Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cyn-filwr yn Cofio Goroesi Ymosodiadau Kamikaze yn y 'Teiffwn Dûr'

Area:
Cymru
Programme:
Arwyr yn Ôl
Release date:
15 8 2012

Wrth i ni goffáu diwedd yr Ail Ryfel Byd gyda Buddugoliaeth dros Japan (Diwrnod VJ) heddiw (15 Awst), mae cyn-filwr o Ynys Môn yn cofio ei rôl ym Mrwydr y Môr Tawel, sef y 'Teiffwn Dur', a sut y goroesodd ymosodiadau hunanleiddiol Kamikaze, gan osgoi marwolaeth mewn brwydrau morol mawr yn ymestyn o Fôr y Canoldir i'r Môr Tawel.

Diolch i grant gan raglen Arwyr yn Ôl 2 y Gronfa Loteri Fawr, bydd Caradog Jones, 88 oed o Gaergybi, Ynys Môn, yn dychwelyd i Awstralia eleni i gofio ble y daeth ei ryfel i ben 67 mlynedd yn ôl ac i dalu teyrnged i'r sawl a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro chwerw a gwaedlyd rhwng 1939 a 1945.

Mae Caradog yn un o nifer mawr o gyn-filwyr o Gymru sydd wedi mynd, neu sydd ar fin mynd, ar deithiau llawn emosiwn i'r lleoedd y buont yn gwasanaethu yn ystod y rhyfel. Hyd yn hyn mae rhaglen Arwyr yn Ôl y Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu mwy na £1 miliwn i fwy na 830 o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gweddwon, gwyr, gwragedd a gofalwyr o Gymru ar gyfer teithiau yn y DU, Ffrainc, Yr Almaen, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell a'r tu hwnt.

Ym mis Tachwedd 1942 ac yntau ond yn 18 oed, cafodd Caradog Jones ei alw i'r Llynges Frenhinol fel Llongwr Abl. Ymunodd â'r gangen Torpidos ac roedd yn gyfrifol am danio torpidos o Longau Dinistrio ar longau'r gelyn a gollwng bomiau tanddwr i suddo llongau tanfor y gelyn. Daeth ei ryfel i ben wrth i Japan ildio ar ôl i America ollwng y Bomiau Atomig ar Hiroshima a Nagasaki.

“Es i'r rhyfel yn gwbl ddiniwed, a ddim yn gwybod beth i ddisgwyl," esboniodd Caradog.

“Y peth doniol yw yr ymunais â'r Llynges Frenhinol heb fedru nofio strôc er gwaetha'r ffaith yr oedd dwr o'm cwmpas fi ym mhobman yn tyfu i fyny ar Ynys Môn. Hyd at heddiw 'dw i dal ddim yn gallu nofio."

Ymuno â'r 'Llong Lwcus’

Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yn llwyddiannus yn Plymouth, daeth Caradog wyneb yn wyneb â'i long newydd, HMS Queenborough, am y tro cyntaf yn Gourock, Yr Alban.

Rhoddwyd yr enw 'Y Llong Lwcus' i'r Queenborough ar ôl y rhyfel, gan gyfeirio at yr holl frwydrau bron yn farwol y daeth hi a'i chriw allan ohonynt heb niwed er gwaetha'r ffaith eu bod wedi brwydro mewn rhai o'r theatrau rhyfel mwyaf peryglus o gwmpas y byd.

"Alla i ddim ddisgrifio sut yr oeddwn i'n teimlo ar fy ffordd i ymuno â'r llong," meddai Caradog.

"Do'n i ddim yn gwybod unrhyw beth amdani na'r hyn y byddai'n rhaid i mi ei wneud, doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un yn y criw, roedd popeth yn ddirgel ac roeddwn yn poeni llawer. Yr unig beth yr oeddwn i'n gwybod oedd bod yn rhaid i mi fynd. Ond yn ddigon buan fe ddes i'n gyfarwydd â gweddill y criw yn y lle bwyta. Roedden ni i gyd wedi'n gwasgu i mewn fel sardinau."

Sisili – Blas cyntaf ar y Rhyfel

Ar ôl ychydig ddyddiau ar ymarferion o gwmpas Scapa Flow, Yr Alban, hwyliodd y Queenborough allan tua Gibraltar a Môr y Canoldir i baratoi ar gyfer ei rôl yn y goresgyniad o Sisili, ymgyrch fawr pan gipiodd y Cynghreiriaid Sisili o grafanc Pwerau'r Echel. Dechreuodd y goresgyniad ar 9 Gorffennaf 1943 a pharhaodd tan 17 Awst.

“Cafodd y milwyr eu cludo i Sisili o Affrica ar ôl iddynt frwydro yn yr ymgyrch yno,” mae Caradog yn cofio.

“Ein gorchwyl ni oedd eu cadw nhw'n ddiogel rhag ymosodiadau llongau tanfor a rhag ymosodiadau awyr y gelyn pan oeddent ar eu ffordd i oresgyn Sisili. Roedd gennym y dasg hefyd o orchfygu gynnau mawr yr Almaenwyr ar hyd yr arfordir a oedd yn dal ein milwyr ni yn ôl. Byddem yn sielo safleoedd yr Almaenwyr tan iddynt dynnu'n ôl er mwyn i'n milwyr ni fwrw 'mlaen."

“Byddem yn twyllo'r Almaenwyr hefyd. Byddem yn creu'r hyn yr oeddem yn ei alw'n 'laniad ffug' trwy sielo safle ar yr arfordir i beri i'r Almaenwyr feddwl ein bod am lanio yno, a byddent wedyn yn symud eu lluoedd i'r ardal honno. Yna byddai ein milwyr ni'n glanio rhywle gwahanol ar yr arfordir i'w dal nhw'n annisgwyl."

Yn ystod y goresgyniad o Sisili cafodd Caradog a'r Queenborough un o'u nifer mawr o ddiangfeydd cyfyng y gwrthdaro.

“Ble bynnag yr oeddem roeddem yn cael ein bomio trwy'r amser. Un pryd yn ystod Sisili, daeth chwe awyren ymosod Almaenaidd tuag atom, gyda bom yr un wedi'u hanelu atom. Gan fod y bomiau mor agos fe aethom trwy ffrwd ddwr y bom yn syth o'n blaenau."

Goresgyniad Yr Eidal

Arweiniodd llwyddiant yn Sisili at oresgyniad o dir mawr Yr Eidal ym mis Medi 1943 ac unwaith eto roedd gan y Queenborough rôl fawr i'w chwarae wrth sielo safleoedd ac amddiffyn llongau rhyfel eraill. Hi oedd un o'r llongau rhyfel cyntaf i fynd trwy Culfor Mesina, a daeth hi allan heb niwed unwaith eto ar ôl cael ei thargedu gan chwe o awyrennau ymosod yr Almaenwyr.

“Ar ôl i ni feddiannu Sisili, aethom ymlaen i gipio Salerno a thir mawr Yr Eidal, a symudon ni i fyny Morlin yr Adriatig hyd at borthladd Bari," meddai Caradog.

"Cawsom ein bomio'n drwm gan yr Almaenwyr. Pan oeddem ni yn ein gorsafoedd ymladd neu pan wnaethant ymosod arnom ni, nid oedd unrhyw amser i deimlo ofn. Byddech chi'n bwrw 'mlaen gyda'r dasg dan sylw. Byddai'r llong yn cyflymu ac yn siglo dros y lle i gyd, gan geisio osgoi'r bomiau. Gyda'n gynnau'n tanio a'r holl fomiau'n dod i lawr, roedd y swn yn enfawr. Dim ond wedyn y byddech chi'n meddwl yn ôl am ba mor lwcus yr oeddech ac yn dweud 'diolch byth mae hynny wedi dod i ben'."

Roedd y ‘Llong Lwcus’ yn wir i'w henw ar sawl achlysur arall yn ystod ymgyrch Yr Eidal.

"Byddem yn sielo safleoedd yn ystod y dydd a phob cwpl o nosweithiau byddem yn mynd allan ar draws yr Adriatig i Iwgoslafia ar batrôl, yn chwilio am longau a llongau tanfor y gelyn. Arwyddair ein llong oedd ‘Seek and Slay.’” esboniodd Caradog.

“Un noson pan oeddem ar batrôl, ymosodwyd yn drwm ar ein lleoliad, porthladd Bari gan yr Almaenwyr. Cafodd dwy ar bymtheg o'n llongau eu suddo yn yr harbwr y noson honno. Dywedwyd wrthym i beidio â mynd yn ôl yno, a bu'n rhaid i ni dynnu i mewn i borthladd arall."

"Byddem hefyd yn mynd ar batrôl yn rheolaidd gydag un arall o'n chwaer-longau. Un diwrnod aeth hi allan ar ei phen ei hun ac arhosom ni yn y porthladd. Roedd hi wedi mynd tua chanllath allan o'r porthladd pan yn sydyn cafodd ei ffrwydro i fyny gan fom tanfor yn y dwr a gwnaethom ei cholli hi. Roeddem yn lwcus y diwrnod hwnnw, gallai fod mai ni oedd wedi'i chael hi."

Ymosodiadau Kamikaze ym Mrwydr y Môr Tawel

Ar ôl gadael Môr y Canoldir ac ymosod ar safleoedd y Japaneaid ar hyd Cefnfor yr India ac Arfordir Gorllewinol Malaya ar ddiwedd 1944, anfonwyd y Queenborough i'r môr Tawel i gefnogi'r rhyfel yn erbyn Japan.

Dyma ble cymerodd Caradog a'r Queenborough ran ym Mrwydr Okinawa, ymgyrch ymosod morol fwyaf Rhyfel y Môr Tawel ar ynys Okinawa oddi ar arfordir deheuol Japan. Parhaodd y frwydr o ran gyntaf mis Ebrill tan ganol mis Mehefin 1945.

Mae'r frwydr wedi cael ei galw'n ‘Deiffwn Dur’ wrth gyfeirio at chwerwder yr ymladd, dwyster yr ymosodiadau Kamikaze gan amddiffynwyr Japan a nifer enfawr llongau a cherbydau arfog y Cynghreiriaid a ymosododd ar yr ynys.

Rhwng 23 Mawrth a 29 Mai 1945, roedd y Queenborough yn rhan o gonfoi hebrwng a amddiffynnodd llongau awyrennau Prydeinig wrth i'w hawyrennau ymosod ar feysydd awyr Japaneaidd yn ardal Okinawa a'r ynysoedd Ryuku amgylchynol.

Dyma ble y gwelodd Caradog o lygad y ffynnon y lladdfa yn sgil yr ymosodiadau hunanleiddiol Kamikaze ar longau rhyfel y Cynghreiriaid.  Bu farw miloedd o bersonél y Llynges, suddwyd o leiaf 47 llong a difrodwyd tua 300 ohonynt gan ymosodiadau Kamikaze.

“Roedd y Japaneaid yn trio eu gorau glas i'n hatal ni ac yn taflu popeth tuag atom," meddai Caradog wrth gofio.

"Roedd gennym dasglu enfawr yno. At ei gilydd roedd 1,400 o longau ac 882 o longau ymosod. Roedd gan yr Americanwyr tua 182,000 o filwyr ar Okinawa hefyd. At ei gilydd roeddem ni yno am dri deg un diwrnod ac roedd yn ddi-baid."  

Ar un achlysur, tra'n hebrwng pedair llong awyrennau (HMS Victorious, Illustrious, Indomitable ac Indefatigable), ymosodwyd arnynt gan awyrenwyr hunanleiddiol Kamikaze.

"Roeddem yn gwybod eu bod nhw'n dod ac aethom i gyd at ein gorsafoedd ymladd a pharatoi ein hunain," meddai Caradog.

"Ein gorchwyl i bob pwrpas oedd tynnu sylw yr awyrenwyr Japaneaid oddi wrth ymosod ar ein milwyr ar Okinawa. Ni oedd y targed hawdd. Dw i'n cofio'r gynnau ar bob llong yn tanio ar yr awyrennau wrth iddynt ddod trwy'r cymylau tuag ar ein llongau awyrennau. Ein llongau awyrennau ni oedd eu targedau blaenoriaeth nhw. Cafodd yr Illustrious a'r Indomitable eu bwrw, ond gyda dim ond tolc bach ar eu deciau.”  

“Pan fyddai'r Kamikaze yn bwrw ein llongau awyrennau, byddai'r hyn a oedd ar ôl ohonynt ar y dec hedfan yn cael ei lusgo drosodd a'i wthio dros yr ochr i wneud lle i'n awyrennau ni barhau i lanio ac esgyn yn ystod y frwydr. Oherwydd yr ergyd, byddai'n rhaid weithiau iddynt newid y platiau wedi'u difrodi ar y dec.”

Gollwng y Bom

Uchafbwynt y rhyfel oedd gollwng y bom atomig ar Hiroshima a Nagasaki, gan arwain at ildiad Japan a diwedd yr ymladd ar 15 Awst, 1945. Mae Caradog yn cofio'n fyw Capten y llong yn ei hysbysu am y cynllun i ddefnyddio'r bom atomig yn erbyn Japan. Er bod rôl y bomio yn ildiad Japan a'r cyfiawnhad moesegol yn dal i gael eu trafod heddiw, nid oes amheuaeth gan Caradog yn ei feddwl mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud.

“Gwnaethom ddioddef colledion trwm yn Okinawa a dyna pam y penderfynwyd gollwng y 'Bom Atomig' ar Japan gan nad oeddent eisiau gweld hynny'n digwydd eto," mae'n dweud.

"Yr amcangyfrif oedd y byddem yn colli tua miliwn o filwyr os gwnaethom ymosod ar Japan a byddai'n well gan y Japaneaid farw nag ildio. Rwy'n cofio'r Capten yn esbonio eu bod am ollwng y bom ar Hiroshima. Daeth â ni ynghyd a dweud bod y Cynghreiriaid wedi rhoi tri diwrnod i Japan ildio neu byddent yn gollwng bom arall. Gollyngwyd y bom ar Nagasaki pan wrthododd Japan ildio. Dyna pryd y daeth y rhyfel i ben. Roedd y Japaneaid yn gwybod eu bod wedi'i chael hi pan ollyngwyd yr ail fom. Yn bersonol dw i'n credu mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud oherwydd yr oedd, yn ôl pob tebyg, wedi achub fy mywyd i a bywydau pobl ddi-rif eraill. Nid oeddem ni delio gyda gelyn confensiynol. Roedden nhw'n benboethiaid gorffwyll ac roeddem yn ei chanol hi ar y pryd, a heb obaith y byddai'n dod i ben. Roedd yn rhaid i chi fod yno i ddeall hynny."

"Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben, bu'n rhaid i ni aros pum niwrnod cyn i ni fedru symud o'n safleoedd gan fod yn rhaid i'r Japaneaid alw eu holl longau tanfor yn ôl a sicrhau eu bod nhw i gyd wedi'u cyfrif. Mae'n bosib yr oedd rhai o'r llongau tanfor y tu hwnt i gyrraedd y signalau radio. I bob pwrpas roedd mewn modd brwydro o hyd, rhag ofn y byddent yn ymosod arnom ni."

Hong Kong a rhyddid i Garcharorion Rhyfel Awstralia

"Pan oedd y rhybudd ar ben ac roeddem yn gallu symud, aethom ni i Hong Kong lle aeth ein Llyngesydd i gwrdd â Chomander Japaneaidd i gael gwybod ble yr oedd yr holl wersylloedd carcharorion rhyfel," mae Caradog yn esbonio.

“Aethpwyd â ni i ynys ger Hong Kong a oedd yn cynnwys y rhan fwyaf ohonynt ac roedd llawer o Awstraliaid yno. Aethom â thua 30 ohonynt ar ein llong. Roedden nhw mewn cyflwr truenus ac fe'n rhybuddiwyd ni i beidio â rhoi bwyd iddyn nhw gan y gallen nhw farw."

Croeso i'r Arwyr

Cafodd y Queenborough yr anrhydedd o hebrwng llong awyrennau yn llawn carcharorion rhyfel Awstralia wedi'u rhyddhau yn ôl i harbwr Sydney ar ddiwedd y Rhyfel.

"Cawsom groeso mawr gan eu bod yn ein disgwyl ni," meddai Caradog.

"Roedd Pont Harbwr Sydney yn ddu gyda phobl. Roedd yn ddathliad enfawr. Roedd y carcharorion rhyfel yn dioddef o ddiffyg maeth ac ni allai rai ohonyn nhw gerdded. Aethom i fyny i Katoomba yn y Mynyddoedd Glas am ddeng niwrnod o saib, ac yno ces i fy ngwahodd i aros gyda theulu yn Sydney. Roedd e'n Uwchgapten yn y fyddin ac arhosom yn gyfeillion am flynyddoedd lawer wedi hynny."

Cartref ar gyfer y Nadolig

Rhoddwyd benthyg y Queenborough i Lynges Frenhinol Awstralia ar ôl y rhyfel, a dychwelodd Caradog i'r DU ar long arall, HMS Norman, cyn cyrraedd adref ar Ynys Môn wythnos cyn Dydd Nadolig 1945.

“Nid oeddwn wedi bod adref ers dwy flynedd a hanner a chyrhaeddais adref wythnos cyn y Nadolig," meddai.

“Roedd fy mrawd wedi bod allan yn ymladd ym Myrma ac yn ffodus fe ddaeth e adref deuddydd cyn y Nadolig. Roedd yn hyfryd bod adref gyda phawb, yn ddiogel. Roedd fy mrawd wedi ymuno ym 1939 a daeth y rhyfel i ben ar ei gyfer ef ar Ddiwrnod VJ hefyd. Roedd yn rhyfedd bod y ddau ohonom ni yn ôl ar yr un pryd. Roedd fy Mam wrth ei bodd â chael ei bechgyn yn ôl yn ddiogel.

Yr Arwr yn mynd yn Ôl

Chwe deg saith mlynedd ar ôl iddo hwylio i mewn i Harbwr Sydney fel arwr gyda llwyth amhrisiadwy o garcharorion rhyfel Awstralia wedi'u rhyddhau, yn barod i gael eu haduno â'u teuluoedd a'u cariadon, bydd Caradog yn dychwelyd i Awstralia am dair wythnos ym mis Tachwedd i dalu teyrnged i'r cymheiriaid a fu farw ac i weld y lleoedd y bu yn y gad.

Yn ystod ei ymweliad bydd yn cymryd rhan mewn Diwrnod Coffa Awstralia yn Canberra ar 11 Tachwedd gyda'i ferch, Gwenda,

Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi estyn ei rhaglen Arwyr yn Ôl 2. Ar hyn o bryd nid oes gan y rhaglen derfyn amser penodol ar gyfer ceisiadau. Mae'r estyniad hwn ar gyfer y cyn-filwyr nad oedd modd iddynt fynd ar ymweliad coffáu hyd yn hyn.

Mae mwy o wybodaeth a manylion am sut i ymgeisio am grant Arwyr yn Ôl 2 ar gael drwy ffonio 0845 00 00 121 neu fynd i www.biglotteryfund.org.uk/heroesreturn

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn parhau â'i chefnogaeth i gyn-filwyr y DU drwy ei menter Forces in Mind £35 miliwn a fydd yn sefydlu ymddiriedolaeth annibynnol i ddarparu cefnogaeth ac eiriolaeth hir dymor i gyn-filwyr. Bydd yr ariannu'n helpu cyn-filwyr a wasanaethai mewn rhyfeloedd gan gynnwys Irac, Afghanistan a Rhyfel y Gwlff sy'n ei chael hi'n anodd trawsnewid i fywyd allan o'r lluoedd arfog, yn enwedig y rhai y mae eu lles seicolegol yn effeithio wedyn ar ansawdd eu bywydau a bywydau'r rhai sydd o'u cwmpas.

Roedd Arwyr yn Ôl yn ganolbwynt i'r rhaglen Aduno Cyn-filwyr, gan gynnwys Cofio'r Ffrynt Cartref a ddyfarnodd £19.2 miliwn i gefnogi digwyddiadau grwp a gweithgareddau seiliedig yn y DU i goffáu'r rhai a gyfrannodd at ymdrech y rhyfel ar y ffrynt cartref, ac Eu Gorffennol Eich Dyfodol gyda chynllun parhaus gwerth £9.6 miliwn yn ariannu rhaglen ysgolion ac addysg DU gyfan er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu gan gyn-filwyr am eu profiad o'r rhyfel o lygad y ffynnon.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu hanner yr arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.  
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da.  O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
  • Darparodd y cynllun Arwyr yn Ôl gwerth £17 miliwn ariannu i gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gwragedd a'u gwyr, eu gweddwon alle bo angen, eu gofalwyr presennol,  ddychwelyd i'r mannau tramor lle gwelsant y gad.  Trwy greu cyswllt â gweithgareddau a ariannwyd drwy'r cynllun Eu Gorffennol Eich Dyfodol, mae Arwyr yn Ôl hefyd yn helpu i wella dealltwriaeth pobl ifanc o'r ymdrechion a'r ebyrth a wnaed gan gyn-filwyr.

Tags

Buddiolwyr

  • Cyn-filwyr
ADBORTH