwyr megis y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth C Cymru - erbyn hyn mae'n rhaid i ni fel cymuned adlewyrchu'r gefnogaeth honno trwy godi £150k ein hunain fel arian cyfatebol.”
Yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, bydd Cwmni Tabernacl (Bethesda) Cyf yn defnyddio'r £610,368 a ddyfarnwyd iddo i adnewyddu Neuadd Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda a chreu Canolfan Celfyddydau Cymunedol amlbwrpas a fydd yn cynnwys sinema, theatr a chyngherddau byw, gweithgareddau treftadaeth ac oriel ar gyfer artistiaid lleol. Mewn prosiect yr amcangyfrifir y bydd yn costio hyd at £1 miliwn, bydd y cyfleuster ar ei newydd wedd hefyd yn cynnig addysgu cerddorol, dosbarthiadau drama a dawns, addysg oedolion, amrywiaeth o gyfleoedd gweithdy a swyddfeydd ar gyfer cyngor y gymuned a grwpiau cymunedol eraill.
Ac yntau wrth ei fodd â'r ariannu, meddai Dyfrig Jones, Ysgrifennydd Cwmni Tabernacl Cyf: “Mae Tabernacl yn hynod o falch o dderbyn yr ariannu hwn. Er bod angen i ni godi arian ychwanegol o hyd, mae’r cyfraniad yma yn golygu ein bod bellach llawer yn agosach at gyrraedd ein nod. Ar ôl i ni sicrhau'r holl ariannu ar gyfer y prosiect, byddwn yn gallu gwneud yr holl waith adnewyddu sylweddol y mae ei angen i drawsnewid Neuadd Ogwen i ganolfan gymunedol a diwylliannol o'r radd flaenaf. Bydd yn hwb enfawr i Stryd Fawr Bethesda, ac yn adnodd hynod o werthfawr y gall y gymuned gyfan ei fwynhau."
Ac ym Mhrifddinas Cymru, Caerdydd, mae plasty Fictoraidd gradd II* rhestredig yn Llandaf wedi symud cam yn agosach at fod yn ganolfan ar gyfer treftadaeth, dysgu a gweithgareddau cymunedol. Fel rhan o brosiect gwerth £4.5 miliwn i adfywio plasty a thiroedd Llys Insole, bydd Ymddiriedolaeth Llys Insole yn buddsoddi'r £761,724 a ddyfarnwyd iddi gan y Gronfa Loteri Fawr mewn canolfan ymwelwyr a chanolfan gymunedol newydd. Bydd y prosiect cyffredinol yn gweld y stablau'n cael eu hatgyweirio a'u huwchraddio i ddarparu gweithgareddau cymunedol ac addysg ac ystod eang o swyddogaethau cymunedol eraill, wedi’u gweithredu'n bennaf gan fusnesau cymunedol a mentrau cymdeithasol. Bydd yr adeiladau allanol cyfagos yn cael eu trawsnewid i ddarparu canolfan ymwelwyr ac ystafelloedd te. Bydd y ty a'r gerddi hefyd yn cael eu hadfer i'w gogoniant llawn fel rhan o'r prosiect mwy.

Gan amlygu pwysigrwydd y prosiect, meddai Syr Norman Lloyd-Edwards, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Llys Insole: “Rwyf wrth fy modd bod Ymddiriedolaeth Llys Insole wedi bod yn llwyddiannus gyda'u cais am grant Trosglwyddo Asedau Cymunedol.”
“Mae angen mawr am gyfleusterau cymunedol yn Llandaf, a bydd yr ariannu hwn yn darparu'r rhain, gan helpu pobl hyn a phobl ifanc. Bydd yn ariannu adfer y Stablau, sydd wedi bod yn adfeiliedig ers blynyddoedd lawer, a bydd yn creu swyddi mewn gweinyddu, treftadaeth ac arlwyo. Yr arian CAT yw'r cam cyntaf a phwysig iawn tuag at adnewyddu'r Plasty a gerddi Fictoraidd syfrdanol, lle gobeithiwn fedru adrodd stori'r teulu Insole a sut y gwnaethant gynhyrchu Glo Ager y Rhondda."
Ac wrth wraidd Powys, bydd Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru Cyfyngedig yn defnyddio'u dyfarniad o £777,958 i gaffael Neuadd Farchnad Y Drenewydd. Ar ôl ei chwblhau bydd y ganolfan yn cynnig prydlesi tymor byr hyblyg i fusnesau bach, gyda'r opsiwn o gynyddu a gostwng prydlesi i gwmpasu twf mewn busnesau a helpu busnesau bach i ymdopi â chyfnodau economaidd anodd. Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu dwy fenter gymdeithasol.
Yn mynegi ei llawenydd gyda'r newyddion, meddai Catherine Smith, Cyfarwyddwr Gweithredol ac Ysgrifennydd Cwmni'r Ymddiriedolaeth: “Dyma newyddion gwych i prosiect Neuadd y Farchnad ac i'r Drenewydd. Yn ogystal â chefnogi busnesau bach lleol, bydd adfer yr adeilad rhestredig Gradd II yma'n darparu hwb mawr ar gyfer adfywio canol y dref.”
Meddai'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant: “Mae’r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn dod â chwa o awyr iach i gyfleusterau cymunedol ledled Cymru ac felly mae’r £4 miliwn y bydd grwpiau cymunedol yn ei dderbyn yn y rownd ariannu ddiweddaraf hon i’w groesawu’n fawr. Rwy’n siwr y bydd yn creu buddion cymdeithasol ac economaidd a hefyd yn grymuso cymunedol lleol i ddefnyddio adeiladau a thir yn y ffordd fwyaf priodol ar eu cyfer nhw.”
Meddai Aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor CAT, Mike Theodoulou: "Mae'r rhaglen hon yn helpu cymunedau yng Nghymru i fod yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy drwy eu cynorthwyo i ddatblygu'r ardaloedd y maent yn byw ynddynt yn weithredol. Trwy helpu i drosglwyddo asedau o gyrff sector cyhoeddus i fudiadau mentrus sy'n cynnwys y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu'n weithredol ac yn creu buddion ar eu cyfer, rydym yn y pen draw yn helpu mwy o bobl i elwa o'u hasedau cymunedol lleol a hefyd cynhyrchu incwm a chyflogaeth leol."
I gael mwy o wybodaeth ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk neu e-bostiwch cat@biglotteryfund.org.uk
Rhestr lawn y prosiectau:
| Caerdydd – 1 Grant gwerth £761,724 |
|
|
|
Ymddiriedolaeth Llys Insole |
Adnewyddu Llys Insole |
Bydd yr ymgeisydd yn caffael prydles i gyflawni cadwraeth, ailddatblygu ac ailddefnyddio Llys Insole a datblygu'r Stablau ar gyfer defnydd cymunedol ac i ddarparu ased treftadaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gerddi cyhoeddus. Bydd y prosiect wedi'i gwblhau yn darparu ystod ehangach o gyfleusterau ar gyfer defnyddiau cymunedol lleol, cyfleuster dysgu ac addysgol newydd, cyfleusterau digwyddiadau, caffi a chyfleusterau cysylltiedig i ddarparu ar gyfer ymwelwyr a defnyddwyr y Llys a'i gerddi, gardd gymunedol a defnyddiau cefnogol eraill. |
£761,724 |
| Ceredigion - 1 Grant gwerth £743,345 |
|
|
|
| Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan |
Castell Aberteifi - Datgloi'r Potensial |
Mae'r prosiect yn bwriadu trosglwyddo prydles Castell Aberteifi, sy'n eiddo i'r cyngor. Bydd yr ymgeisydd yn cyflawni gwaith adnewyddu/adeiladu i gyflwyno gweithgareddau megis atyniad treftadaeth i ymwelwyr, arddangosfeydd, siopau, caffi, digwyddiadau preifat a gweithgareddau addysgol. Caiff llawr uchaf y brif gastell, y Ty Gwyrdd, ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ddosbarthiadau i oedolion, cyfarfodydd a chynadleddau. |
£743,345 |
| Gwynedd - 1 Grant gwerth £610,368 |
|
|
|
Tabernacl (Bethesda) Cyf |
Neuadd Ogwen |
Mae'r prosiect yn ymwneud â throsglwyddo rhydd-ddaliad Neuadd Ogwen, adeilad a adeiladwyd ym 1912 yn y Stryd Fawr, Bethesda, Gwynedd. Ar ôl ei cwblhau bydd y neuadd yn darparu Canolfan Celfyddydau Cymunedol amlbwrpas, gan ddarparu sinema, theatr a chyngherddau byw, addysgu cerddorol, drama a dawns, addysg oedolion, amrywiaeth o gyfleoedd gweithdy, swyddfeydd ar gyfer cyngor y gymuned ynghyd â grwpiau cymunedol eraill, gweithgareddau treftadaeth ac oriel i artistiaid lleol. Bydd gweithgareddau'n darparu ar gyfer pob grwp oedran. |
£610,368 |
| Castell-nedd Port Talbot - 1 Grant gwerth £691,807 |
|
|
|
Adfywio Cynaliadwy Sandfields Newydd ac Aberafan |
NSA Community Employment Academy |
Mae'r ymgeisydd yn bwriadu caffael prydles 50 mlynedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Canolfan Gymunedol Heol Dalton. Ar ôl ei chwblhau bydd y ganolfan yn darparu cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer pobl ddi-waith ac yn helpu i wella sgiliau pobl yn y gwaith. Darperir caffi, ystafelloedd hyfforddi a phrif neuadd a bydd yn cael ei gosod i nifer o grwpiau lleol ar gyfer gweithgareddau megis dosbarthiadau ymarfer corff, cyfarfodydd, seminarau a gweithgareddau cymdeithasol. |
£691,807 |
| Powys- 1 Grant gwerth £777,958 |
Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru Cyfyngedig |
Canolfan Busnesau a Mentrau Bach Neuadd Farchnad Y Drenewydd |
Mae'r ymgeisydd yn bwriadu trosglwyddo rhydd-ddaliad Neuadd Farchnad Y Drenewydd. Ar ôl ei chwblhau bydd y ganolfan yn cynnig prydlesi tymor byr hyblyg i fusnesau bach, gyda'r opsiwn o gynyddu a gostwng prydlesu er mwyn cwmpasu twf mewn busnesau a helpu busnesau bach i ymdopi â chyfnodau economaidd anodd, Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu dwy fenter gymdeithasol. |
£777,958 |
| Wrecsam - 1 Grant gwerth £613,144 |
|
|
|
Glyn Wylfa Cyfyngedig |
Canolfan Menter a Threftadaeth Gymunedol Glyn Wylfa |
Mae'r prosiect yn ymwneud â throsglwyddo prydles ty segur dadfeiliedig sy'n dyddio o ddiwedd y cyfnod Fictoraidd yn Y Waun, Wrecsam o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd yr ymgeisydd yn datblygu'r safle i weithredu fel menter gymunedol a chanolfan dreftadaeth. Byddai'r gweithgareddau'n cynnwys caffi cymunedol, gweithdai a swyddfeydd a reolir, canolfan dehongli treftadaeth leol, oriel, siop crefftau a rhoddion. |
£613,144 |
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae'r Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn hyrwyddo trosglwyddo asedau sector cyhoeddus am bris sy'n sylweddol is na'r gwerth ar y farchnad drwy drefniadau trosglwyddo rhydd-ddaliad neu brydles. Mae'r rownd ariannu hon yn rhoi bron £4 miliwn i grwpiau cymunedol er mwyn iddynt greu mentrau cymunedol ffyniannus sy'n mynd i'r afael ag anghenion cymunedau lleol.
- Yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd o brosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags