Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dyfarniadau Mawr i Brosiectau Cymru fel Dathliad 2012 Gwych

Area:
Cymru
Programme:
Arian i Bawb Cymru
Release date:
21 5 2012

Mae Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn yn Wrecsam yn anelu at adael etifeddiaeth Olympaidd a Pharalympaidd barhaus, tra bydd cymunedau eraill yng Nghymru'n paratoi i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines diolch i fwy na hanner miliwn o bunnoedd o grantiau bach a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr i ystod o grwpiau a mudiadau cymunedol ledled y wlad heddiw.

At ei gilydd bydd 155 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £556,595 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen grantiau bach, Arian i Bawb heddiw (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad).

Achlysuron Olympaidd

Gyda dim ond 67 niwrnod i fynd nes bod llygaid y Byd yn canolbwyntio ar Gemau Olympaidd 2012, mae prosiectau yng Nghymru yn dechrau cymryd rhan ac yn gobeithio defnyddio'r gemau i adael etifeddiaeth barhaus yn eu cymunedau diolch i ariannu gan y rhaglen Arian i Bawb.

Gyda'u dyfarniad o £5,000, bydd Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn Celtic Warriors yn Wrecsam, Gogledd Cymru, yn cynnal dwy sesiwn wythnosol rhwng y cenedlaethau yng Nghanolfan Hamdden Darland, Wrecsam, gyda'r nod o fanteisio ar ysbryd y Gemau Olympaidd a gwneud defnydd llawn o gadeiriau olwyn chwaraeon ysgafn trwy roi cyfle i bobl o bob oedran gymryd rhan mewn hwyl a gemau heb ystyried p'un a oes ganddynt anabledd corfforol neu gyflwr sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau ai beidio. Bydd y gweithgareddau a gynigir yn cynnwys gemau taflu at darged, badminton, pwl a gemau dal gyda pheli meddal. Bydd arbenigwyr iechyd a maeth hefyd yn ymweld â'r sesiynau i drosglwyddo cyngor pwysig.

Gan amlygu pwysigrwydd y prosiect mewn perthynas â'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, meddai Michael Hayes, Rheolwr Datblygu Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn Celtic Warriors: “Fel grwp lleol mae'n hollbwysig i ni fanteisio ar yr emosiwn a gynhyrchir gan y gemau Olympaidd a Pharalympaidd a gadael etifeddiaeth barhaus yn y gymuned.”

"Bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfle i bobl roi cynnig a gweld yr hyn y gellir ei gyflawni pan gynigir cyfle chwaraeon iddynt. Mae'r amseru'n iawn i ni gamu allan ac ehangu ymwybyddiaeth pobl o'r hyn a wnawn."

Ychwanegodd:  “Mae'r arian hwn yn hynod o werthfawr gan y bydd yn rhoi cyfle i ni gydweithio â phobl leol nad ydynt erioed wedi ystyried gwneud gweithgareddau cadair olwyn neu chwaraeon o'r blaen. Dyma gyfle euraidd i bobl wneud rhywbeth gwahanol a gwella'u hiechyd a'u lles, a gwneud ffrindiau ar yr un pryd."

Yn Sir Benfro, bydd Clwb Plant Ysgol Roch ym Mhreseli (£4,330) a Chlwb Ar Ôl Ysgol Santes Ffair (£2,797) yn Noc Penfro hefyd yn trefnu ystod o weithgareddau corfforol, diwylliannol a chrefft ar gyfer plant sy'n dod i'w clybiau i'w helpu i ddathlu'r digwyddiad chwaraeon mwyaf ar y planed.

Dathliadau Diemwnt

Ac nid y Gemau Olympaidd yw'r unig beth yr ydym yn paratoi i'w dathlu eleni. Mae llawer o gymunedau eraill yng Nghymru hefyd yn paratoi partis i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, gan nodi 60 mlynedd ers coroni Brenhines Elizabeth II.

Rhwng 12 a 6pm ar 9 Mehefin, disgwylir i tua 1,500 o bobl ddod i Barc Brynmill yn Abertawe ar gyfer diwrnod hwyl llawn dathliadau diolch i'r £5,000 a ddyfarnwyd i Tom Morgans Friends of Brynmill Park i gynnal dathliad Jiwbilî enfawr. Gan ddod â phobl o oedrannau, profiadau, cefndiroedd a diwylliannau ynghyd, bydd y digwyddiad yn cynnig rhywbeth i bawb gan gynnwys difyrwyr i bobl hyn, clowniaid a gemau i blant a phobl ifanc, stondinau elusennau, adrodd storïau a dawnsio.

Meddai Mrs Ann James, Ysgrifennydd Tom Morgans Friends of Brynmill Park: "Mae'n golygu llawer iawn i bawb i gael y dathliad hwn ac rydym yn gobeithio cynnwys cymunedau o'r holl ardaloedd o gwmpas Parc Brynmill. Rwyf wedi byw yma ers 75 mlynedd ac nid oes yr un dathliad wedi bod nad yw'r ardal yma wedi'i ddathlu. Rydym bob amser wedi gwneud rhywbeth. Oherwydd bod y ffyrdd yn brysurach y dyddiau hyn, nid yw mor hawdd i gau'r strydoedd a dyna pam rydym wedi mynd â'r dathliad hwn i Barc Brynmill i gynnal digwyddiad hyd yn oed yn fwy y gall mwy o bobl ei fwynhau."

Ychwanegodd: "Nid yw achlysuron fel hyn yn digwydd yn aml, felly mae'n bwysig manteisio arnynt i'r eithaf."

“Ond nid yw'n ymwneud dim ond â dathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines; mae'n ymwneud â dod ynghyd gyda'r gymuned gyfan a chreu cyfeillgarwch. Rydym wedi codi llawer o arian ein hunain ond ni fyddai modd i ni drefnu'r digwyddiad hwn heb  y grant Arian i Bawb.

Ym Mhowys, bydd Leighton Events Group yn Sir Drefaldwyn (£2,980), Neuadd Pentref Paincastle a'r Cylch (£2,900), Cyngor Tref Llanfair Caereinion (£4,375) ac Ymddiriedolaeth Carnifal Y Drenewydd (£2,000) hefyd yn cynnal parti mawr diolch i'r hwb ariannol gan Arian i Bawb. Ac mewn mannau eraill o Gymru, bydd Clwb Ieuenctid Canolfan Gymunedol Swffryd (£2,650) ym Mlaenau Gwent a Chyngor Cymuned Llansantffraid (£2,500) yng Ngheredigion hefyd yn cynnal llu o ddathliadau Jiwbilî.

Life Savers

Mae grantiau Arian i Bawb hefyd yn helpu i gadw'r môr a'r traethau o gwmpas arfordir Cymru'n fwy diogel yr haf yma. Bydd Sker & Pink Bay Surf Life Saving Club ym Mhen-y-bont ar Ogwr (£5,000) a Newgale Surf Life Saving Club (£4,256) yn Sir Benfro yn gwario eu dyfarniadau ar ddiweddaru cyfarpar hollbwysig.

Star Gazers

Dywedir mai Mynyddoedd Preseli yn Sir Benfro yw lleoliad gwreiddiol y cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu cylch mewnol Stonehenge. Cred llawer y defnyddiwyd Stonehenge fel arsyllfa astronomegol hynafol i dracio newidiad y tymhorau. Erbyn hyn diolch i grant o £4,830 gan Arian i Bawb, bydd Grwp Seryddiaeth Preseli yn dod â rhyfeddodau'r Bydysawd i fwy o bobl yn yr ardal trwy gyfarparu eu clwb gyda'r offer y mae ei angen i gyflwyno darlithoedd cyhoeddus ac ymgysylltu ag aelodau'r grwp a'r cyhoedd ehangach mewn digwyddiadau seryddol. Bydd y grant yn ariannu gliniadur, telesgop a stondin a Thelesgop Solar Personol.

Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”

Mae'r ffurflen gais ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei lawrlwytho o www.arianibawb.org.uk neu ofyn amdani trwy ffonio 0845 4 10 20 30.

Rhestr lawn y dyfarniadau 
- 148KB

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau:  07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Cyn-filwyr
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH